Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Diogelwch Tan Gwyllt / Firework Safety

    Mon 21 Oct 2019

    Gyda Tachwedd y 5ed yn prysur agosau, ymwelodd PC Hughes â disgyblion y Cyfnod Sylfaen a CA2 er mwyn atgyfnerthu'r neges bwysig am 'Ddiogelwch Tân Gwyllt. Gwrandawodd ein disgyblion yn astud ac edrychwn ymlaen at fwynhau'r amrywiaeth o arddangosfeydd, tra'n ystyried cyngor PC Hughes ar gadw'n ddiogel. 

     

    With November 5th fast approaching, PC Hughes visited with both Foundation Phase pupils and KS2 pupils to reinforce the message regarding 'Firework Safety'. All our pupils listened intently and are looking forward to enjoying the various displays, whilst heeding PC Hughes' advice on staying safe. (21/10/19)

  • Blwyddyn 1 yn ymweld a Gorsaf Dan Gorseinon / Year 1 visit Gorseinon Fire Station

    Thu 17 Oct 2019

    Diolch yn fawr iawn i bawb yng Ngorsaf Dân Gorseinon am y croeso cynnes unwaith eto heddiw (yr ail ddiwrnod yn olynol!). Dysgodd disgyblion Blwyddyn 1 cymaint am y gwaith pwysig mae diffoddwyr tân yn gwneud a mwynheon nhw mas draw yn eistedd yn yr injan dân ac yn saethu dŵr dros y lle!

     

    A big thank you once again to everyone at Gorseinon Fire Station for the warm welcome today (we also visited yesterday!). Our Year 1 pupils learnt so much about the important work that fire fighters do and they thoroughly enjoyed sitting in the fire engine and squirting water all over the yard! Diolch yn fawr iawn! (17/10/19)

  • Gwersi Hyfedredd Seiclo / Cycle Proficiency Lessons

    Thu 17 Oct 2019

    Gyda'u profion Hyfedredd Seiclo yn prysur agosau, braf oedd gweld disgyblion Blwyddyn 6 yn manteisio ar y tywydd sych i ymarfer eu sgiliau seiclo gyda 'Go Ride' heddiw.

     

    With their Cycle Proficiency test fast approaching, it was great to see our Year 6 pupils taking advantage of the break in the weather to practise their cycling skills with 'Go Ride' today. (17/10/19)

  • Blwyddyn 1 yn ymweld a'r Orsaf Dan yng Ngorseinon / Year 1 visiting Gorseinon Fire Station

    Wed 16 Oct 2019

    Diolch i bawb yng Ngorsaf Dân Gorseinon am y croeso cynnes heddiw. Cafodd disgyblion Blwyddyn 1 amser arbennig yn dysgu am ddiogelwch tân, gweld yr orsaf a'r injan dân a chwarae gyda'r dŵr!

     

    Thank you very much to everyone at Gorseinon Fire Station for the warm welcome today. Year 1 pupils had a great time learning about fire safety, looking around the station & fire engine and playing with the water hoses! (16/10/19) 

  • Y Cyngor Ysgol yn ymweld a'r Senedd ym Mae Caerdydd / The School Council visit the Senedd in Cardiff Bay

    Tue 15 Oct 2019

    Mwynheodd aelodau'r Cyngor Ysgol yn y Senedd ym Mae Caerdydd heddiw, wrth ddysgu am bwysigrwydd mynegi eich barn a gwrando ar farn eraill. Gyda'r disgyblion newydd gael eu hethol gan eu cyfoedion, trefnwyd taith o gwmpas yr adeilad, gan gynnwys y siamber, gyda'r cyfle i gasglu cyngor ac awgrymiadau ar sut i sicrhau system ddemocrataidd iach o fewn ysgol. Wedi diwrnod heriol o waith, pa gwell ffordd o ymlacio na mwynhau hufen iâ blasus yn y bae. Joio!    

     

    The School Council had a great day at the Senedd in Cardiff Bay, learning all about the importance of expressing your opinions and listening to the views others. The pupils, all of whom were recently elected by their peers to represented them, had a guided tour of the building, including the debating chamber, and were given some top tips on how to ensure a healthy democracy within the school. After all that hard work, what better way to end the day than with a delicious ice-cream overlooking the bay. (15/10/19) 

  • Llwyddiant tim pel droed merched yr ysgol / Year 5&6 girls football team success

    Fri 11 Oct 2019

    Llongyfarchiadau mawr i dîm pêl droed merched Blwyddyn 5&6 Ysgol Gymraeg Pontybrenin ar ennill twrnamaint ysgolion cynradd Abertawe. Enillwyd pob un o'u gemau cynnar ond gwelwyd hi'n anoddach yn y rownd derfynol, gyda'r tîm ar ei hol hi o 2-0 ar un adeg. Fodd bynnag, yn dilyn cyfnod o gyd-chwarae da, a geiriau doeth Mr Sterl yn flaenllaw yn eu meddyliau, aeth y merched ymlaen i ennill y gêm 4-2. Ymlaen yn awr i gynrychioli Dinas a Sir Abertawe yn nhwrnamaint ysgolion cynradd Cymru yn Y Drenewydd. Ymlaen YGG Pontybrenin!

     

    Congratulations to our Year 5&6 girls football team on winning the Swansea primary schools football tournament. Having won all of their early matches, they did find themselves 2-0 down at one point in the final before rallying to win 4-2. A big thank you must also go to Mr Sterl for his wise management and preparation of the team on the day. It's now on to Newtown where they'll be representing Swansea in the Welsh primary schools final. Ymlaen YGG Pontybrenin! (11/10/19)

  • Murlun mawr newydd i'r neuadd / New mural for the school hall

    Fri 11 Oct 2019

    Yn dilyn tipyn o fewnbwn gan ddisgyblion CA2, llwyddodd yr artist lleol John Davies, a'u gwmni Bright Ideas, i baentio murlun hyfryd yn neudd yr ysgol sydd yn cynrychioli'r holl ddyluniadau a syniadau a dderbyniwyd yn dilyn cystadleuaeth a gynhaliwyd yn nhymor yr haf. Rwy'n siwr y byddech chi'n cytuno bod y cynnyrch terfynol yn arbennig. Diolch yn fawr iawn John!   

     

    Following a great deal of input from our KS2 pupils, local artist John Davies, and his company Bright Ideas, succeeded in painting a beautiful mural in our school hall that represented the designs and ideas put forward following a competition held during the summer term. I'm sure you would agree that the finished product is fantastic. Diolch yn fawr iawn John! (11/10/19)  

  • Dysgu yn yr awyr agored / Learning in the outdoor environment

    Thu 10 Oct 2019

    Diolch i Dîm Chwarae Plant Abertawe ac i Carys o Fenter Iaith Abertawe am eu holl cefnogaeth a'u harweiniad yn helpu ni fanteisio ar ein hardaloedd allanol, a'r warchodfa natur yn arbennig. Mae'r disgyblion yn datblygu sgiliau newydd ac yn dysgu cymaint am y byd o'n cwmpas yn yr amgylchedd allanol hyfryd hwn a mawr obeithiwn mai ond dechrau'r daith cyffrous yw hwn.

     

    A big thank you to Swansea's Children's Play Team and Carys from Menter Iaith Abertawe for all their support and guidance in helping us take full advantage of the wonderful outdoor areas we have at the school, particularly our nature reserve. Our pupils are developing new skills and learning all about the wonderful world around us in this incredible environment and we hope that this is just the beginning of our exciting new journey. (10/10/19)  

  • Gweithdai Dwr Cymru / Welsh Water Workshops

    Thu 03 Oct 2019

    Mwynheodd disgyblion Blwyddyn 5 ddysgu am yr holl waith pwysig mae Dŵr Cymru yn gwneud wrth ddarparu dŵr glan yn feunyddiol a'r gost o gynnal yr adnodd pwysig hwn. Gyda phawb yn ymwybodol o bwysigrwydd dŵr i'r blaned, planwyd ychydig o syniadau ym meddyliau aelodau'r Pwyllgor Eco. Datblygiadau i ddilyn!  

     

    Our Year 5 pupils had a great time learning all about the work of Welsh Water in supplying us with clean water on a daily basis and how much it costs to maintain this vital resource. This gave everyone plenty to think about and planted some ideas with our Eco Committee members. Watch this space! (3/10/19)   

Top