Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Disgos Tymor yr Hydref / Autumn Term Discos

    Mon 21 Oct 2024

    Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein disgos dros y bythefnos ddiwethaf. Hoffwn ddiolch yn arbennig i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' a'r holl wirfoddolwyr, gan gynnwys y staff, am eu cymorth yn trefnu'r disgos o flaen llaw ac am eu cefnogaeth ar y nosweithiau. Codwyd cyfanswm arbennig o £962! Ymlaen Pontybrenin!

     

    A big thank you to everyone for supporting our discos over the past fortnight. In particular I would like to thank the members of 'The Friends of YGG Pontybrenin' and all the volunteers, including the staff, for all their support in organising the discos and for their help on both evenings. We raised an amazing £962! Ymlaen Pontybrenin! (21/10/24)

  • Cystadleuaeth Coginio yr Urdd / Urdd Cooking Competition

    Fri 18 Oct 2024

    Hyfryd oedd gweld 'Masterchefs' y dyfodol ar waith heddiw wrth i nifer o ddisgyblion gystadlu yng nghystadleuaeth CogUrdd a PhobUrdd yr Urdd eleni, gyda 'wraps' a chacennau ar y fwydlen. Roedd y creadigrwydd a safon y paratoi a'r coginio yn wych a gallai'r bwydydd hyn fod wedi eu gwerthu mewn caffi neu archfarchnad lleol. Llongyfarchiadau mawr i Alana ar ennill y gystadleuaeth CogUrdd gyda'i 'wrap' ac i Ifan ar ennill y gystadleuaeth PobUrdd gyda'i gacennau. Da iawn chi a phob lwc yn y rownd nesaf.  

     

    It was wonderful seeing the next generation of 'Masterchefs' at work today as a number of our pupils competed in this year's Urdd CogUrdd and PobUrdd competitions, with wraps and cakes/muffins on the menu. The creativity and standard of food preparation and cooking was outstanding and would not have looked out of place in a cafe or on sale in a local supermarket. Congratulations to Alana on winning the CogUrdd competition with her wrap and to Ifan on his victorious cupcakes. Da iawn chi! Best of luck to them both in the next round. (18/10/24)  

  • Taith Gerdded Noddedig / Sponsored Walk

    Thu 17 Oct 2024

    Er gwaethaf y tywydd diflas, cafwyd diwrnod i'r brenin heddiw wrth i ddisgyblion yr ysgol gerdded hyd at 5km o gwmpas ein cymuned er mwyn codi arian i'r ysgol ac i elusen Canolfan Gancr Maggie's yn Abertawe. Diolch yn fawr iawn i holl aelodau teulu YGG Pontybrenin am roddi mor hael i gefnogi'r ysgol a'r elusen arbennig hon. O ganlyniad i'ch caredigrwydd, codwyd swm arbennig o £5065! Diolch yn fawr iawn i chi gyd. 

     

    Despite the miserable weather, a wonderful day was had by everyone today as our pupils walked up to 5km within our local community for charity, with the money raised being shared equally between the school and Maggie's Cancer Centre in Swansea. A huge thank you to the entire YGG Pontybrenin family who have given so generously in support of the school and this fantastic charity. Thanks to your generosity, we raised an amazing £5065! Diolch yn fawr iawn! (17/10/24)  

Top