Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Llwyddiant Gymnasteg / Gymnastics Success
Thu 29 Jan 2026Llongyfarchiadau i dîm gymnasteg yr ysgol ar eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth Gymnasteg Acro Ysgolion Cymru heddiw. Diolch i’r hyfforddiant elît y maen nhw’n ei dderbyn yn West Street Gymnastics, disgleiriodd pob aelod o’r tîm ac mae’r ysgol yn browd iawn ohonynt. Enillwyd y gystadleuaeth grŵp, gyda’r tîm sy’n cynnwys Amelia, Anais, Annest, Poppy, Carys ac Alis, yn cipo’r fedal aur ac yn symud ymlaen i gynrychioli’r ysgol ym Mhencampwriaeth Ysgolion Prydain yn Stoke ym mis Ebrill. Cafwyd llwyddiant pellach, gyda Megan a Savannah yn cipio’r fedal arian yn y gystadleuaeth parau a Gwennan a Caitlin yn ennill efydd yn y gystadleuaeth pâr. Am ddisgyblion talentog! Da iawn chi.
Congratulations to the school’s gymnastics team on their success at today’s Welsh Schools Acro Gymnastics Championships. Thanks to the elite training they receive at West Street Gymnastics, every member of the team shone and made the school extremely proud. The group competition, with a team comprised of Amelia, Anais, Annest, Poppy, Carys and Alis, won gold and they will now go on to represent the school at the British Schools Championships in Stoke in April. Further success was achieved by Megan and Savannah, who won silver in the pairs competition and with Gwennan and Caitlin, who won bronze in the pairs. What talented pupils we have. Da iawn chi! (29/1/26)
-
Disgos Santes Dwynwen / St Dwynwen's Discos
Wed 28 Jan 2026Diolch i bawb am gefnogi ein disgos Santes Dwynwen dros yr wythefnos ddiwethaf (5 ohonyn nhw i gyd!), yn enwedig aelodau' Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu gwaith caled o flaen llaw ac ar y nosweithiau. Rydym yn ddiolchgar iawn! Codwyd cyfanswm arbennig o £723 a fydd yn cael ei ddefnyddio i brynu adnoddau gwerthfawr i'r ysgol.
Thank you to everyone who supported the St Dwynwen’s discos over the past week (5 discos in total!), especially the members of the 'Friends of YGG Pontybrenin' who worked so hard beforehand and on both evenings. We’re incredibly grateful! A fantastic £723 was raised which will be used to purchase valuable resources for the school. (28/1/26)
-
Pythefnos Dathlu Sgiliau a Gwaith / Celebrating Skills and Work Fortnight
Thu 22 Jan 2026Bu diwrnodau 'Dathlu fy Sgiliau' a 'Dathlu fy Ngwaith' yn lwyddiant ysgubol unwaith eto eleni, gyda nifer fawr o rieni a rhieni-cu yn mynychu'r sesiynau ac yn ymfalchio yng nghynnydd eu plant a'u wyrion . Hyfryd oedd gweld disgyblion yn arddangos eu datblygiad sgiliau tra bod eu rhieni a'u rhieni-cu yn derbyn mewnwelediad i'r strategaethau sydd ar waith ar lawr y dosbarth.
Our 'Celebrating my Skills' days and 'Celebrating my Work' days proved very successful yet again this year, with a large number of parents and grandparents attending and marvelling at the progress of their children and grandchildren. It was wonderful to see the pupils showcasing their skills development whilst parents and grandparents got an insight into some of the strategies used in class. (22/1/26)
