Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Ymweld â 10 Downing St / Visiting 10 Downing Street

    Fri 25 Apr 2025

    O ganlyniad i'r bartneriaeth rhyngom ni ag Ysgol Kryvi Rih Gymnasium No 28, a gyda chefnogaeth hael y Cyngor Prydeinig, buodd criw o ddisgyblion Blwyddyn 6 sy'n aelodau o'r Cyngor Ysgol, Pwyllgor Eco a'r Pwyllgor Lles, yn ymweld â 10 Downing St heddiw. Yn ogystal ag ymgymryd â gwahanol gweithdai diwylliannol gyda phlant eraill, cafodd disgyblion y cyfle i fynd ar daith o gartref swyddogol y Prif Weinidog yn ogystal â thynnu lluniau wrth y drws enwog. Roedd hi'n brofiad bythgofiadwy!

     

    As a result of our UK - Ukraine School Partnership with Kryvi Rih Gymnasium No 28 School and following generous support from the British Council, a number of Year 6 pupils who are members of the School Council, Eco Committee and Wellbeing Committee had the experience of a lifetime today when they visited 10 Downing Street. In addition to partaking in various cultural workshops with other children, our pupils got the opportunity to tour the Prime Minister's official residence and got to take photos of themselves at the famous front door. It was an experience they'll never forget! (25/54/25)

  • Pencampwyr Rygbi Ysgolion Cymru Dan 11 / Welsh Schools Under 11s Rugby Champions

    Thu 03 Apr 2025

    Llongyfarchiadau mawr i Bencampwyr Rygbi Ysgolion Cymru Dan 11 – Ysgol Gymraeg Pontybrenin! Yn ddiguro ac heb ildio yr un cais trwy gydol y twrnamaint, curon ni Ysgol Gymraeg Llantrisant yn y rownd derfynol gyda chyfuniad o chwarae mentrus ac amddiffyn cadarn. Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r ysgol yn browd iawn o’r bechgyn ar eu llwyddiant ac am gynrychioli Ysgol Gymraeg Pontybrenin gydag anrhydedd. Da iawn bois!  

     

    A huge congratulations to the Welsh Schools U11s Rugby Champions for 2025 – Ysgol Gymraeg Pontybrenin! Unbeaten and without conceding a single try throughout the tournament, we beat Ysgol Gymraeg Llantrisant in
    the final with a combination of adventurous play and solid defence. Everyone associated with the school is extremely proud of all the boys on this fantastic achievement. Llongyfarchiadau mawr i chi gyd! (3/4/25)

Top