Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Gwaith Cartref/ Homework

Dilyn y Seren

Un o’r gloch,

A rwy’n dilyn y seren, sydd i weld uwch fy mhen!

Hongian mas gyda’r bois, o am gyffrous!

Gwyntoedd oer,

A rwy’n sythu y tu allan, gyda rhew ar fy nhrwyn.

Teimlaf oerfel o gyffro, does dim cwyn.

 

S’dim seren fel hi!

Swyno gan oleuni

 

Seren, Seren, Seren, beth yw dy gyfrinach?

Dewch i’n helpu hela am y seren estron.

Seren, Seren, Seren, beth yw dy gyfrinach?

Gweithiwn gyda’n gilydd fel ditectifs fodlon?!

 

Cân am Herod - tôn Money, Money, Money gan Abba.  

Mae’n frenin drwg,

Mae’n frenin cas,

Mae’n rhodio’i deyrnas yn ddi-ras,

 

Mae pob bwriad yn un llym,                                     Brenin cas 

I ddal ei afael ar ei rym.

Brenin cas

Cas i blant, sy’n hunllef fyw,

A llefain pobl fy’n ein clyw.

Cadw’r orsedd yn ei law,

Fe fydd yn brifo’n ddi-ben-draw.

 

Cytg.

Herod, Herod, Herod,

Dyma syndod!

Dyma newid byd.

Herod, Herod, Herod,

Dyma syndod!

Dyma newid byd.

Aha-aaaa,

Crist a ddaeth in byd

Mae o’n frenin, mae o’n Arglwydd,

Crist a ddaeth in byd

(Crist a ddaeth in byd.)

 

Mae’n frenin drwg,

Mae’n frenin cas,

Mae’n rhodio’i deyrnas yn ddi-ras,

 

Mae pob bwriad yn un llym,                                     Brenin cas 

I ddal ei afael ar ei rym.

Brenin cas

Cas i blant, sy’n hunllef fyw,

A llefain pobl fy’n ein clyw.

Cadw’r orsedd yn ei law,

Fe fydd yn brifo’n ddi-ben-draw.

 

Cytgan x 2

 

Top