Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd / Urdd National Eisteddfod

    Mon 30 May 2022

    Bu nifer o ddisgyblion ein hysgol yn cynrychioli Gorllewin Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd dros y Sulgwyn yn Nimbych. Manteisiodd bob plentyn ar y cyfle i berfformio o flaen cynulleidfa fawr, gyda phawb yn rhoi o’u gorau glas. Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau, nid yn unig ar gyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol ond am y ffordd gwnaethon nhw gynrychioli’r ysgol gydag anrhydedd. Rhaid diolch hefyd i’r holl staff a fu’n ymrwymedig â pharatoi’r disgyblion mor dda dros y misoedd diwethaf. Rydym yn ffodus iawn i gael cymaint o ddisgyblion a staff talentog yn ein plith. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!

     

    Whitsun week saw a number of our pupils representing West Glamorgan at the Urdd National Eisteddfod in Denbigh. Everyone enjoyed the opportunity of performing in front of a large audience and each pupil gave of his / her very best. The school is extremely proud of their achievements, not only in reaching the National Eisteddfod but also for the way in which they represented the school with such distinction. A great deal of thanks must also go to those members of staff who have shown so much commitment in preparing these pupils over the past few months. We’re extremely fortunate to have so many talented pupils at staff at our school. Diolch yn fawr iawn i chi gyd! (30/5/22)

  • Wythnos 'Dathlu fy Sgiliau' y Derbyn / Reception's 'Celebrating my Skills' Day

    Tue 24 May 2022

    Bu diwrnodau 'Dathlu fy Sgiliau' y dosbarthiadau Derbyn yn lwyddiant ysgubol unwaith eto eleni, yn dilyn 2 flynedd hebddynt, gyda nifer fawr o rieni a rhieni-cu yn mynychu'r sesiynau. Hyfryd oedd gweld disgyblion yn arddangos eu datblygiad sgiliau tra bod eu rhieni a'u rhieni-cu yn derbyn mewnwelediad i'r strategaethau sydd ar waith ar lawr y dosbarth.

     

    Our Reception classes 'Celebrating my Skills' days proved very successful yet again this year, following a 2 year hiatus, with a large number of parents and grandparents attending. It was wonderful to see the pupils showcasing their skills development whilst parents / grandparents got an insight into some of the strategies used in class. (24/5/22)

  • Gwyl Rygbi Ysgolion Lleol / Local Schools Rugby Festival

    Fri 13 May 2022

    Hyfryd oedd cael chwarae rygbi yn erbyn hen ffrindiau heddiw wrth i nifer o ysgolion lleol ddod ynghyd i ddangos pa mor dalentog mae ein disgyblion. Roedd safon y chwarae yn dda iawn, gydag Ysgol Gymraeg Pontybrenin yn ennill pob gem tra'n sgorio nifer o geisiau hyfryd. Edrychwn ymlaen at yr ŵyl nesaf ymhen rhai wythnosau.

     

    It was wonderful having the opportunity to play rugby against old friends today as a number of local teams came together to showcase their talented players. The standard of play was very good, with Ysgol Gymraeg Pontybrenin winning all our games whilst scoring some fantastic tries.  We look forward to the next festival in the coming weeks. (13/5/22)  

  • Pencampwyr Rygbi yr Urdd! / Urdd Rugby Champions!

    Tue 03 May 2022

    Llongyfarchiadau mawr i dîm rygbi Blwyddyn 6 ar ennill twrnamain rygbi Urdd Gorllewin Morgannwg eleni. Gyda chyfuniad perffaith o chwaraewyr talentog, gwaith tîm da ac hyfforddiant o'r radd flaenaf gan Mr Sterl, enillodd y tîm pob un o'u 7 gêm ar y ffordd i'r teitl. Yn anffodus, does dim rownd cenedlaethol eleni ond gall y garfan gyfan ymfalchïo yn eu llwyddiant. Da iawn chi!  

     

     

    Congratulations to our Year 6 rugby team on winning this year’s West Glamorgan Urdd rugby tournament. A winning combination of very talented players, teamwork, determination and top class coaching from Mr Sterl saw the team win all 7 of their matches on the way to the title. Unfortunately, there is no national final this year but the entire squad can take a great deal of pride in their accomplishment. Da iawn chi! (3/5/22)

     

Top