Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Gwybodaeth / Information

Croeso i ddosbarth Blwyddyn 6 Miss Walker

Welcome to Miss Walker’s Year 6 Class

 

ThemaTheme

 

Ein thema yr hanner tymor hwn yw 'Trychinebau Naturiol'. Byddwn yn astudio  ‘Thema fach’ yn achlysurol yn ystod y flwyddyn er mwyn dathlu digwyddiadau amrywiol. 

Our theme this term is 'Natural Disasters'.We will also be studying a ‘Mini theme’ at various times throughout the year to celebrate various events.  

 

Addysg GorfforolPhysical Education

 

Bydd gwersi addysg gorfforol eich plentyn yn cymryd lle ar bob Dydd Mawrth. Bydd angen i’r plant i wisgo’u gwisg addysg gorfforol i’r ysgol – e.e crys-t, byrion/trowsus addas, siaced ar gyfer tu fas ac esgidiau addysg gorfforol. 

Your child’s P.E lesson will take place every Tuesday. The children are to wear their P.E kit to school – e.g shorts / tracksuit, trainers, t-shirt and a jacket for outside.

 

Cymorth CartrefHelp at Home

 

Ar wefan y dosbarth mae yna adran arbennig yn cynnig llawer o wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu chi i gynorthwyo’ch plentyn.  

On the class webpage there is a specific area listing useful hints and tips that will help you to support your child at home.

 

Sillafu/ Spelling

 

Geiriau newydd yn cael eu dosbarthu pob Dydd Gwener a’r cwis yn cymryd lle ar y Dydd Gwener dilynol.

New spelling words will be handed out every Friday, with the spelling quiz being held on the following Friday.

 

Tablau/ Times Tables

 

Disgwylir i ddisgyblion Blwyddyn 6 ymarfer eu tablau yn rheolaidd.

Year 6 pupils are expected to practice their times tables regularly.

 

Darllen/ Reading

 

Bydd eich plentyn yn derbyn llyfrau darllen (un Cymraeg ac un Saesneg) i ddarllen adref. Bydd yr athrawes ddosbarth yn gwrando ar eich plentyn yn darllen yn ystod ein sesiynau darllen. Cyfrifoldeb y disgybl yw i newid eu llyfrau.

Your child will receive reading books (one Welsh and one English) to read at home. The class teacher will listen to your child read during our daily reading sessions. It is the pupils’ responsibility to change their books.

 

 

Dysgu yn yr awyr agored  / Outdoor Learning

 

Bydd cyfle i ddisgyblion dysgu tu allan i'r ystafell dosbarth, gyda chyfleoedd i ddysgu yn warchodfa natur yr ysgol. Bydd angen esgidiau glaw ar gyfer y gweithgareddau yma. Danfonwch eich plentyn i mewn gydag esgidiau glaw bob wythnos os gwelwch yn dda. Bydd amser penodol ar gyfer y dosbarth i ymweld a'r warchodfa pob dydd Mawrth.

The pupils will have the opportunity to learn outside of the classroom in the school nature reserve. The pupils will need wellington boots for these activities, and we ask that you send your child in with their wellies on the allocated day.There will be a specific time for the class to visit the reserve on a Tuesday.

  

Bl 6: Cerdded adref  / Walking home

 

Os ydych yn dymuno i’ch plentyn gerdded adref yn annibynnol bydd angen i chi ddanfon nodyn i’r athrawes ddosbarth yn cadarnhau eich dymuniad.  Bydd y nodyn yn cael ei gadw yn y dosbarth er mwyn i aelodau staff gyfeirio ato.   

If you wish your child to walk home independently you will need to put this in writing to the class teacher.  The note will be kept in class for all staff members to refer to it.

 

 

Ffonau Symudol Mobile Phones

 

Mae’r hawl gan eich plentyn i ddod â ffon symudol i’r ysgol. Bydd yr athrawes yn casglu’r ffon i mewn ar ddechrau bob diwrnod ac yn eu cadw mewn lle diogel.  Ni chaniateir y disgyblion i ddefnyddio’r ffon yn yr ysgol nac i dderbyn unrhyw alwadau yn ystod y dydd.

Your child can bring a mobile phone to school however it will be collected by the class teacher at the beginning of the day and kept in a safe place.  Your child will not be allowed to make or receive calls during the school day.  

 

Gwefan: www.yggpontybrenin.com

Trydar:  PontybreninYGG

 

Diolch yn fawr,

Miss Walker

Top