Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Pecynnau gwaith i ddisgyblion / Work packs for pupils

    Fri 20 Mar 2020

    Mae’r staff addysgu wedi bod yn brysur dros y pythefnos diwethaf yn cynhyrchu pecynnau dysgu i’ch plant, yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau, megis iaith, mathemateg, thema / prosiectau, datrys problemau, gweithgareddau corfforol a llawer mwy.  Mae pecynnau y Cyfnod Sylfaen i'w cael ar wefan yr ysgol (www.yggpontybrenin.com) gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn medru agor eu pecynnau nhw trwy eu cyfrifon Hwb.

    Mae tua 4 wythnos o waith eisioes wedi ei baratoi yn y pecynnau hyn. Heb gynnwys pythefnos gwyliau Pasg, bydd y pecynnau hyn yn sicrhau gwaith dyddiol hyd at Mai 1af. Os, fel y disgwylir, bydd yr ysgol yn parhau ar gau ar ôl y dyddiad hwn, bydd pecynnau ychwanegol yn cael eu huwchlwytho a’u rhannu gyda chi. Bydd y ddarpariaeth hon yn parhau nes ein bod yn dychwelyd i’r ysgol. Byddwn yn eich hysbysebu o unrhyw becynnau gwaith ychwanegol trwy Parentmail o flaen llaw.

    Mae cyfeiriadau e-bost Hwb pob aelod o staff eisioes wedi cael eu rhannu gyda chi. A bod achos yn codi lle mae angen cysylltu ag athro/awes eich plentyn, gallwch wneud hynny trwy eu e-bost Hwb nhw. Ond eu bod nhw’n iach, byddant yn anelu i ymateb o fewn y diwrnod.

    Derbyniodd bob plentyn a oedd yn bresennol yn yr ysgol heddiw, nifer helaeth o lyfrau darllen i fynd adref (mae pob llyfr darllen / cyfres ddarllen yn yr ysgol wedi eu dosbarthu). Mae’r staff wedi cofnodi manylion yr holl lyfrau a anfonwyd adref gyda phob plentyn, a rydym yn disgwyl i’r llyfrau ddychwelyd i’r ysgol yn yr un cyflwr os gwelwch yn dda. Diolch.

     

    The teaching staff have been busy for the past fortnight preparing comprehensive work packs for our pupils, with a wide range of activities, including language work, maths, thematic/project work, problem solving, physical activities and much, much more. The Foundation Phase packs have been uploaded to the school’s website (www.yggpontybrenin.com) and our Key Stage 2 pupils can access their packs via their Hwb online accounts.

    Approximately 4 weeks of work has been prepared in these packs in the first instance. Notwithstanding the 2 week Easter break, this will take us to May 1st. If as expected, the school remains closed at this point, an additional 4 week work pack will be uploaded and shared with you. This will continue until such point as we return to school. You will be informed of any additional work packs, via Parentmail, in advance.

    A copy of every staff member’s hwb e–mail addresses has been shared with you. Should the need arise, your child can contact his/her teacher via this e-mail address. As long as they are healthy, they will aim to get back to you on the same day.

    All children who were present in school today were given as many reading books as possible to bring home with them (every reading scheme book and story book we have in school is being distributed). The staff have made a note of all books being sent home and we do expect all these to be returned once the school re-opens. Please make every effort to look after our books and return them in good condition. Diolch. (20/3/20)

     

  • Cau'r ysgol / School closure

    Fri 20 Mar 2020

    O ganlyniad i'r pandemig coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd ysgolion ledled Cymru yn cau am ddarpariaeth addysg statudol ar Ddydd Gwener, Mawrth 20fed, am gyfnod anhysbys. Mae hwn yn gyfnod heriol i ni gyd, ond bydd yr ysgol yn parhau i ddiweddaru holl aelodau cymuned YGG Pontybrenin o'r newyddion a'r datblygiadau diweddaraf trwy eich cyfrifon Parentmail. Petai angen cysylltu â'r ysgol dros yr wythnosau / misoedd nesaf, gofynnir i chi e-bostio ygg.pontybrenin@swansea-edunet.gov.uk neu ffoniwch 01792 894210. Gwnawn ein gorau i ymateb i chi o fewn 24 awr. Diolch 

     

    As a result of the coronavirus pandemic, the Welsh Government has today announced that all schools in Wales will close for statutory provision of education on Friday, March 20th, until further notice. These are clearly challenging times for us all, but the school will keep all members of the YGG Pontybrenin community updated as to the latest news and developments through your Parentmail accounts. Should you need to contact the school in the coming weeks / months, then please feel free to e-mail us on ygg.pontybrenin@swansea-edunet.gov.uk or telephone on 01792 894210. We will make every effort to respond to you within 24 hours. Diolch. (20/3/20)

  • Llwyddiant pêl droed / Football success

    Mon 09 Mar 2020

    Llongyfarchiadau mawr i dîm pêl droed merched yr ysgol ar eu buddugoliaeth yn nhwrnamaint pêl droed ysgolion Abertawe heddiw yn dilyn cystadleuaeth ciciau cosb cyffrous. Bydd y merched yn cynrychioli'r ysgol a'r rhanbarth yn y rownd derfynol yng Nghaerdydd ar Fawrth 26ain. Da iawn chi!

     

    Congratulations to our girls football team on winning today's Swansea schools football tournament following a dramatic penalty shootout. The girls will now go on to represent the school and region at the finals in Cardiff on March 26th. Da iawn chi! (9/3/20)

  • Diwrnod y Llyfr / World Book Day

    Thu 05 Mar 2020

    Cafwyd diwrnod i'r brenin heddiw wrth i'r ysgol gyfan ddathlu Diwrnod y Llyfr gydag amrywiaeth o weithgareddau hwylus, gan gynnwys gwisgo fel ein hoff gymeriadau llenyddol a mwynhau sesiynau stori tra'n gwledda ar fisgedi a llaeth blasus. Hyfryd hefyd oedd croesawu nifer o westeion gwadd i'r ysgol i ddarllen i'r disgyblion, gan gynnwys Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a disgyblion Blwyddyn 12 YG Gŵyr. Hoffwn ddiolch yn fawr iddyn nhw i gyd am roi mor hael o'u hamser.

    Diolch yn fawr iawn hefyd i Asda Gorseinon a Tesco Fforestfach am eu haelioni nhw yn rhoddi'r llaeth a'r bisgedi. Blasus iawn!

     

    Everyone had a great time today as we celebrated World Book Day with a variety of activities, including dressing up as our favourite literary characters and enjoying some wonderful story sessions, complete with milk and cookies. We also welcomed a number of guest readers to school, including South Wales Police, Wales Ambulance Service, Swansea Bay University Health Board and Year 12 pupils from YG Gwyr. A big thank you to them all for giving so generously of their time.

    Thank you also to Asda Gorseinon and Tesco Fforestfach for generously donating the milk and cookies. They were delicious! (5/3/20)

  • Eisteddfod Gwyl Ddewi y Cyfnod Sylfaen / Foundation Phase St David's Eisteddfod

    Tue 03 Mar 2020

    Cafwyd llawer o hwyl a sbri yn Eisteddfod Gŵyl Ddewi y Cyfnod Sylfaen heddiw, gyda disgyblion yn dathlu eu Cymreictod trwy ganu, llefaru a dathlu eu doniau creadigol, gan gynnwys y gystadleuaeth 'Y Genhinen Orau'. Da iawn blant!

     

    We had a lot of fun with today's Foundation Phase St David's Eisteddfod, with pupils celebrating their Welshness by singing, reciting and showcasing their creative talents, including our 'Best Leek' competition. Well done everyone! (3/3/20)

  • Eisteddfod Gwyl Ddewi Cyfnod Allweddol 2 / Key Stage 2 St David's Eisteddfod

    Mon 02 Mar 2020

    Gyda balchder ac angerdd am ein Cymreictod a'n hiaith, dathlwyd Eisteddfod Cyfnod Allweddol 2 eleni gydag amrywiaeth o ganu, llefaru a thrawsdoriad hyfryd o waith celf. Llongyfarchiad mawr i Ella am gipio Cadair yr Eisteddfod gyda'i stori fer, 'Y Gyfrinach'. Yn ôl ein beirniad anrhydeddus, Miss Elen Jones, roedd hi'n stori teimladwy a disgrifiadol iawn gyda diweddglo annisgwyl. Da iawn ti Ella.

     

    With pride and passion for our Welshness and our language, our junior pupils celebrated our Key Stage 2 school Eisteddfod today with a variety of singing, reciting and a wonderful mix of art work. Congratulations to Ella on winning this year's Eisteddfod Chair competition with her short story, 'The Secret'. According to our honorary judge, Miss Elen Jones, this was a wonderfully descriptive story, full of emotion and with an unexpected ending. Da iawn ti Ella! (2/3/20)  

Top