Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Goleuo Casllwchwr / Light Up Loughor

    Fri 25 Nov 2022

    Mae'r Nadolig wedi dechrau, gyda chôr yr ysgol yn perfformio yn 'Light Up Loughor' heno. Roedd hi'n berfformiad arbennig o dan arweiniad Mrs Parkhouse a chyfeiliant Mrs Dando. Am ddisgyblion talentog!

     

    Christmas began today with the school choir’s performance at #LightUpLoughor. It was a great performance by all our pupils under the leadership of Mrs Parkhouse and the accompaniment of Mrs Dando. What talented pupils we have! (25/11/22)

  • Y Wal Goch! / The Red Wall !

    Fri 25 Nov 2022

    Er gwaethaf y canlyniad siomedig, roedd Wal Goch YGG Pontybrenin dal i sefyll ar ddiwedd y gem yn erbyn Iran, gyda phawb yn browd iawn o dîm Cymru. Edrychwn ymlaen yn awr i'r gem nesaf, holl bwysig yn erbyn Lloegr. Ymlaen Cymru!

     

    Despite the disappointing result, the YGG Pontybrenin Red Wall was still standing at the end of the match v Iran, with everyone proud of the Welsh team. We now look forward to the next, winner takes all match v England. Come on Cymru! (25/11/22)

     

  • Plant Mewn Angen / Children In Need

    Fri 18 Nov 2022

    Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein hapêl Plant Mewn Angen heddiw. Casglwyd swm arbennig o £698 yn dilyn rhoddion hael gan ddisgyblion am wisgo'u pyjamas a'u gwallt gwirion i'r ysgol. Hyfryd!

     

    A big thank you to everyone for supporting our Children in Need appeal today. We raised a fantastic £698 following donations from pupils for wearing their pyjamas and wacky hair to school. Diolch yn fawr iawn! (18/11/22) 

  • Noson Sgiliau / Skills Evening

    Thu 17 Nov 2022

    Hyfryd oedd gweld cymaint o rieni a gofalwyr yn bresennol yn y Noson Sgiliau heno, lle cafodd oedolion gyfle i weld rhai o'n disgyblion yn arddangos eu sgiliau Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol yn uniongyrchol, a hynny drwy amrywiaeth o weithgareddau ymarferol. Nod y noson oedd rhoi syniad i rieni o'r math o weithgareddau y mae eu plant yn gwneud yn yr ysgol yn ogystal â chynnig arweiniad ar y mathau o weithgareddau y gallant eu gwneud wrth gefnogi eu plant gartref. 

     

    It was wonderful to see so many parents and carers in attendance at this evening's pupil led Skills Evening, where adults had the opportunity to see some of our pupils showcasing their Literacy, Numeracy and  Digital Competency skills firsthand, through a variety of practical activities. Not only did this give parents an idea as to the types of activities their children partake of in school, it also provided them with guidance as to the types of activities they can do whilst supporting their children at home. (17/11/22)

  • Diwrnod Cynnal a Chadw / Maintenance Day

    Sat 12 Nov 2022

    Diolch yn fawr iawn i'r 6 riant (a'u plant!) daeth i gefnogi ein diwrnod Cynnal a Chadw heddiw. Er mai siomedig iawn oedd y niferoedd o feddwl bod bron i 600 o ddigyblion yn yr ysgol, llwyddon ni beintio, chwynnu a thacluso tipyn. Gyda phob tebygrwydd y bydd cyllidebau ysgolion yn tynhau dros y blynyddoedd nesaf, mae'n holl bwysig ein bod ni'n gwneud cymaint ag y gallwn ein hunain er mwyn osgoi gorfod gwario arian yr ysgol yn ddi-angen. Os na lwyddoch chi fynychu y tro hwn, byddwn yn cynnal diwrnod arall tebyg ym mis Ebrill. 

     

    A huge thank you to the 6 parents (and their children!) who came along and supported our Maintenance Day today. Whilst the turnout was very disappointing considering we have almost 600 pupils at the school, we succeeded in painting, weeding and tidying a lot. With schools’ budgets expected to decrease considerably in real terms in the coming years, it’s vitally important that we do what we can ‘in house’, rather than spending the school’s money needlessly. If you didn’t manage to come along on this occasion, we hope to organise another maintenance day in April. (12/11/22)

Top