Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Llwyddiant Eisteddfod Rhanbarthol / Regional Eisteddfod Success

    Sat 24 Mar 2018

    Ar ol misoedd o waith caled ac ymroddiad gan ddisgyblion a staff, hyfryd oedd blasu cymaint o lwyddiant yn Eisteddfod Rhanbarthol yr Urdd ym Mhort Talbot heddiw. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un o'r disgyblion am berfformiadau mor arbennig heddiw. Carwn ddiolch hefyd i'r staff sydd wedi rhoi mor hael o'u hamser dros y misoedd diwethaf i baratoi y plant hynny. Mae pob un ohonyn nhw yn haeddu pob canmoliaeth. Dyma i chi grynodeb o'r canlyniadau sydd yn cynnwys YGG Pontybrenin:

    • Llefaru Unigol Bl 3&4 - Grace Humphreys - 1af
    • Cor - 3ydd
    • Llefaru Unigol Bl 5&6 - Anna Sartori - 2il
    • Parti Unsain - 1af
    • Parti Deulais - 2il
    • Grwp Llefaru - 1af

    Edrychwn ymlaen yn awr at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn Llanelwedd ym mis Mai - Ymlaen YGG Pontybrenin!

     

    Months of hard work and application on the part of both pupils and staff paid dividends today with a very successful Urdd Regional Eisteddfod in Port Talbot. I'd like to take this opportunity to thank every one of our pupils who gave great performances and are a credit to our school and to their parents. I'd also like to thank all the staff who have given so freely of their time of the past few months in preparing our pupils. They deserve all the success in the world. A brief summary of the results featuring YGG Pontybrenin:

    • Year 3&4 Individual Recitation - Grace Humphreys - 1st
    • Choir - 3rd
    • Year 5&6 Individual Recitation - Anna Sartori - 2nd
    • Unison Party - 1st
    • Two-part Party - 2nd
    • Recitation Group - 1st

    We now look forward to the Urdd National Eisteddfod in Builth Wells in May - Ymlaen YGG Pontybrenin!  (24/3/18)

  • Ymweliad Bl 5 i Gaerdydd - Diwrnod 1 / Year 5 trip to Cardiff Bay - Day 1

    Thu 22 Mar 2018

    Diwrnod cyntaf cyffrous iawn yng Nghaerdydd, gydag ymweliad Sain Ffagan, ymweliad Canolfan Mileniwm Caerdydd a'r Bowlio Deg. Plant wedi blino'n lan neithiwr ac yn edrych ymlaen i noson dda o gwsg (gobeithio!). Diwrnod prysur arall o'u blaenau heddiw.

     

    A very busy first day in Cardiff Bay yesterday, with the vist to St Fagans, a visit to the Millenium Centre and Ten Pin Bowling. The children were shattered last night and looking forward to a good night's sleep (hopefully!) Another busy day ahead today. (22/3/18) 

  • Cystadleuaeth Symbolau Masnach Deg / Fair Trade Symbols Competition

    Wed 21 Mar 2018

    Llongyfarchiadau i ddosbarthiadau Blwyddyn 2 Miss Richards a Blwyddyn 4 Miss Walker am ennill y gystadleuaeth casglu symbolau Manach Deg. Hyfryd oedd gweld cymaint o ddisgyblion (a'u rhieni wrth gwrs!) yn prynu nwyddau Masnach Deg dros y pythefnos diwethaf. Arbennig!

     

    Congratulations to Miss Richards' Year 2 class and Miss Walker's Year4 class on winning the competition to collect the most Fair Trade symbols. It was great to see so many pupils (and their parents of course!) buying Fair Trade goods over the past fortnight. Well done!  (21/3/18)

  • Diwrnod Rhyngwladol Syndrom Down / World Down Syndrome Day

    Wed 21 Mar 2018

    O ganlyniad i haelioni holl aelodau Teulu YGG Pontybrenin, llwyddon ni gasglu £344 ar gyfer Hands Up For Downs gyda’r apêl Diwrnod Syndrom Down Rhyngwladol ar Ddydd Mercher. Hoffwn ddiolch i bawb unwaith eto am eich caredigrwydd a’ch cefnogaeth, nid yn unig yr wythnos hon ond dros y tymor cyfan. Gwerthfawrogir y gefnogaeth yn fawr iawn.

     

    We raised a fantastic £344 for Hands Up For Downs with today’s World Down Syndrome Day appeal and I’d like to thank everyone once again for your continued generosity, not only with this week’s fundraiser but with all your support this term. It’s very much appreciated. Diolch yn fawr iawn! (21/3/18)

  • Traws Gwlad Gorllewin Morgannwg / West Glamorgan Cross Country

    Fri 16 Mar 2018

    Llongyfarchiadau mawr i Alfie ac Evan am redeg mor dda yng nghystadleuaeth traws-gwlad ysgolion Gorllewin Morgannwg neithiwr. Derbyniodd y bechgyn y gwahoddiad i redeg yn dilyn llwyddiant mewn nifer o rasys traws-gwlad diweddar ac mae'n amlwg bod gan y ddau ohonynt y talent a'r stamina i lwyddo yn y maes. Chwaraeodd Mrs Cairns, rhedwraig traws-gwlad o fri ei hun, rhan yn eu llwyddiant hefyd gyda'i hyfforddiant a'i chyngor doeth. Diolch yn fawr iawn Mrs Cairns! Aelodau o dîm y DU Gemau Olympaidd Los Angeles 2028 efallai?    

     

    Congratulations to Alfie and Evan for running so well at last night's West Glamorgan school's cross-country championships. Both boys were invited to run following a series of high placed finishes in recent cross-country events and both clearly have the talent and stamina to succeed in the sport. Their success was also due in part to the excellent coaching of Mrs Cairns, herself an accomplished cross-country runner. Diolch yn fawr Mrs Cairns! Members of the GB Los Angeles Olympics team in 2028 maybe?  (16/3/18) 

  • Sboncio Noddedig / Sponsored Bounce

    Thu 15 Mar 2018

    Cafwyd diwrnod hyfryd yn yr ysgol heddiw wrth i ddisgyblion sboncio ar drampolinau yn yr heulwen braf er mwyn codi arian i elusen arbennig. Yn ogystal â sboncio, cafodd bob plentyn y cyfle i eistedd yn hofrennydd  Ambiwlans Awyr Cymru hefyd, gan freuddwydio am hedfan i'r adwy. Diolch yn fawr iawn i Mr & Mrs Holmes unwaith eto eleni am eu haelioni yn benthyca eu trampolinau ac i Clive a Stuart o Ambiwlans Awyr Cymru am eu cyflwyniad i'r disgyblion ac am godi eu hymwybyddiaeth o waith pwysig yr eleusen hon. Diolch yn fawr hefyd i holl aelodau Teulu YGG Pontybrenin am roddi mor hael i gefnogi eu plant a'u wyrion. Mae'r arian dal yn cael ei gyfrif felly byddwn yn cyhoeddi'r cyfanswm yfory. Diolch yn fawr iawn!  

    .

    A wonderful day was had by everyone today as our pupils bounced for charity in glorious sunshine. With the mock Wales Air Ambulance helicopter in attendance, all our pupils also had the opportunity to sit in the helicopter and dream of flying to the rescue. A huge thank you to Mr & Mrs Holmes for donating their trampolines once again this year and to Clive and Stuart from Wales Air Ambulance for their presentation to our pupils and for raising awareness of the wonderful work that the charity does. Thank you also to the entire YGG Ponntybrenin family who have given so generously in sponsoring their children or grandchildren. We're still counting the money and will announce the total raised tomorrow. Diolch yn fawr iawn! (15/3/18)  

  • Cwis 'Dim Clem' / 'Dim Clem' Quiz

    Wed 14 Mar 2018

    Diolch yn fawr iawn i Menter Iaith Abertawe am drefnu a chynnal Cwis Dim Clem i dîm o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn Nhy Tawe heddiw. Mwynheodd y plant y cyfle i ateb cyfres o gwestiynau a phosau am Gymru, tra'n cymdeithasu gyda'u cyfoedion o Ysgol Gymraeg Lon Las. Roedd hi'n gystadleuaeth agos iawn, gyda Lon Las yn fuddugol o 41 pwynt i 38 yn diwedd. Da iawn chi!

     

    A big thank you to Menter Iaith Abertawe for organising and hosting today's 'Dim Clem' Quiz in Ty Tawe for our Year 6 quiz team. The children thoroughly enjoyed themselves answering questions and solving problems based on Wales and had a great time socialising with their peers from Ysgol Gymraeg Lon Las. It was a very competitive contest, with Lon Las finally coming out on top 41 points to 38. Well done everyone! (14/3/18)

  • Noson Gymhwysedd Digidol / Digital Competence Evening

    Tue 13 Mar 2018

    Cafodd nifer o rieni budd a phleserus mawr wrth fynychu ein Noson Gymhwysedd Digidol heno a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Dewiniaid Digidol, Mrs Fewings a'r staff am arwain y noson mor dda. Mwynheodd pawb y cyfle i rhyngweithio gyda'r disgyblion ac i ddysgu am yr apiau mwyaf poblogaidd sy'n cael eu defnyddio gan yr ysgol, gyda phob un yn canmol y plant am eu gwaith arbennig.

     

    A very worthwhile and enjoyable time was had by all those parents who came along and supported our Digital Competence event this evening. A big thank you to our Digital Wizards, Mrs Fewings and the staff for leading the event so successfully. The opportunity to interact with the pupils and learn all about the most popular apps being used by the school was very beneficial, with all those in attendance praising the children for their wonderful work. (13/3/18) 

  • Llwyddiant Eisteddfod Gylch / Local Area Eisteddfod Success

    Fri 09 Mar 2018

    Da iawn i bob disgybl (dros 70 ohonynt) am gynrychioli’r ysgol mor dda yn Eisteddfod Gylch yr Urdd heddiw. Roedd pob aelod o staff yn browd iawn o berfformiadau’r plant a’u hymddygiad tra’n aros yn amyneddgar i berfformio. Llongyfarchiadau mawr i’r 14 unigolyn neu grŵp o’r ysgol hon a fu’n fuddugol heddiw, a dymuniadau gorau iddynt yn Eisteddfod Rhanbarthol yr Urdd yn Theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot ar Ddydd Sadwrn, Mawrth 24ain. Ymlaen YGG Pontybrenin!

     

    Well done to all 70+ pupils who represented the school so well at today’s Urdd Local Eisteddfod. Every member of staff is extremely proud of both their performances and their behaviour whilst waiting patiently to perform. Congratulations to all 14 individuals & groups who won today and we now wish them the best of luck in the Urdd Regional Eisteddfod, which will be held at The Princess Royal Theatre in Port Talbot on Saturday, March 24th. Ymlaen YGG Pontybrenin! (9/3/18)

  • Eisteddfod Cyfnod Allwedol 2 / Key Stage 2 Eisteddfod

    Wed 07 Mar 2018

    Gyda balchder ac angerdd am ein Cymreictod a'n hiaith, dathlwyd Eisteddfod ysgol CA2 eleni gydag amrywiaeth o ganu, llefaru a thrawsdoriad hyfryd o waith celf. Llongyfarchiadau mawr i Carys ar ennill y brif gystadleuaeth, sef y stori greadigol, ac am gipio'r llwy garu. Da iawn i bawb am fentro!

     

    With pride and passion for our Welshness and our language, our junior pupils celebrated our KS2 school Eisteddfod today with a variety of singing, reciting and a wonderful mix of art work. Congratulations to Carys on winning the main competition, the creative story, and for taking home this year's love spoon. Well done to all those who took part!  (7/3/18) 

Top