Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Apel Bocs 'Sgidai Nadolig / Christmas Shoebox Appeal
Fri 19 Oct 2018Casglwyd 30 o focsys esgidiau ar gyfer Apêl Bocs 'Sgidiau Nadolig eleni. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cyfraniadau hael. Bydd eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth mawr i nifer o unigolion yng ngwledydd mwyaf difreintiedig Ewrop.
We collected 30 boxes for this year's Christmas Shoebox Appeal. Thank you very much to all those who donated so generously to the cause. Your generosity will make a huge difference to so many individuals in some of Europe's most deprived countries. (19/10/18)
-
Llwyddiant Peldroed Merched yr Urdd / Urdd Girls' Football success
Fri 19 Oct 2018Llongyfarchiadau mawr i dîm pêldroed merched yr ysgol ar eu llwyddiant yn nhwrnamaint rhanbarthol yr Urdd heddiw. Enillon nhw'r gystadleuaeth yn dilyn chwarae campus gan bob aelod o'r garfan ac edrychwn ymlaen yn awr at y rownd derfynol yn Aberystwyth ym mis Mai. Ymlaen YGG Pontybrenin!
Congratulations to our girls' football team on their success at the Urdd regional tournament today. They won the tournament following some dazzling play by every member of the squad and we now look forward to the Urdd national finals which will be held in Aberystwyth in May. Ymalen YGG Pontybrenin! (19/10/18)
-
Ymweliad gan PC Hughes / Visit by PC Hughes
Fri 19 Oct 2018Hyfryd oedd croesawu PC Hughes i'r ysgol am y tro cyntaf eleni wrth iddi drafod nifer o destunau gydag amrywiaeth o ddosbarthiadau, gan gynnwys Diogelwch y We, Peryglon Dieithriaid a Diogelwch Tân Gwyllt. Diolch PC Hughes!
It was wonderful to welcome PC Hughes to the school for the first time this year as she discussed numerous topics with various year groups including Internet Safety, Stranger Danger and Firework Safety. Diolch PC Hughes! (19/10/18)
-
Disgos tymor yr Hydref / Autumn term discos
Wed 17 Oct 2018Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein disgos yr wythnos hon. Hoffwn ddiolch yn arbennig i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' a'r holl wirfoddolwyr, gan gynnwys y staff, am eu cymorth yn trefnu'r disgos o flaen llaw ac am eu cefnogaeth ar y nosweithiau. Codwyd cyfanswm arbennig o £1177! Ymlaen Pontybrenin!
A big thank you to everyone for supporting our discos this week. In particular I would like to thank the members of 'The Friends of YGG Pontybrenin' and all the volunteers, including the staff, for all their support in organising the discos and for their help on both evenings. We raised an amazing £1177! Ymlaen Pontybrenin! (17/10/18)
-
Bore Coffi Macmillan / Macmillan Coffee Morning
Fri 28 Sep 2018Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein Bore Coffi Macmillan heddiw. O ganlyniad i’r ymateb gwych a'ch rhoddion hael o arian a chacennau, codwyd £743 i’r elusen arbennig hon. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!
A big thank you to everyone who supported our Macmillan Coffee Morning today. The event was very well attended and thanks to everyone's generosity, we succeeded in raising £743 for this wonderful charity. Diolch yn fawr iawn! (28/9/18)
-
Etholiadau Cyngor Ysgol, Pwyllgor Eco a Phwyllgor Lles / Elections for School Council, Eco Committee and Welfare Committee
Tue 25 Sep 2018Da iawn i bawb a fu'n ymdrechu yn ddiweddar i gael eu hethol i'n cynghorau a phwyllgorau amrywiol a llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion hynny a fu'n llwyddiannus yn dilyn etholiadau heddiw. Clywon ni lawer o syniadau arbennig ar sut i ddatblygu'r ysgol ac edrychwn ymlaen at gydweithio'n agos gyda'r ymgeiswyr llwyddiannus i wireddu'r syniadau hynny dros y flwyddyn nesaf.
Well done to all those pupils who campaigned for our various pupil councils and committees recently and congratulations to all those who where elected following today's elections. We heard some wonderful ideas for developing the school and look forward to working closely with the successful candidates in putting these ideas into action over the coming year. (22/9/17)
-
GoTri Triathlon
Thu 28 Jun 2018Llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion hynny o Bl 4 a fu'n cystadlu yn y GoTri Triathlon yng Nghanolfan Hamdden Penlan heddiw. Hyfryd oedd gweld cymaint o blant gyda gwên ar eu hwynebau tra'n nofio, seiclo a rhedeg gyda'u ffrindiau.
Congratulations to all those Year 4 pupils who competed at today's GoTri Triathlon at Penlan Leisure Centre. It was wonderful to see so many children with a smile on their faces whilst swimming, cycling and running with their friends. (29/6/18)
-
Llangrannog - Diwrnodau 3&4 / Llangrannog - Days 3&4
Fri 22 Jun 2018Roedd ein trydydd a phedwerydd diwrnod yr un mor brysur â'r cyntaf gydag amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys disgo egniol ar y nos Iau. Joiodd pawb yr wythnos yn fawr. Diolch yn fawr iawn i staff y Gwersyll am y croeso cynnes unwaith eto eleni a diolch hefyd i Mrs Parkhouse, Miss Gwenter a Mrs Davies am roi mor hael o'u hamser i'n harwain ni.
Our third and fourth days in Llangrannog were just as busy as the first with a wide variety of activities, complete with an energetic disco on the Thursday night. A big thank you to the staff at the Centre for the warm welcome once again this year and to Mrs Parkhouse, Miss Gwenter and Mrs Davies for giving so generously of their time to lead us. (27/6/18)
-
Llangrannog - Diwrnod 2 / Llangrannog - Day 2
Thu 21 Jun 2018Disgyblion Blwyddyn 6 yn mwynhau Diwrnod 2 yng Ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog, gyda bwydlen eang o weithgareddau yn cynnwys dringo'r rhaffau uchel, trampolînio a gyrru'r beiciau cwad. Gyda'r haul yn gwenu a chwmni ffrindiau da, mae bywyd yn braf. Joio!
Our Year 6 pupils enjoying Day 2 at the Urdd Centre in Llangrannog, with a variety of activities including climbing the high ropes, trampolining and riding the quad bikes. With the sun shining and good friends for company, life doesn't get any better. We're having a great time! (21/6/18)
-
Llangrannog - Diwrnod 1 / Llangrannog - Day 1
Wed 20 Jun 2018Ar ôl cyrraedd Llangrannog yn ddiogel ddoe, dechreuodd ein disgyblion ar y gweithgareddau yn syth, gyda sgio, gwib-gartio, y rhaffau uchel a gemau yn esiamplau o'r gweithgareddau buon nhw'n gwneud. Yn dilyn noson dda o gwsg (rhai yn cysgu mwy nag eraill!) a brecwast blasus bore 'ma, mae'r plant allan ar safle'r Ganolfan ar hyn o bryd yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau eraill.
Having safely arrived in Llangrannog yesterday, our pupils got stuck into the activities immediately, with skiing, go-karting, high ropes and multi-games being just some of the activities enjoyed. Following a good night's sleep (some slept more than others!) and a hearty breakfast this morning, the children are currently out around the Centre taking part in various activities. (20/6/18)
