Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Canu carolau i Glwb Dementia Forget Me Not / Carol singing for the Forget Me Not Dementia Club

    Wed 26 Nov 2025

    Hyfryd oedd gweld côr yr ysgol yn diddanu Clwb Dementia Forget Me Not Gorseinon unwaith eto eleni gyda chyfres o garolau Nadolig Cymraeg a Saesneg. Rydym yn derbyn croeso twymgalon ganddyn nhw pob blwyddyn ac mae'n bleser ymweld â nhw.

     

    It was wonderful to see the school's choir entertain the Gorseinon Forget Me Not Dementia Club once again this year with a series of Welsh and English Christmas Carols. We receive the warmest of welcomes from them every year and it's always a pleasure to visit. Diolch yn fawr iawn! (26.11.26) 

  • Oriel Gelf 'Cynefin' / 'Our Locality' Art Gallery

    Wed 26 Nov 2025

    Mae ein disgyblion mentrus a chreadigol wedi bod yn hynod brysur yn creu gweithiau celf arbennig yn seiliedig ar thema astudio presennol yr ysgol, sef Cynefin. Pleser oedd croesawu rhieni a rhieni-cu disgyblion yr Ysgol Uwch i’r ysgol y prynhawn yma i fwynhau a gwerthfawrogi y gwaith bendigedig hwn.

     

    Our enterprising and creative pupils have been very busy creating beautiful artwork based on the school’s current study theme of ‘Cynefin’ (habitat / our locality). Welcoming parents and grandparents of Upper School pupils to the school this afternoon to enjoy and appreciate this wonderful work was a pleasure. (26.11.26)

  • Prosiect Pwmpenni Blwyddyn 1&2 / Year 1&2's Pumpkin Project

    Wed 19 Nov 2025

    Wedi ein hysbrydoli gan ein taith hyfryd i’r Fferm Pwmpenni, rydym wedi bod yn brysur iawn yn gweithio ar brosiect pwmpenni arbennig ym Mlwyddyn 1&2. Buodd disgyblion Blwyddyn 2 yn gweinyddu yn y Caffi Pwmpenni heddiw, gan werthu nwyddau wedi eu creu allan o bwmpenni, e.e cawl a chacennau pwmpen. Dylunio a chreu pwmpenni clai gwnaeth disgyblion Blwyddyn 1, gyda rhieni a rhieni-cu y disgyblion hynny yn ysu i brynu’r cynnyrch.  Gyda the a choffi ar y fwdlen hefyd, mwynheodd pawb mas draw!

     

    Inspired by our lovely trip to the Pumpkin Farm, we have been very busy working on a special pumpkin project in Year 1 & 2. Year 2 pupils were serving in the Pumpkin Café today, selling goods made from pumpkins, e.g. pumpkin soup and cakes. Year 1 pupils designed and created clay pumpkins, with their parents and grandparents eager to buy the products. With tea and coffee also on the menu, everyone had a fantastic time! (19/11/26)

     

Top