Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Diwrnod Rhyngwladol Syndrom Down / World Down Syndrome Day
Wed 21 Mar 2018O ganlyniad i haelioni holl aelodau Teulu YGG Pontybrenin, llwyddon ni gasglu £344 ar gyfer Hands Up For Downs gyda’r apêl Diwrnod Syndrom Down Rhyngwladol ar Ddydd Mercher. Hoffwn ddiolch i bawb unwaith eto am eich caredigrwydd a’ch cefnogaeth, nid yn unig yr wythnos hon ond dros y tymor cyfan. Gwerthfawrogir y gefnogaeth yn fawr iawn.
We raised a fantastic £344 for Hands Up For Downs with today’s World Down Syndrome Day appeal and I’d like to thank everyone once again for your continued generosity, not only with this week’s fundraiser but with all your support this term. It’s very much appreciated. Diolch yn fawr iawn! (21/3/18)
-
Traws Gwlad Gorllewin Morgannwg / West Glamorgan Cross Country
Fri 16 Mar 2018Llongyfarchiadau mawr i Alfie ac Evan am redeg mor dda yng nghystadleuaeth traws-gwlad ysgolion Gorllewin Morgannwg neithiwr. Derbyniodd y bechgyn y gwahoddiad i redeg yn dilyn llwyddiant mewn nifer o rasys traws-gwlad diweddar ac mae'n amlwg bod gan y ddau ohonynt y talent a'r stamina i lwyddo yn y maes. Chwaraeodd Mrs Cairns, rhedwraig traws-gwlad o fri ei hun, rhan yn eu llwyddiant hefyd gyda'i hyfforddiant a'i chyngor doeth. Diolch yn fawr iawn Mrs Cairns! Aelodau o dîm y DU Gemau Olympaidd Los Angeles 2028 efallai?
Congratulations to Alfie and Evan for running so well at last night's West Glamorgan school's cross-country championships. Both boys were invited to run following a series of high placed finishes in recent cross-country events and both clearly have the talent and stamina to succeed in the sport. Their success was also due in part to the excellent coaching of Mrs Cairns, herself an accomplished cross-country runner. Diolch yn fawr Mrs Cairns! Members of the GB Los Angeles Olympics team in 2028 maybe? (16/3/18)
-
Sboncio Noddedig / Sponsored Bounce
Thu 15 Mar 2018Cafwyd diwrnod hyfryd yn yr ysgol heddiw wrth i ddisgyblion sboncio ar drampolinau yn yr heulwen braf er mwyn codi arian i elusen arbennig. Yn ogystal â sboncio, cafodd bob plentyn y cyfle i eistedd yn hofrennydd Ambiwlans Awyr Cymru hefyd, gan freuddwydio am hedfan i'r adwy. Diolch yn fawr iawn i Mr & Mrs Holmes unwaith eto eleni am eu haelioni yn benthyca eu trampolinau ac i Clive a Stuart o Ambiwlans Awyr Cymru am eu cyflwyniad i'r disgyblion ac am godi eu hymwybyddiaeth o waith pwysig yr eleusen hon. Diolch yn fawr hefyd i holl aelodau Teulu YGG Pontybrenin am roddi mor hael i gefnogi eu plant a'u wyrion. Mae'r arian dal yn cael ei gyfrif felly byddwn yn cyhoeddi'r cyfanswm yfory. Diolch yn fawr iawn!
.
A wonderful day was had by everyone today as our pupils bounced for charity in glorious sunshine. With the mock Wales Air Ambulance helicopter in attendance, all our pupils also had the opportunity to sit in the helicopter and dream of flying to the rescue. A huge thank you to Mr & Mrs Holmes for donating their trampolines once again this year and to Clive and Stuart from Wales Air Ambulance for their presentation to our pupils and for raising awareness of the wonderful work that the charity does. Thank you also to the entire YGG Ponntybrenin family who have given so generously in sponsoring their children or grandchildren. We're still counting the money and will announce the total raised tomorrow. Diolch yn fawr iawn! (15/3/18)
-
Cwis 'Dim Clem' / 'Dim Clem' Quiz
Wed 14 Mar 2018Diolch yn fawr iawn i Menter Iaith Abertawe am drefnu a chynnal Cwis Dim Clem i dîm o ddisgyblion Blwyddyn 6 yn Nhy Tawe heddiw. Mwynheodd y plant y cyfle i ateb cyfres o gwestiynau a phosau am Gymru, tra'n cymdeithasu gyda'u cyfoedion o Ysgol Gymraeg Lon Las. Roedd hi'n gystadleuaeth agos iawn, gyda Lon Las yn fuddugol o 41 pwynt i 38 yn diwedd. Da iawn chi!
A big thank you to Menter Iaith Abertawe for organising and hosting today's 'Dim Clem' Quiz in Ty Tawe for our Year 6 quiz team. The children thoroughly enjoyed themselves answering questions and solving problems based on Wales and had a great time socialising with their peers from Ysgol Gymraeg Lon Las. It was a very competitive contest, with Lon Las finally coming out on top 41 points to 38. Well done everyone! (14/3/18)
-
Noson Gymhwysedd Digidol / Digital Competence Evening
Tue 13 Mar 2018Cafodd nifer o rieni budd a phleserus mawr wrth fynychu ein Noson Gymhwysedd Digidol heno a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Dewiniaid Digidol, Mrs Fewings a'r staff am arwain y noson mor dda. Mwynheodd pawb y cyfle i rhyngweithio gyda'r disgyblion ac i ddysgu am yr apiau mwyaf poblogaidd sy'n cael eu defnyddio gan yr ysgol, gyda phob un yn canmol y plant am eu gwaith arbennig.
A very worthwhile and enjoyable time was had by all those parents who came along and supported our Digital Competence event this evening. A big thank you to our Digital Wizards, Mrs Fewings and the staff for leading the event so successfully. The opportunity to interact with the pupils and learn all about the most popular apps being used by the school was very beneficial, with all those in attendance praising the children for their wonderful work. (13/3/18)
-
Llwyddiant Eisteddfod Gylch / Local Area Eisteddfod Success
Fri 09 Mar 2018Da iawn i bob disgybl (dros 70 ohonynt) am gynrychioli’r ysgol mor dda yn Eisteddfod Gylch yr Urdd heddiw. Roedd pob aelod o staff yn browd iawn o berfformiadau’r plant a’u hymddygiad tra’n aros yn amyneddgar i berfformio. Llongyfarchiadau mawr i’r 14 unigolyn neu grŵp o’r ysgol hon a fu’n fuddugol heddiw, a dymuniadau gorau iddynt yn Eisteddfod Rhanbarthol yr Urdd yn Theatr y Dywysoges Frenhinol ym Mhort Talbot ar Ddydd Sadwrn, Mawrth 24ain. Ymlaen YGG Pontybrenin!
Well done to all 70+ pupils who represented the school so well at today’s Urdd Local Eisteddfod. Every member of staff is extremely proud of both their performances and their behaviour whilst waiting patiently to perform. Congratulations to all 14 individuals & groups who won today and we now wish them the best of luck in the Urdd Regional Eisteddfod, which will be held at The Princess Royal Theatre in Port Talbot on Saturday, March 24th. Ymlaen YGG Pontybrenin! (9/3/18)
-
Eisteddfod Cyfnod Allwedol 2 / Key Stage 2 Eisteddfod
Wed 07 Mar 2018Gyda balchder ac angerdd am ein Cymreictod a'n hiaith, dathlwyd Eisteddfod ysgol CA2 eleni gydag amrywiaeth o ganu, llefaru a thrawsdoriad hyfryd o waith celf. Llongyfarchiadau mawr i Carys ar ennill y brif gystadleuaeth, sef y stori greadigol, ac am gipio'r llwy garu. Da iawn i bawb am fentro!
With pride and passion for our Welshness and our language, our junior pupils celebrated our KS2 school Eisteddfod today with a variety of singing, reciting and a wonderful mix of art work. Congratulations to Carys on winning the main competition, the creative story, and for taking home this year's love spoon. Well done to all those who took part! (7/3/18)
-
Eisteddfod y Cyfnod Sylfaen / Foundation Phase Eisteddfod
Tue 06 Mar 2018Cafwyd llawer o hwyl a sbri yn Eisteddfod y Cyfnod Sylfaen heddiw, gyda disgyblion yn dathlu eu Cymreictod trwy ganu, llefaru a dathlu eu doniau creadigol, gan gynnwys y gystadleuaeth 'Y Genhinen Bedr fwyaf'. Da iawn blant!
We had a lot of fun with today's Foundation Phase Eisteddfod, with pupils celebrating their Welshness by singing, reciting and showcasing their creative talents, including our 'Largest Daffodil' competition. Well done everyone! (6/3/18)
-
Gweithdai CA2 gyda'r awdur David Brayley / KS2 Workshops with the author David Brayley
Tue 27 Feb 2018Braf oedd croesawu'r ysgrifennwr chwaraeon ac awdur, David Brayley, i'r ysgol heddiw i gynnal gweithdai gyda disgyblion CA2. Awdur nifer o lyfrau, gan gynnwys "Ashley Williams – My Premier League Diary" (Y Lolfa) yn 2011 gydag Ashley Williams, capten Cymru, trafododd David ei daith fel awdur a'r broses o ysgrifennu a chyhoeddi llyfr yn ogystal ag ateb nifer fawr o gwestiynau gan gynulleidfa egniol.It was great welcoming David Brayley, sports writer & author, to school today to hold a series of workshops with KS2 pupils. Having written a number of books, including "Ashley Williams – My Premier League Diary" (Y Lolfa) in 2011 with Wales captain Ashley Williams, David discussed his journey to becoming an author and the process involved in writing and publishing a book as well as answering the countless questions he received from his enthusiastic audience. (27/2/18)
-
Cymeriadau llenyddol - Wythnos y Llyfr / Literary characters - Book Week
Tue 27 Feb 2018Hyfryd gweld cymaint o'n hoff gymeriadau llenyddol wedi eu cynrychioli gan ein disgyblion heddiw wrth iddynt wisgo'n greadigol ar gyfer Wythnos y Llyfr.
Great to see so many of our favourite literary characters represented today as our pupils dress-up for Book Week. (27/2/18)
