Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Gwasanaethau Diolchgarwch CA2 / KS2 Thanksgiving Services

    Thu 25 Oct 2018
    Da iawn i bob un o ddisgyblion yr Iau a gyfranodd mor arbennig at lwyddiant y Gwasanaethau Diolchgarwch yn eglwys Santes Catherine yr wythnos hon. Roedd safon y canu a'r llefaru yn arbennig o dda a hyfryd oedd cael rhannu neges bwysig diolchgarwch gyda theulu YGG Pontybrenin.

     

    Well done to every one of our Junior pupils who contributed so wonderfully to the success of the Thanksgiving Services that have been held over the past week at St Catherine's church. The standard of singing and reciting has been excellent and it was great to be able to share the important message of thanksgiving with the YGG Pontybrenin family. (25/10/18)

  • Apel Bocs 'Sgidai Nadolig / Christmas Shoebox Appeal

    Fri 19 Oct 2018

    Casglwyd 30 o focsys esgidiau ar gyfer Apêl Bocs 'Sgidiau Nadolig eleni. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cyfraniadau hael. Bydd eich rhoddion yn gwneud gwahaniaeth mawr i nifer o unigolion yng ngwledydd mwyaf difreintiedig Ewrop.

     

    We collected 30 boxes for this year's Christmas Shoebox Appeal. Thank you very much to all those who donated so generously to the cause. Your generosity will make a huge difference to so many individuals in some of Europe's most deprived countries. (19/10/18)

  • Llwyddiant Peldroed Merched yr Urdd / Urdd Girls' Football success

    Fri 19 Oct 2018

    Llongyfarchiadau mawr i dîm pêldroed merched yr ysgol ar eu llwyddiant yn nhwrnamaint rhanbarthol yr Urdd heddiw. Enillon nhw'r gystadleuaeth yn dilyn chwarae campus gan bob aelod o'r garfan ac edrychwn ymlaen yn awr at y rownd derfynol yn Aberystwyth ym mis Mai. Ymlaen YGG Pontybrenin!

     

    Congratulations to our girls' football team on their success at the Urdd regional tournament today. They won the tournament following some dazzling play by every member of the squad and we now look forward to the Urdd national finals which will be held in Aberystwyth in May. Ymalen YGG Pontybrenin! (19/10/18)

  • Ymweliad gan PC Hughes / Visit by PC Hughes

    Fri 19 Oct 2018

    Hyfryd oedd croesawu PC Hughes i'r ysgol am y tro cyntaf eleni  wrth iddi drafod nifer o destunau gydag amrywiaeth o ddosbarthiadau, gan gynnwys Diogelwch y We, Peryglon Dieithriaid a Diogelwch Tân Gwyllt. Diolch PC Hughes!

     

    It was wonderful to welcome PC Hughes to the school for the first time this year as she discussed numerous topics with various year groups including Internet Safety, Stranger Danger and Firework Safety. Diolch PC Hughes! (19/10/18)

  • Disgos tymor yr Hydref / Autumn term discos

    Wed 17 Oct 2018

    Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein disgos yr wythnos hon. Hoffwn ddiolch yn arbennig i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' a'r holl wirfoddolwyr, gan gynnwys y staff, am eu cymorth yn trefnu'r disgos o flaen llaw ac am eu cefnogaeth ar y nosweithiau. Codwyd cyfanswm arbennig o £1177! Ymlaen Pontybrenin!

     

    A big thank you to everyone for supporting our discos this week. In particular I would like to thank the members of 'The Friends of YGG Pontybrenin' and all the volunteers, including the staff, for all their support in organising the discos and for their help on both evenings. We raised an amazing £1177! Ymlaen Pontybrenin! (17/10/18)  

Top