Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Penblwydd Hapus Ysgol Gymraeg Pontybrenin! / Happy Birthday Ysgol Gymraeg Pontybrenin

    Thu 20 Jul 2023

    Gyda'r ysgol yn dathlu ei phenblwydd yn 70 oed eleni, cynhelir nifer o ddigwyddiadau i nodi'r achlysur arbennig hwn. Heb amheuaeth y mwyaf cyffrous o'r rhain oedd y parti penblwydd mawr a gynhelir ar iard yr ysgol heddiw, gyda bwydydd blasus, adloniant gan y band Cymraeg Dros Dro ac ymweliad gan Mr Urdd. Am ddiwrnod i'w gofio! 

     

    With the school celebrating her 70th birthday this year, a number of events have been held to mark this wonderful milestone. The most exciting for the children was the big birthday party we held on the yard today, with tasty food, entertainment by the fantastic Welsh band Dros Dro and a visit from Mr Urdd. What an unforgettable day! (20/7/23)

  • Disgo Pwer Pedal /Pedal Powered Disco

    Fri 14 Jul 2023

    Diolch i Aled o Ynni Da am arwain disgo hwylus ac egniol heddiw, a'r cyfan wedi ei bweru gan ymdrechion ein disgyblion ar eu beiciau. Yn ogystal â mwynhau'r gerddoriaeth, dysgon nhw i werthfawrogi cymaint o egni sydd ei angen i bweru disco. 

     

    Thanks to Aled from Ynni Da for leading a fun and energetic Welsh language disco today, all powered by the efforts of our pupils on their bikes. Not only did our pupils enjoy the music, they also learnt to appreciate how much energy is required to power a disco. (14/7/23)

  • Taith Breswyl i Ganolfan yr Urdd, Caerdydd / Residential trip to the Urdd Centre, Cardiff

    Fri 14 Jul 2023

    Cafodd disgyblion Blwyddyn 5 amser arbennig yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd, gydag ymweliad i Bwll Mawr ym Mlaenafon, Stadiwm y Principality, Castell Caerdydd, y Bathdy Brenhinol, taith o’r bae mewn tacsi dŵr, a bowlio deg. Dychwelodd pawb i’r ysgol wedi blino'n lan ond gydag atgofion bythgofiadwy o’u hantur.

     

    Our Year 5 pupils had an amazing time at the Urdd Centre in Cardiff, with visits to Big Pit in Blaenavon,  the Principality Stadium, Cardiff Castle, the Royal Mint, a tour of the bay in a water taxi and ten pin bowling. Everyone was absolutely shattered on their return to school but with memories that will last a lifetime. (14/7/23) 

  • Gig Urdd Gorllewin Morgannwg

    Tue 04 Jul 2023

    Joiodd disgyblion Blwyddyn 4, 5 a 6 mas draw yn Gig Urdd Gorllewin Morgannwg heddiw yn Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera. Roedd Candelas yn arbennig a braf oedd gweld cymaint o ddisgyblion yn dawnsio ac yn canu i un o fandiau mwyaf Cymru.

     

    Our Year 4, 5 & 6 pupils had a blast at today's West Glamorgan Urdd Welsh language Gig at Ysgol Gyfun Gymraeg Ystalyfera. Candelas were amazing and it was fantastic to see so many pupils dancing and singing to one of the biggest bands in Wales. (4/7/23) 

Top