Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Cymraeg

Iaith

Darllen

Darllen yn ddyddiol:

Helpwch eich plentyn i adnabod llythrennau’r wyddor, gan ddechrau gyda'r llythrennau 'melyn'.

1.Tric a Chlic Melyn – r, a, p, t, h, e, m, c, y

2.Tric a Chlic Glas – w, th, l, g, b, o, n, s

3.Tric a Chlic Gwyrdd – u, i, ll, ch, d

4. Tric a Chlic Pinc- f, rh, dd, j, ff

Er enghraifft, rhai ffyrdd hwyliog o wneud hyn yw:

  • Mynd ar helfa llythrennau. Cuddio llythrennau ar ‘post its’ o amgylch y tŷ.
  • Dod o hyd i wrthrychau yn y tŷ sy'n dechrau gyda llythrennau gwahanol.

Ewch ati i ymarfer darllen (ac ysgrifennu) y geiriau Tric a Chlic.

Melyn – cap, mam, het, tap, mat, car, map, ham.

Glas – bws, pen, bath, bag, mwg, wal, cath, nos

Gwyrdd – sach, swch, coch, mul, dol, dis, pwll, moch

Pinc – ffon, sedd, fan, sudd, rhaff, fet, jam, rhes

 

Darllenwch stori i'ch plentyn pob dydd, er enghraifft cyn amser gwely.

 

Ysgrifennu

Ymarfer sgiliau echddygol manwl pob dydd. Er enghraifft:

  • Edafu gleiniau ar linyn/ gleiniau edafu neu ‘Cheerios’ ar lanhawyr pibellau.
  • Defnyddio ‘tweezers’ i godi pethau.
  • Gan ddefnyddio rhywfaint o does, rhowch ychydig o sbageti sych ynddo a gweld faint o ‘Cheerios’ y gallant eu ffitio ar y sbageti mewn 30 eiliad.
  • Paentio gyda blagur cotwm.
Chwarae gyda toes - tynnu, ymestyn, rholio, torri, gwasgu, Mae gwneud y toes yn weithgaredd hwyl ynddo'i hun, yn casglu cynhwysion, mesur, cyfrif, cymysgu, rholio, tylino.
  • ‘Dough Disco’ - Googlwch ‘Dough Disco’ a dewch o hyd i fideos a chaneuon hwyliog y gallwch symud iddynt wrth ddefnyddio toes!
  • Ewch ati i ymarfer eich sgiliau siswrn, dewch o hyd i hen gardiau pen-blwydd a’u torri. Tynnwch luniau o siapiau neu luniau ar ddarn o bapur a gofynnwch iddyn nhw eu torri allan.
  • Ymarfer ysgrifennu enw, ei henw cyntaf a'u cyfenw os gallant. Cofiwch ymarfer dal y pensil yn gywir, hefyd nodi priflythrennau ar ddechrau ei henw cyntaf a'u cyfenw.

Gweithgareddau Ysgrifennu

• Rydyn ni wedi bod yn gwneud llawer o waith ar anifeiliaid anwes. A allan nhw dynnu lun o'u hoff anifail anwes? Yna dewiswch gweithgaredd o'r canlynol:

Ysgrifennu enw ei hoff anifail anwes.

Labelu rhannau corff anifeiliaid anwes.

Ysgrifennu gair i ddisgrifio eu hoff anifail anwes.

Ysgrifennu brawddeg byr am ei anifeiliaid anwes? (Cofiwch priflythyren, bylchau bys ac atalnod llawn).

• Rydyn ni wedi bod yn gwneud gwaith ar Y Gwanwyn, a allan nhw dynnu llun o’r Gwanwyn? Yna dewiswch un o'r canlynol.

Ysgrifennu ‘g’ ar gyfer Gwanwyn ar eu llun.

Ysgrifennu ‘Y Gwanwyn’ ar y llun.

Labeli'r llun.

Ysgrifennu ‘Rydw i’n hoffi’r Gwanwyn’ 

Ysgrifennu geiriau neu frawddeg ei hunain (Cofiwch priflythyren, bylchau bys ac atalnod llawn).

• Rydym wedi bod yn ymarfer ysgrifennu llythrennau yn gywir.

Gan ddefnyddio darn mawr o bapur, sialc yn yr awyr agored, paent, eli siafo neu toes. A all eich plentyn ymarfer ysgrifennu rhai llythrennau yn gywir?

Efallai yr hoffai rhai plant ysgrifennu'r priflythyren sy'n cyd-fynd â'r llythrennau bach y maen nhw wedi'i hysgrifennu.

• Gwneud poster amdanyn nhw eu hunain.

Tynnu llun ohonyn nhw ei hunain ac ysgrifennu ei henw. A allan nhw ysgrifennu rhywfaint o wybodaeth amdanyn nhw eu hunain? Rhyw. Oedran. Lliw gwallt. Lliw llygaid.

Llafar

• Siaradwch am y llun canlynol gyda'ch gilydd.

Beth sydd yn y llun? Pa liwiau allwch chi weld? Hoffech chi fynd i'r lle hwn? Pam? Sut mae'r llun yn gwneud i chi deimlo? Pa amser o'r flwyddyn ydyw? A yw hi’n ddydd neu nos? Ydych chi erioed wedi bod i lle fel hwn?

Newyddion - siaradwch am rywbeth rydych chi wedi'i wneud dros yr wythnos - Es i ... Gwelais i ……Cefais i…

• Chwarae rôl / Chwarae Byd Bach - gwisgo i fyny ac esgus bod yn gymeriad. Defnyddiwch ffigurau bach i actio straeon a chwarae dychmygus. Actio senarios gwahanol e.e. ‘tŷ’, ‘ysgol’, ‘Doctor’. Chwarae gyda phypedau neu gwneud pypedau gan ddefnyddio sanau neu gyda ffyn lolipop a phlât papur.

• Siarad, siarad, siarad! Defnyddiwch y cyfle hwn i siarad â'ch plentyn gymaint â phosib (yn Saesneg neu yn Gymraeg). Nid oes rhaid ei cwestiynu pob tro, fe allwch rhoi naratif iddyn nhw o'r hyn rydych chi'n ei wneud / sefyllfa bresennol e.e. “Nawr rydw i'n rhoi menyn ar y tost yn barod i frecwast, yna bydd rhaid i ni olchi ein dwylo cyn i ni fwyta ac  eistedd wrth y bwrdd…. ac ati.”

• Chwarae gemau bwrdd, siarad am y rheolau, cymryd tro.

• Straeon Rhyngweithiol ar HWB i ddarllen gyda'ch plentyn.
Top