Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Llwyddiant traws gwlad / Cross country success

    Fri 22 Mar 2019

    Mae criw bach o ddisgyblion angerddol, o dan ofal arbennig Mrs Cairns, wedi bod yn cystadlu mewn cyfres o gystadlaethau traws gwlad lleol yn ddiweddar, gyda thipyn o lwyddiant, a rhaid canmol pob un ohonyn nhw am eu hymdrechion. Llongyfarchiadau yn arbennig i Sophie Stephens ac Evan Jones ar gael eu dewis i gynrychioli y cylch a rhanbarth Afan Nedd Tawe ym mhencampwriaeth traws gwlad Cymru dros y misoedd nesaf. Pob lwc i'r ddau!

     

    A small but passionate group of our pupils, under the expert guidance of Mrs Cairns, have been competing at district cross country meetings recently, with quite a bit of success, and every one of them deserves our praise. Congratulations in particular to both Sophie Stephens and Evan Jones on being chosen to represent not only the Loughor district, but also the Afan Nedd Tawe region at the forthcoming Welsh Championships. Pob lwc i chi! (22/3/19)    

  • Diwrnod Syndrom Down Rhyngwladol / World Down Syndrome Day

    Thu 21 Mar 2019

    O ganlyniad i haelioni holl aelodau Teulu YGG Pontybrenin, llwyddon ni gasglu £366 ar gyfer Hands Up For Downs gyda’r apêl Diwrnod Syndrom Down Rhyngwladol a'r 'Sanau Sbesial'. Hoffwn ddiolch i bawb unwaith eto am eich caredigrwydd a’ch cefnogaeth.

     

    We raised a fantastic £366 for Hands Up For Downs with today’s World Down Syndrome Day and our 'Special Socks' appeal. Thank you very much for your continued generosity. Diolch yn fawr iawn! (21/3/19)

  • Noson Gymhwysedd Digidol / Digital Competency Evening

    Tue 19 Mar 2019

    Cafodd nifer o rieni budd a phleserus mawr wrth fynychu ein Noson Gymhwysedd Digidol heno a hoffwn ddiolch yn fawr iawn i'r Dewiniaid Digidol ac i Miss Gwenter, Miss Dark a Mrs Edwards am arwain y noson mor dda. Mwynheodd pawb y cyfle i rhyngweithio gyda'r disgyblion ac i'w gweld nhw'n datblygu eu sgiliau digidol, gyda phob un yn canmol y plant am eu gwaith arbennig.

     

    A very worthwhile and enjoyable time was had by all those parents who came along and supported our Digital Competence event this evening. A big thank you to our Digital Wizards and to Miss Gwenter, Miss Dark and Mrs Edwards for leading the event so successfully. The opportunity to interact with the pupils and learn all about the skills being developed by our pupils was very beneficial, with all those in attendance praising the children for their wonderful work. (19/3/19) 

  • Eisteddfod Gwyl Ddewi y Cyfnod Sylfaen / Our Foundation Phase St David's Eisteddfod

    Tue 05 Mar 2019

    Cafwyd llawer o hwyl a sbri yn Eisteddfod y Cyfnod Sylfaen heddiw, gyda disgyblion yn dathlu eu Cymreictod trwy ganu, llefaru a dathlu eu doniau creadigol, gan gynnwys y gystadleuaeth 'Y Ddraig Goch'. Da iawn blant!

     

    We had a lot of fun with today's Foundation Phase Eisteddfod, with pupils celebrating their Welshness by singing, reciting and showcasing their creative talents, including our 'Red Dragon' competition. Well done everyone! (5/3/19)

  • Cadair Eisteddfod Ysgol Gymraeg Pontybrenin / Ysgol Gymraeg Pontybrenin's Eisteddfod chair

    Mon 04 Mar 2019

    Yn dilyn haelioni caredig un o gyn ddisgyblion ein hysgol, anrhydeddwyd enillydd cystadleuaeth barddoniaeth eisteddfod yr ysgol eleni gyda chadair eisteddfod cyntaf YGG Pontybrenin. Comisiynwyd y gadair unigryw hon gan Catrin Llwyd, er cof am ei rhieni, Evie a Gwladys Lloyd, a fu'n flaenllaw yn sefydlu Ysgol Gymraeg Pontybrenin ym 1953. Mae'r gadair hefyd wedi ei arysgrifio gydag englyn arbennig, a gomisiynwyd gan Catrin, gan y bardd Emyr Davies. Yn ogystal â chofnodi enw enillydd eleni, bydd y rhodd hyfryd hon yn cofnodi enwau holl enillwyr prif gystadleuaeth yr eisteddfod ysgol am flynyddoedd i ddod a hoffai'r ysgol ddiolch o galon i Catrin am ei haelioni.   

     

    Following the incredible generosity of one of our past pupil, the winner of this year's school eisteddfod poetry competition was honoured by becoming the first ever recipient of the YGG Pontybrenin school eisteddfod chair. This unique gift, which was commissioned especially for the school, was given to us by Catrin Llwyd, in memory of her parents, Evie & Gwladys Lloyd, who were among the founders of YGG Pontybrenin in 1953. The chair is also inscribed with an englyn, which was commissioned by Catrin, and written especially for the school by the poet Emyr Davies. In addition to this year's winner, this wonderful gift will record the names of all future winners of the main school eisteddfod prize and the school would like to pass on its sincere thanks to Catrin for her generosity. Diolch yn fawr iawn!  (4/3/19)

  • Eisteddfod Gwyl Ddewi CA2 / KS2 St David's Eisteddfod

    Mon 04 Mar 2019

    Gyda balchder ac angerdd am ein Cymreictod a'n hiaith, dathlwyd Eisteddfod ysgol CA2 eleni gydag amrywiaeth o ganu, llefaru a thrawsdoriad hyfryd o waith celf. Llongyfarchiadau mawr i Alfie ar ennill y brif gystadleuaeth, sef y barddoniaeth, ac am yr anrhydedd o ennill cadair cyntaf Eisteddfod YGG Pontybrenin. Da iawn i bawb am fentro!

     

    With pride and passion for our Welshness and our language, our junior pupils celebrated our KS2 school Eisteddfod today with a variety of singing, reciting and a wonderful mix of art work. Congratulations to Alfie on winning the main competition, the poetry, and for the honour of becoming the first ever recipient of our YGG Pontybrenin Eisteddfod Chair. Well done to all those who took part!  (4/3/19) 

Top