Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Diogelwch Tan / Fire Safety
Mon 28 Mar 2022Diolch i Wasanaeth Tan ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru am y cyflwyniad ar ddiogelwch tân heddiw. Roedd hi'n gyflwyniad difyrrus a buddiol, yn enwedig gyda chymaint o danau gwair ar hyn o bryd.
Thank you to Mid and West Wales Fire & Rescue Service for today's entertaining and informative presentation on fire safety, particularly with so many grass fires at the moment. Diolch! (28/3/22)
-
Wythnos Masnach Deg / Faire Trade Week
Mon 21 Mar 2022Llongyfarchiadau i ddosbarthiadau Blwyddyn 2 Mrs Griffiths a Blwyddyn 3&4 Mr Sterl am ennill y gystadleuaeth casglu symbolau Manach Deg. Hyfryd oedd gweld cymaint o ddisgyblion (a'u rhieni wrth gwrs!) yn prynu nwyddau Masnach Deg dros y pythefnos diwethaf. Arbennig!
Congratulations to Mrs Griffiths' Year 2 class and Mr Sterl's Year 3&4 class on winning the competition to collect the most Fair Trade symbols. It was great to see so many pupils (and their parents of course!) buying Fair Trade goods over the past fortnight. Well done! (21/3/22)
-
Llwyddiant Gymnasteg / Gymnastics Success
Fri 18 Mar 2022Llongyfarchiadau mawr i gymnastwyr talentog ein hysgol ar eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth Acro Ysgolion Cymru yng Ngerddi Soffia, Caerdydd heddiw. Cynrychiolodd Poppy, Anais, India, Amelia, Ffion, Carys, Daisy ac Isabella yr ysgol gydag anrhydedd, gydag Isabella & Daisy yn ennill aur a Poppy & Carys yn cipio efydd yn y Parau Acro Dan 11 oed. Enillodd y tîm aur yn y Grŵp Acro gyda pherfformiad rhagorol mewn cystadleuaeth o safon uchel. Da iawn chi!
Congratulations to some very talented gymnasts on their success at today's Welsh Schools Acro Competition in Sophia Gardens, Cardiff. Poppy, Anais, India, Amelia, Ffion, Carys, Daisy and Isabella all represented the school with distinction, with Isabella & Daisy winning gold and Poppy & Carys taking bronze in the Under 11s Pairs Acro. The team won a collective gold in the Group Acro with an outstanding performance. Da iawn chi! (18/3/22)
-
Cefnogi yr Wcrain / Supporting Ukraine
Fri 18 Mar 2022O ganlyniad i haelioni teulu YGG Pontybrenin, codwyd swm arbennig o £2130 i apêl yr Wcrain heddiw. Diolch i'r cyngor ysgol a disgyblion Blwyddyn 6 am drefnu'r holl weithgareddau, gan gynnwys y paentio wynebau, gwerthiant y tocynnau raffl a'r gemau amrywiol. Mwynheodd pawb codi arian i'r sawl sydd ei angen fwyaf ar hyn o bryd. Diolch!
Thanks to the generosity of the YGG pontybrenin family, we raised an amazing £2130 for the Ukraine appeal. Thank you to the school council and our Year 6 pupils for arranging all the activities, including the face painting, raffle ticket sales and the various games. Everyone had a great time raising money for those in most need at this moment in time. Diolch! (18/3/22)
-
Rownd Derfynol Rhanbarthol Premier League Primary Stars Merched D11 / Premier League Primary Stars U11 Girls Regional Final
Fri 04 Mar 2022Da iawn i dîm pêl droed merched Blwyddyn 6 ar eu perfformiad nhw yn rownd rhanbarthol cystadleuaeth Premier League Primary Stars yng Nghaerdydd heddiw. Yn dilyn eu buddugoliaeth yn rownd ysgolion Abertawe (lle'u gwobrwywyd nhw gyda chitiau personol Clwb Pêl droed Abertawe), buon nhw'n cystadlu yn erbyn timau gorau Cymru a Gorllewin Lloegr, ac er na lwyddon nhw gyrraedd y rown derfynol y tro hwn, gallwn nhw ymfalchio yn eu perfformiad. Da iawn chi!
Well done to our Year 6 girls football team on their performance at today's Premier League Primary Stars Regional Finals in Cardiff. Having won the Swansea schools round (and been presented with full Swansea City FC personalised kits), they were faced with the best teams for Wales and the West of England. Whilst they didn't make it to the final on this occasion, they can be extremely proud of their performance. Da iawn chi! (4/3/22)
-
Diwrnod y Llyfr / World Book Day
Thu 03 Mar 2022Cafwyd diwrnod i'r brenin heddiw wrth i'r ysgol gyfan ddathlu Diwrnod y Llyfr gydag amrywiaeth o weithgareddau hwylus, gan gynnwys gwisgo fel ein hoff gymeriadau llenyddol a mwynhau sesiynau stori tra'n gwledda ar fisgedi a llaeth blasus. Diolch yn fawr iawn i Asda Gorseinon am eu haelioni nhw yn rhoddi'r llaeth a'r bisgedi. Blasus iawn!
Everyone had a great time today as we celebrated World Book Day with a variety of activities, including dressing up as our favourite literary characters and enjoying some wonderful story sessions, complete with milk and cookies. Thank you to Asda Gorseinon for generously donating the milk and cookies. They were delicious! (3/3/22)