Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Cystadlaethau Celf yr Urdd

    Wed 19 Mar 2014

     Llongyfarchiadau i holl gystadleuwyr yr ysgol am eu llwyddiant yn yr adran celf a chrefft. Dyma restr isod o'r darnau ar y thema 'Rhyfeddodau'. Cliciwch ar y ddolen i weld pwy sy'n berchen ar y gwaith.

     

    Congratulations to all who competed in the arts and craft section of the Urdd competitions on the theme 'Wonders'. Please click on the link below to see who made what. 

     

    http://www.yggpontybrenin.com/clwb-yr-urdd/

     

     

  • Canlyniadau Eisteddfod Cylch

    Wed 19 Mar 2014

    Wele holl ganlyniadau yr eisteddfod cylch ar y ddolen isod

     

    See all Eisteddfod results by clicking the link below

     

    https://www.urdd4.org/canlyniadau/CanlyniadauEisteddfod2014.a5w?CodDig=2475&Dig=Eisteddfod%20Cylch%20Llwchwr%202014

  • Eisteddfod Cylch Llwchwr

    Mon 17 Mar 2014

    Eisteddfod Cylch Llwchwr

     

    Cynhaliwyd Eisteddfod Cylch Llwchwr yn neuadd goffa Llwchwr ar y 14eg o Fawrth. Roedd cynrychiolaeth o blant yr ysgol yn cystadlu a daeth llwyddiant i nifer iawn ohonynt. Byddwn yn postio yr holl ganlyniadau yn ystod yr wythnos. Llongyfarchiadau i bawb a gystadlodd ac i blant ysgolion Bryniago, Login Fach a Penclawdd am eu llwyddiant. Pob lwc i bawb yn y sir ar y 29ain!

     

    The regional Urdd eisteddfod was held at Gorseinon Welfare Hall on the 14th of March. Most competitions had representatives from the school and many went through to the county level. All results will be posted during the week. A huge congratulations to everyone who took part and to the children of Bryniago, Login Fach and Penclawdd for their success too. All the best to everyone at the county eisteddfod on the 29th of March. 

  • Dathliadau Gwyl Ddewi

    Thu 13 Mar 2014

    Dathliadau Gwyl Ddewi

     

    Cynhaliwyd nifer o weithgareddau trwy'r ysgol i ddathlu gwyl ein nawdd sant. Aeth criw o ddawnswyr i ysgol Mayals i ddysgu ychydig o ddawnsio gwerin ac yng nghanolfan Gorseinon ar Fawrth y 1af fe ganodd parti o'r ysgol a perfformio dawns o flaen nifer o rieni cefnogol - diolch i chi gyd.

     

    Many activities had been organised for St David's day this year. A group of dancer went to teach some folk dancing at Mayals school and at the Gorseinon Community Centre the same group danced and sang if front of many supportive and proud parents - many thanks to you all.

  • Bancio gyda Barclays

    Fri 07 Mar 2014

     

    Cafodd plant blwyddyn 5 a 6 gyngor gwerthfawr iawn gan Chris a Carol o dìm Barclays Bank, Gorseinon. Daethant i mewn i'r ysgol i gynnal sesiynnau ar sut i edrych ar ôl arian yn ddoeth. Y bwriad yw sefydlu banc yn yr ysgol yn y dyfodol agos.

     

    Year 5 & 6 children had some very valuable advice from Chris and Carol who came to see us from Barclays Bank, Gorseinon. They lead sessions on how to look after money wisely. Our intentions are to set up a school bank in the near future.

  • Ailgylchu yn Abertawe

    Fri 07 Mar 2014

     Diolch i Thomas o dìm Ailgylchu Abertawe am roi cyngor ar Ailgylchu i holl blant yr ysgol. Roedd y plant wedi mwynhau y stori yn arw.

     

    Thank you to Thomas from the Recycle 4 Swansea team who gave us advice on what to recycle. Michael Recycle and Sammy Seagull were huge hits too!

Top