Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Comisiynydd Plant Cymru / Children's Commissioner for Wales
Wed 12 Feb 2020Diolch yn fawr iawn i Rhian o swyddfa Comisiynydd Plant Cymru am ymweld â disgyblion Cyfnod Allweddol 2 i drafod pwysigrwydd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac i annog plant i leisio eu barn ar bob cyfle.
Thank you to Rhian from the office of the Children's Commissioner for Wales for visiting with our Key Stage 2 pupils today in order to discuss The United Nations Convention on the Rights of the Child and to encourage them to voice their opinions at every possible opportunity. (12/2/20)
-
Jambori yr Urdd / Urdd Jamboree
Thu 06 Feb 2020Hyfryd oedd cael ymuno gyda Martyn Geraint a Mr Urdd yn Jambori yr Urdd yn Ysgol Uwchradd Dreforys heddiw. Gyda phob un o ddigyblion Cyfnod Allweddol 2 yn bresennol, ymunon ni gyda disgyblion eraill o ysgolion Cymraeg Abertawe am brynhawn o hwyl a sbri.
It was wonderful to join Martyn Geraint and Mr Urdd at today's Urdd Jamboree at Morriston Comprehensive School. Every one of our Key Stage 2 pupils was present, joining other pupils from other Welsh medium schools in Swansea for a great afternoon of fun. (6/2/20)
-
Noson Diogelwch y We / Internet Safety Evening
Wed 05 Feb 2020Diolch yn fawr iawn i PC Hughes am arwain ein Noson Diogelwch y We heno. Roedd y niferoedd yn siomedig iawn, gydag ond 5 rhiant yn mynychu, ond roedd pawb yn gytun bod y wybodaeth yn fuddiol iawn ac yn ddefnyddiol wrth i ni ymdrechu i gadw'n plant yn ddiogel ar y we.
A big thank you to PC Hughes for leading our Internet Safety Evening tonight. It was a really disappointing turnout, with only 5 parents attending, but a lot of valuable and worthwhile information was shared as to how we can stay safe whilst online. (5/2/20)
-
Disgo Dydd Miwsig Cymru gyda Marci G / Welsh Music Day Disco with Marci G
Wed 05 Feb 2020Blwyddyn 5 wedi joio mas draw wrth ganu a dawnsio i gerddoriaeth Cymraeg yng nghwmni disgyblion cymuned YG Gŵyr heddiw. Diolch yn fawr iawn i Marc Griffiths o Radio Cymru / Cymru FM am arwain yr adloniant gyda thrawsdoriad o gerddoriaeth cyfoes Cymraeg arbennig. #DyddMiwsigCymru
Our Year 5 pupils had a fantastic time singing and dancing to some great Welsh music today in the company of other pupils from the YG Gŵyr cluster schools. A big thank you to Marc Griffiths from Radio Cymru / Cymru FM for leading the entertainment with a great mix of modern Welsh music. Diolch yn fawr iawn. #DyddMiwsigCymru (5/2/20)
-
Gweithdai cerddoriaeth Cymraeg gyda Bronewn Lewis / Welsh music workshops with Bronwen Lewis
Mon 03 Feb 2020Disgyblion Blwyddyn 4, 5 a 6 wedi mwynhau mas draw yng nghwmni Bronwen Lewis heddiw wrth gyfansoddi caneuon eu hunain fel rhan o weithdai cerddoriaeth y bore cyn cloi’r diwrnod gyda gig fantastig. Rhan o weithgareddau Wythnos Gymreictod.
Our Year 4, 5 & 6 pupils had a wonderful time with BronwenLewis today, composing their own songs in the morning workshops before closing the day with a fantastic gig in the afternoon. Part of our Welsh Week. (3/2/20)