Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • 'Sgen ti Dalent YGG Pontybrenin / YGG Pontybrenin's Got Talent

    Fri 27 Apr 2018

    Bu’r sioe ’Sgen ti Dalent YGG Pontybrenin a gynhaliwyd heno yn Neuadd Les Casllwchwr yn lwyddiant ysgubol, gyda phawb yn gweld pa mor dalentog mae disgyblion ein hysgol. Gwelwyd amrywiaeth hyfryd o ganu, llefaru, dawnsio a cherddoriaeth, gyda’r holl blant yn manteisio ar y cyfle i arddangos eu talentau i’r gynulleidfa brwdfrydig. Hoffwn ddiolch o galon i Karen Grayson, cyn-ddisgybl YGG Pontybrenin ac athrawes ddrama ac astudiaethau theatr yn Ysgol Gyfun Ystalyfera, am gytuno i feirniadu’r gystadleuaeth – tasg anodd iawn. Hoffwn ddiolch hefyd i bawb a fynychodd y sioe am gefnogi eu plant a'u wyrion. Gwerthfawrogwyd y gefnogaeth yn fawr iawn. 

     

    The YGG Pontybrenin’s Got Talent show held at Loughor Welfare Hall this evening was a great success and gave everyone a glimpse of just how talented our pupils are. We had a wonderful variety of singing, reciting, dancing and instrumental music, with every one of our performers taking full advantage of the opportunity to showcase their talents in front of an enthusiastic audience. We’re extremely grateful to Karen Grayson, a past pupil of YGG Pontybrenin and currently a drama and theatre studies teacher at Ysgol Gyfun Ystalyfera, for agreeing to judge the performances – a very difficult task indeed. Finally, a big thank you to all those who came along to support their children and grandchildren. It was very much appreciated. (27/4/18)

  • Arwethiant Celf Bl 1&2 / Years 1&2 Art Sale

    Thu 26 Apr 2018

    Gyda chymaint o waith celf arbennig ar werth, doedd hi'n fawr o syndod i weld cymaint o rieni a rhieni-cu yn mynychu arwerthiant celf dosbarthiadau Miss Richards, Mrs Griffiths a Mrs Bishop-Williams heddiw. Mwynheodd y disgyblion greu'r gwaith celf gan obeithio y bydd perchnogion eu gwaith yn mwynhau arddangos eu campweithiau cymaint. 

     

    With so much fantastic art work on sale, it was no wonder that so many parents and grandparents turned up to Miss Richards, Mrs Griffiths and Mrs Bishop-Williams' classes' art sale today. The pupils thoroughly enjoyed creating the art and we hope that our buyers equally enjoy displaying their masterpieces at home. (26/4/18)

  • Gweithdy Cerddoriaeth Cymraeg / Welsh Music Workshop

    Thu 19 Apr 2018

    Pwy sy'n dweud nad yw cerddoriaeth Cymraeg yn arbennig o dda? Mae disgyblion Blwyddyn 6 yn sicr yn mwynhau gwrando ar drawsdoriad o ganeuon cyfoes Cymraeg ar ôl eu gweithdy gydag Aled o YnniDa heddiw, i'w ddilyn gyda disgo Cymraeg egniol iawn. Er mwyn cadw'r gerddoriaeth i fynd a'r goleuadau yn fflachio, rhaid oedd pedalu a phedalu a phedalu ......! Mwynheodd pawb mas draw gan ddysgu i werthfawrogi yr hyn sydd gan gerddoriaeth Cymraeg i'w gynnig. 

     

    Who says Welsh music isn't amazing? Our Year 6 pupils certainly think it is after enjoying a Welsh music workshop with Aled from YnniDa, followed by a Welsh music disco with a difference. To keep the music playing and the disco lights flashing, our energetic pupils had to pedal and pedal and pedal ......! They all had a great time and learnt to appreciate all that Welsh music has to offer. 

Top