Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Derbyn siec gan Merched y Wawr / Receiving a cheque from Merched y Wawr

    Mon 30 Jan 2017

    Mynychodd Mrs Julie Griffiths a chriw o ddisgyblion Blwyddyn 2 gyfarfod o gangen Gorseinon, Merched y Wawr heno, lle dderbyniwyd siec hael gan yr aelodau fel rhan o'u dathliadau 50 mlwydd oed. Defnyddir yr arian i brynu sachau stori i'r Cyfnod Sylfaen. Esboniodd y plant y syniad tu ôl i'r sachau stori yn ogystal â disgrifio cynnwys y sachau. Cafon nhw eu gwobrwyo am eu hymdrechion gyda llond plat o fisgedi a sudd!  

     

    A number of Year 2 pupils accompanied Mrs Julie Griffiths this evening to a meeting of the Gorseinon branch of Merched y Wawr, where they received a generous cheque from its members as part of their 50th birthday celebration. The money will be put towards funding the first set of story sacks for the Foundation Phase. The children explained how the story sacks work and gave a detailed account of the contents of each sack. They were duly rewarded for their efforts with squash and biscuits! (30/1/17) 

  • Diwrnod Coffa Holocost / Holocaust Memorial Day

    Fri 27 Jan 2017

    Cynhelir gwasanaeth teimladwy iawn i nodi Diwrnod Coffa Holocost 2017 yn Ysgol Esgob Gore heddiw. Cafwyd cyfraniad arbenig gan ddisgyblion Blwyddyn 6 i'r gwasanaeth.

     

    A very poignant service was held at Bishop Gore Comprehensive today to mark Holocaust Memorial Day 2017. Our Year 6 were a credit to the school with their contribution to the service. (27/1/17)

  • Lawnsio ein Siarter Iaith / Launching our Language Charter

    Thu 26 Jan 2017

    Cafon ni ddiwrnod i'r brenin heddiw yng nghwmni Martin Geraint, wrth i ni lawnsio ein Siarter Iaith. Bwriad y Siarter yw annog ein disgyblion i siarad mwy o Gymraeg yn gymdeithasol ac o gwmpas yr ysgol. Diolch yn fawr iawn i'n Llysgenhadon Iaith am ddewis targedau'r Siarter  

     

    We had a fantastic time in the company of Martin Geraint today as he helped us launch our Language Charter. The aim of the Charter is to encourage more of our pupils to speak Welsh socially, in and around the school. Thank you to our Language Ambassadors for choosing the Charter's targets. (26/1/17)

  • Gwneud cysylltiadau newydd / Making new links

    Tue 24 Jan 2017

    Gydag Ysgol Pontybrenin ac Ysgol Gymraeg Pontybrenin mor agos i'w gilydd yn ddaearyddol, mae'n naturiol ein bod ni'n dod ynghŷd ar adegau i ddatblygu ein sgiliau ar y cyd a meithrin perthnasau newydd yn y broses. Dyna yn union beth gwnaeth disgyblion Blwyddyn 6 heddiw, gyda'r nod o ddechrau cyfarfodydd rheolaidd rhwng y ddwy ysgol.

     

    With Ysgol Pontybrenin and Ysgol Gymraeg Pontybrenin being such close neighbours, it makes sense that both schools come together on occasions to jointly develop our skills and form new friendships in the process. That's exactly what Year 6 pupils did today, with a view to starting regular meetings between the schools. (24/1/17)

  • Llwyddiant Nofio / Swimming Success

    Sat 21 Jan 2017

    Llongyfarchiadau mawr i dîm nofio yr ysgol (Betsi, Jake, Jackson, Jack a Iolo o flwyddyn 4 a Seren, Holli, Milly and Freya o flwyddyn 6) am gynrychioli'r ysgol gyda chymaint o falchder heddiw yng Ngala Nofio Cenedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd. Rhoddodd pawb o'u gorau a chafwyd diwrnod i'r brenin wrth herio rhai o nofwyr gorau Cymru. Profodd tîm Cyfnewid Merched Blwyddyn 6 pa mor dalentog yw plant Ysgol Gymraeg Pontybrenin trwy gipio'r fedal arian yn y ras Gyfnewid Rhydd a'r fedal efydd yn y ras Gyfnewid Amrywiol. Camp arbennig ferched! Pen taith - Budapest, Los Angeles neu Baris ym 2024!

    Diolch yn fawr iawn hefyd i Mr Sterl am ei gefnogaeth heddiw ac am drefnu a pharatoi'r tîm mor dda.

     

    Congratulations to the school's swimming team (Betsi, Jake, Jackson, Jack and Iolo from Year 4 and Seren, Holli, Milly and Freya from Year 6) for proudly representing the school at today's Urdd National Swimming Gala in Cardiff. Everyone gave of their very best and thoroughly enjoyed the challenge of competing against some of the best swimmers in Wales. Our Year 6 Girls' Relay team in particular showed that we have some of the most talented pupils in Wales at Ysgol Gymraeg Pontybrenin by winning the silver medal in the Freestyle Relay and the bronze medal in the Medley Relay. An outstanding achievement girls! Next stop - Budapest, Los Angeles or Paris in 2024!

    A big thank you also to Mr Sterl for his support today and for preparing and organising the team so well. Diolch Mr Sterl!

Top