Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Llawysgrifen - Handwriting

 Mae llawysgrifen rhugl, taclus a chysylltiedig yn dibynnu ar ffurfio llythrennau yn y ffordd gywir ac o'r man cychwyn cywir. Yn y Meithrin a’r Derbyn rhoddir pwyslais mawr ar ddatblygu sgiliau cyn-ysgrifennu disgyblion. Sgiliau cyn-ysgrifennu yw'r sgiliau sylfaenol y mae angen i blant eu datblygu cyn y gallant ysgrifennu. Yn YGG Pontybrenin mae disgyblion yn cymryd rhan mewn ystod o weithgareddau a fydd yn helpu i ddatblygu eu sgiliau echddygol bras a manwl wrth baratoi ar gyfer dal offer gwneud marciau ac ysgrifennu. Rydym yn cynllunio cyfleoedd rheolaidd i ddisgyblion gryfhau eu craidd, cydsymudiad, cydbwysedd, sefydlogrwydd a chryfder corff uchaf trwy chwarae a thasgau ffocws yn eu hamgylchedd dysgu. 

 

Fluent, neat and ‘joined up’ handwriting relies on letters being formed in the correct way and from the correct starting point. In Nursery and Reception, a large emphasis is placed on developing pupils pre-writing skills. Pre-writing skills are the fundamental skills children need to develop before they can write. In YGG Pontybrenin pupils engage in a range of activities that will help develop their gross and fine motor skills in preparation for holding mark making equipment and writing. We plan regular opportunities for pupils to strengthen their core, co-ordination, balance, stability and upper body strength through play and focused tasks in their learning environment. 

Syniadau o Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - 

Ideas from Betsi Cadwalardr University Health Board

 Mae'n bwysig bod eich plentyn yn ffurfio pob llythyren yn gywir gan y bydd hyn yn eu cefnogi pan fyddant yn dechrau ymuno eu llawysgrifen. Rydym yn annog disgyblion sy'n gallu ffurfio llythrennau yn gywir i ymarfer ysgrifen glwm cyn gynted â phosibl.

 

It is important that your child forms each letter correctly as this will support them well when they begin to join their handwriting. We encourage pupils who can form letters correctly to practice cursive writing as soon possible. 

Uwcholeuydd Ysgrifennu - Writing Highlighter

Defnyddio uwcholeuydd i helpu gyda ffurfio llythrennau - Using a highlighter pen to help with letter formation and sizing

Top