Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Dawnsio Indiaidd / Indian Dancing

    Tue 12 Jun 2018

    Cafwyd diwrnod egniol iawn o ddawnsio Indiaidd heddiw, gyda holl disgyblion Blwyddyn 5 & 6 yn dysgu am ddiwylliant India, cerddoriaeth a'r dawnsfeydd amrywiol sy'n cael eu haddysgu. Mwynheon ni mas draw!

     

    A very energetic day of Indian dancing was had by our Year 5 & 6 pupils today as they learnt all about Indian culture, music and the various dances that are taught. We had a great time!  (12/6/18)    

  • Hyfforddiant Hyfedredd Seiclo Bl 6 / Year 6 Cycling Proficiency Training

    Tue 12 Jun 2018

    O ganlyniad i hyfforddiant gan Cycle Training Wales, bydd disgyblion Blwyddyn 6 llawer fwy hyfedr yn seiclo yn eu milltir sgwâr dros yr haf yn dilyn rhaglen o hyfforddiant dwys, yn yr ysgol ac ar yr heolydd lleol. Fodd bynnag, dim ond dechrau'r hyfforddiant yw hwn a bydd rhaid i'r disgyblion hynny defnyddio'u holl sgiliau a'u gwybodaeth tra'n defnyddio'u beiciau. 

     

    Thanks to Cycle Training Wales, our Year 6 pupils will be far more proficient whilst cycling in their locality over the summer holidays, following an extensive training course, both at the school and on the local roads. However, all the pupils were reminded that this is only the beginning of their training and that they must use all their skills and knowledge whilst on their bikes.  (12/6/18)

  • Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd / Urdd National Eisteddfod

    Mon 04 Jun 2018

    Bu nifer o ddisgyblion ein hysgol yn cynrychioli Gorllewin Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd dros y Sulgwyn yn Llanelwedd. Manteisiodd bob plentyn ar y cyfle i berfformio o flaen cynulleidfa fawr, gyda phawb yn rhoi o’u gorau glas. Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau, nid yn unig ar gyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol ond am y ffordd gwnaethon nhw gynrychioli’r ysgol gydag anrhydedd. Rhaid diolch hefyd i’r holl staff a fu’n ymrwymedig â pharatoi’r disgyblion mor dda dros y misoedd diwethaf. Rydym yn ffodus iawn i gael cymaint o ddisgyblion a staff talentog yn ein plith. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!

     

    Whitsun week saw a number of our pupils representing West Glamorgan at the Urdd National Eisteddfod in Builth Wells. Everyone enjoyed the opportunity of performing in front of a large audience and each pupil gave of his / her very best. The school is extremely proud of their achievements, not only in reaching the National Eisteddfod but also for the way in which they represented the school with such distinction. A great deal of thanks must also go to those members of staff who have shown so much commitment in preparing these pupils over the past few months. We’re extremely fortunate to have so many talented pupils at staff at our school. Diolch yn fawr iawn i chi gyd! (4/6/18)

  • Gwasanaeth Tonia Antoniazzi / Tonia Antoniazzi Assembly

    Fri 18 May 2018

    Diolch yn fawr iawn i Tonia Antoniazzi, ein Haelod Seneddol, am sgwrsio gyda disgyblion CA2 am bwysigrwydd democratiaeth ac am ateb cymaint o'n cwestiynau ni heddiw. Sbardun i wleidyddion ifanc y dyfodol efallai?

     

    A big thank you to Tonia Antoniazzi, our local Member of Parliament, for discussing the importance of democracy with our KS2 pupils today and for answering so many of our questions. Encouraging the next generation of political leaders perhaps?  (18/5/18)

  • 'Sgen ti Dalent YGG Pontybrenin / YGG Pontybrenin's Got Talent

    Fri 27 Apr 2018

    Bu’r sioe ’Sgen ti Dalent YGG Pontybrenin a gynhaliwyd heno yn Neuadd Les Casllwchwr yn lwyddiant ysgubol, gyda phawb yn gweld pa mor dalentog mae disgyblion ein hysgol. Gwelwyd amrywiaeth hyfryd o ganu, llefaru, dawnsio a cherddoriaeth, gyda’r holl blant yn manteisio ar y cyfle i arddangos eu talentau i’r gynulleidfa brwdfrydig. Hoffwn ddiolch o galon i Karen Grayson, cyn-ddisgybl YGG Pontybrenin ac athrawes ddrama ac astudiaethau theatr yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, am gytuno i feirniadu’r gystadleuaeth – tasg anodd iawn. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a fynychodd y sioe am gefnogi eu plant a'u wyrion. Gwerthfawrogwyd y gefnogaeth yn fawr iawn. 

     

    The YGG Pontybrenin’s Got Talent show held at Loughor Welfare Hall this evening was a great success and gave everyone a glimpse of just how talented our pupils are. We had a wonderful variety of singing, reciting, dancing and instrumental music, with every one of our performers taking full advantage of the opportunity to showcase their talents in front of an enthusiastic audience. We’re extremely grateful to Karen Grayson, a past pupil of YGG Pontybrenin and currently a drama and theatre studies teacher at Ysgol Gyfun Ystalyfera, for agreeing to judge the performances – a very difficult task indeed. Finally, a big thank you to all those who came along to support their children and grandchildren. It was very much appreciated. (27/4/18)

  • Arwethiant Celf Bl 1&2 / Years 1&2 Art Sale

    Thu 26 Apr 2018

    Gyda chymaint o waith celf arbennig ar werth, doedd hi'n fawr o syndod i weld cymaint o rieni a rhieni-cu yn mynychu arwerthiant celf dosbarthiadau Miss Richards, Mrs Griffiths a Mrs Bishop-Williams heddiw. Mwynheodd y disgyblion greu'r gwaith celf gan obeithio y bydd perchnogion eu gwaith yn mwynhau arddangos eu campweithiau cymaint. 

     

    With so much fantastic art work on sale, it was no wonder that so many parents and grandparents turned up to Miss Richards, Mrs Griffiths and Mrs Bishop-Williams' classes' art sale today. The pupils thoroughly enjoyed creating the art and we hope that our buyers equally enjoy displaying their masterpieces at home. (26/4/18)

  • Gweithdy Cerddoriaeth Cymraeg / Welsh Music Workshop

    Thu 19 Apr 2018

    Pwy sy'n dweud nad yw cerddoriaeth Cymraeg yn arbennig o dda? Mae disgyblion Blwyddyn 6 yn sicr yn mwynhau gwrando ar drawsdoriad o ganeuon cyfoes Cymraeg ar ôl eu gweithdy gydag Aled o YnniDa heddiw, i'w ddilyn gyda disgo Cymraeg egniol iawn. Er mwyn cadw'r gerddoriaeth i fynd a'r goleuadau yn fflachio, rhaid oedd pedalu a phedalu a phedalu ......! Mwynheodd pawb mas draw gan ddysgu i werthfawrogi yr hyn sydd gan gerddoriaeth Cymraeg i'w gynnig. 

     

    Who says Welsh music isn't amazing? Our Year 6 pupils certainly think it is after enjoying a Welsh music workshop with Aled from YnniDa, followed by a Welsh music disco with a difference. To keep the music playing and the disco lights flashing, our energetic pupils had to pedal and pedal and pedal ......! They all had a great time and learnt to appreciate all that Welsh music has to offer. 

  • Llwyddiant Eisteddfod Rhanbarthol / Regional Eisteddfod Success

    Sat 24 Mar 2018

    Ar ol misoedd o waith caled ac ymroddiad gan ddisgyblion a staff, hyfryd oedd blasu cymaint o lwyddiant yn Eisteddfod Rhanbarthol yr Urdd ym Mhort Talbot heddiw. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un o'r disgyblion am berfformiadau mor arbennig heddiw. Carwn ddiolch hefyd i'r staff sydd wedi rhoi mor hael o'u hamser dros y misoedd diwethaf i baratoi y plant hynny. Mae pob un ohonyn nhw yn haeddu pob canmoliaeth. Dyma i chi grynodeb o'r canlyniadau sydd yn cynnwys YGG Pontybrenin:

    • Llefaru Unigol Bl 3&4 - Grace Humphreys - 1af
    • Cor - 3ydd
    • Llefaru Unigol Bl 5&6 - Anna Sartori - 2il
    • Parti Unsain - 1af
    • Parti Deulais - 2il
    • Grwp Llefaru - 1af

    Edrychwn ymlaen yn awr at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanelwedd ym mis Mai - Ymlaen YGG Pontybrenin!

     

    Months of hard work and application on the part of both pupils and staff paid dividends today with a very successful Urdd Regional Eisteddfod in Port Talbot. I'd like to take this opportunity to thank every one of our pupils who gave great performances and are a credit to our school and to their parents. I'd also like to thank all the staff who have given so freely of their time of the past few months in preparing our pupils. They deserve all the success in the world. A brief summary of the results featuring YGG Pontybrenin:

    • Year 3&4 Individual Recitation - Grace Humphreys - 1st
    • Choir - 3rd
    • Year 5&6 Individual Recitation - Anna Sartori - 2nd
    • Unison Party - 1st
    • Two-part Party - 2nd
    • Recitation Group - 1st

    We now look forward to the Urdd National Eisteddfod in Builth Wells in May - Ymlaen YGG Pontybrenin!  (24/3/18)

  • Ymweliad Bl 5 i Gaerdydd - Diwrnod 1 / Year 5 trip to Cardiff Bay - Day 1

    Thu 22 Mar 2018

    Diwrnod cyntaf cyffrous iawn yng Nghaerdydd, gydag ymweliad Sain Ffagan, ymweliad Canolfan Mileniwm Caerdydd a'r Bowlio Deg. Plant wedi blino'n lan neithiwr ac yn edrych ymlaen i noson dda o gwsg (gobeithio!). Diwrnod prysur arall o'u blaenau heddiw.

     

    A very busy first day in Cardiff Bay yesterday, with the vist to St Fagans, a visit to the Millenium Centre and Ten Pin Bowling. The children were shattered last night and looking forward to a good night's sleep (hopefully!) Another busy day ahead today. (22/3/18) 

  • Cystadleuaeth Symbolau Masnach Deg / Fair Trade Symbols Competition

    Wed 21 Mar 2018

    Llongyfarchiadau i ddosbarthiadau Blwyddyn 2 Miss Richards a Blwyddyn 4 Miss Walker am ennill y gystadleuaeth casglu symbolau Manach Deg. Hyfryd oedd gweld cymaint o ddisgyblion (a'u rhieni wrth gwrs!) yn prynu nwyddau Masnach Deg dros y pythefnos diwethaf. Arbennig!

     

    Congratulations to Miss Richards' Year 2 class and Miss Walker's Year4 class on winning the competition to collect the most Fair Trade symbols. It was great to see so many pupils (and their parents of course!) buying Fair Trade goods over the past fortnight. Well done!  (21/3/18)

Top