Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Eisteddfod Ddawns yr Urdd / Urdd Dance Eisteddfod

    Wed 29 Mar 2017

    Hyfryd oedd gweld cymaint o ddisgyblion ein hysgol yn dawnsio yn Eisteddfod Ddawns yr Urdd yn YGG Gellionnen heddiw. Perfformiodd grŵp Dawnsio Gwerin Bl 3&4 a Bl 5&6 yn arbennig o dda, fel y gwnaeth Amelia gyda'i dawns Hip Hop unigol. Da iawn chi!  

     

    It was great to see so many of our pupils dancing at today's Urdd Dance Eisteddfod at YGG Gellionnen. Both the Year 3&4 and Year 5&6 Folk Dancing groups performed wonderfully well, as did Amelia with her energetic Hip Hop solo dance. Da iawn chi! (29/3/17)  

  • Eisteddfod Offerynnol yr Urdd / Urdd Instrumental Eisteddfod

    Tue 28 Mar 2017

    Da iawn i'r Parti Recorders ac i Rhianwen (Bl 4) ar y delyn am eu perfformiadau nhw yn Eisteddfod Offerynnol yr Urdd heddiw. Roedd y safon yn uchel iawn eleni eto gyda phob un o ddisgyblion ein hysgol ni yn rhoi o'u gorau glas. Da iawn chi! 

     

    Well done to the Recorder Party and to Rhianwen (Yr 4) on the harp for their wonderful performances at today's Urdd Instrumental Eisteddfod. The standard was incredibly high as always and every one of our pupils did the school proud. Da iawn chi! (28/3/17)

  • Eisteddfod Rhanbarthol yr Urdd, Gorllewin Morgannwg / Urdd Regional Eisteddfod, West Glamorgan

    Sat 25 Mar 2017

    Cynrychiolodd bron i 50 o ddisgyblion yr ysgol a'r cylch heddiw, mewn amrywiaeth o gystadlaethau, yn Eisteddfod Rhanbarthol Gorllewin Morgannwg yn Port Talbot. Mae'r ysgol yn ymfalchïo ym mherfformiad pob un ohonyn nhw. Da iawn chi! 

     

    Almost 50 pupils represented the school and district at today's West Glamorgan Regional Eisteddfod in PortTalbot, competing in a variety of competitions. Everyone gave of their very best and the school is extremely proud of their achievements. Well done! (25/3/17)   

  • Diwrnod Rhyngwladol Syndrom Downs a Thrwynau Coch / International Down Syndrome Day & Comic Relief

    Fri 24 Mar 2017

    Diolch i haelioni aelodau teulu Ysgol Gymraeg Pontybrenin, codwyd £1012 yn ystod yr wythnos hon, gyda Diwrnod Rhyngwladol Syndrom Downs ar Ddydd Mawrth a Diwrnod Trwynau Coch ar Ddydd Gwener yn profi'n llwyddiannus iawn. Bydd yr arian a godwyd yn cael ei rhannu yn gyfartal rhwng Hands Up for Downs a Thrwynau Coch. Diolch yn fawr i chi gyd!

     

    Thanks to the generosity of members of the Ysgol Gymraeg Pontybrenin family, we raised an amazing £1012 this week, with International Down Syndrome Day on Tuesday, and Comic Relief day on Friday, proving very successful. The money raised will be shared equally between Hands Up for Downs and Comic Relief. Thank you everyone! (24/3/17)

  • Cyngerdd Dathlu Llwyddiannau'r Urdd/ Urdd Celebratory Concert

    Thu 23 Mar 2017

    Cynhelir cyngerdd hyfryd heno i ddathlu yr eitemau amrywiol bydd yn cynrychioli'r ysgol a'r cylch yn yr Eisteddfodau Rhanbarthol dros yr wythnos nesaf. Roedd hi'n gyfle i ymarfer yn ogystal â chaniatáu i bawb fwynhau talentau'r disgyblion cyn y cystadlaethau. Dymuniadau gorau i bawb dros yr wythnos nesaf.   

     

    A wonderful concert was held this evening to celebrate the various items that will be representing the school and the district at this weekend's / next week's Urdd Regional Eisteddfods. Not only was it the perfect opportunity to practice, but it also allowed family members who may not be able to attend the Regional Eisteddfod, to see the fantastic talent we have at the school  Best wishes to everyone competing over the coming week. (23/3/17)

  • Rhestlau beiciau newydd / New bike racks

    Tue 21 Mar 2017

    Diolch i 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am ariannu ein rhestlau beiciau newydd - yn barod i her pythefnos y 'Big Pedal'.

     

    Thank you to 'The Friends of YGG Pontybrenin' for financing our new bicycle racks - just in time for the 'Big Pedal' challenge. (21/3/17) 

  • Gwyl Rygbi Ysgolion Abertawe / Swansea Schools Rugby Festival

    Fri 17 Mar 2017

    Llongyfarchiadau i fechgyn Blwyddyn 6 am chwarae mor dda, ac ymddwyn mor arbennig, yng Ngŵyl Rygbi Ysgolion Abertawe heddiw. Ar ôl ennill chwech gêm a cholli ond yr un, roedd pawb yn wên o glust i glust yn dychwelyd i'r ysgol.

     

    Congratulations to our Year 6 boys for playing so well, ac for behaving so impeccably, during today's Swansea Schools Rugby Festival. Having won six games and losing just the one, everyone was beaming on returning to school. (17/3/17)    

  • Gweithdai Diogelwch y We Bl 4 / Yr 4 Internet Safety Workshops

    Mon 13 Mar 2017

    Diolch yn fawr iawn i PC Bowen am ymweld â Blwyddyn 4 heddiw i drafod pwysigrwydd cadw'n ddiogel tra'n defnyddio'r we. Roedd hi'n agoriad llygad! 

     

    Thank you to PC Bowen for visiting with our Year 4 pupils today and discussing the importance of staying safe whilst online. It was a real eye-opener!  (13/3/17)  

  • Cyngerdd Seintiau, Caneuon a Dathliadau yn Neuadd y Brangwyn / Saints, Songs & Celebrations concert at the Brangwyn Hall

    Thu 09 Mar 2017

    Mwynheodd pawb y gyngerdd Seintiau, Caneuon a Dathliadau yn Neuadd y Brangwyn heno, wrth i gôr yr ysgol ymuno â 10 ysgol arall i berfformio i gynulleidfa brwdfrydig. Roedd safon y canu yn arbennig eleni eto gyda thalentau ein disgyblion yn dod i'r amlwg.

     

    A wonderful time was had by all at this evening's concert at the Brangwyn Hall, as our school choir joined 10 other school's at this year's Saints, Songs and Celebrations concert. The standard of singing was exceptional once again this year with our pupils' talent shining through. (9/3/17)    

  • Darllenwyr Gwadd / Guest Readers

    Fri 03 Mar 2017

    Braf oedd croesawu cymaint o westeion gwadd i'r ysgol yr wythnos hon i ddarllen i'r plant ac i drafod pwysigrwydd darllen. Diolch i Lee Trundle (Clwb Pêl droed Abertawe), Rebeca Rastatter (Heddlu De Cymru), Jordan Crealock (Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru), Dewi Thomas (Gwasanaeth Ambiwlans Cymru) a disgyblion chweched dosbarth Ysgol Gyfun Gŵyr am eu hamser a'u hymroddiad. Rhan o ddathliadau Wythnos y Llyfr

     

    It was wonderful to welcome so many guests to school this week to read to our pupils and to discuss the importance of reading. A big thank you to Lee Trundle (Swansea City Football Club), Rebeca Rastatter (South Wales Police), Jordan Crealock (Mid & West Wales Fire & Rescue Service), Dewi Thomas (Wales Ambulance Service) and Ysgol Gyfun Gŵyr's form six pupils for their time and effort. Part of our Book Week celebrations. (3/3/17)

Top