Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Ffair Nadolig / Christmas Fair

    Wed 30 Nov 2016

    Hyfryd oedd gweld cymaint o deulu Ysgol Gymraeg Pontybrenin yn cefnogi Ffair Nadolig 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' neithiwr. Gyda chymaint o stondinau a gweithgareddau i fwynhau, doedd hi ddim yn syndod ein bod ni wedi codi £1800. Diolch yn fawr iawn i bawb am eu cefnogaeth hael ac i aelodau'r 'Ffrindiau' yn arbennig am eu gwaith di-flino ar y noson a dros yr wythnosau diwethaf. Ymlaen Pontybrenin! 

     

    It was wonderful to see so many of the Ysgol Gymraeg Pontybrenin family supporting last night's 'Friends of YGG Pontybrenin' Christmas Fair. With so many stalls and activities to enjoy, it's no wonder we raised an incredible £1800. Thank you to everyone for your generosity in supporting us and in particular, the members of the 'Friends' who gave so freely of their time on the evening and in the weeks leading up to the Fair. Ymlaen Pontybrenin! (30/11/16)

  • Aled Hughes & Phlant Mewn Angen / Aled Hughes & Children in Need

    Mon 14 Nov 2016

    Pob lwc i Aled Hughes o Radio Cymru gyda'i her o seiclo'r 180 milltir o Abertawe i Fangor er mwyn codi arian i Blant Mewn Angen. Cafodd ei sbarduno ar ei ffordd gan rai o ddisgyblion Blwyddyn 6!

     

    Best of luck to Aled Hughes of Radio Cymru with his challenge of cycling the 180 miles from Swansea to Bangor for Children in Need. Some of our Year 6 pupils cheered him on his way!  (14/11/16)

  • Disgos CRA / PTA Discos

    Fri 11 Nov 2016

    Waw! Yn dilyn cefnogaeth hael teulu Ysgol Gymraeg Pontybrenin, llwyddodd y CRA godi £1249 gyda disgos yr wythnos hon. Hoffwn ddiolch o galon i'r holl wirfoddolwyr hynny a fu'n helpu am roddi mor hael o'u hamser a'u hymdrechion i sicrhau llwyddiant y disgos. Bydd yr arian a godwyd yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau sydd wedi cael eu clustnodi gan y Cyngor Ysgol, megis adnewyddu toiledau'r Adran Iau, marcio'r iard ac adnoddau chwarae newydd i'w defnyddio amser egwyl. Diolch i chi gyd unwaith eto! 

     

    Waw! Following generous support from the Ysgol Gymraeg Pontybrenin family once again, the PTA raised an amazing £1249 following this week's discos. Can I thank all those volunteers who gave so freely of their time and effort to make the discos such a success. The money raised will be put towards projects earmarked by the School Council, particularly the refurbishment of the Junior's toilets, yard markings and new play equipment for break times. Thank you all once again!  (11/11/16)

  • Ymweliad y Frenhines Kevania! / Queen Kevania's Visit

    Mon 07 Nov 2016

    Diolch i'r Frenhines Kevania am ymweld â'r ysgol i ddiddanu yr Adran Iau gyda'i helyntion doniol hi.

     

    Thank you to Queen Kevania for visiting the school and entertaining the Junior pupils with her comical tales. (4/11/16)

  • Cyngor Ysgol yn ymweld a'r Senedd / School Council visits the Senedd

    Thu 03 Nov 2016

    Teithiodd aelodau'r Cyngor Ysgol, swyddogion o'r Pwyllgor Eco a'r Llysgenhadon Gwych i'r Senedd ym Mae Caerdydd heddiw i ddysgu am ddemocratiaeth a sut mae ein cynrychiolwyr etholedig yn gwneud penderfyniadau pwysig ar ein rhan. Cafodd pawb ddiwrnod i'r brenin ac i goroni'r diwrnod, cafon nhw gyfle i gwrdd â Shane Williams yng nghoridorau pwer y Senedd! Joio!

     

    Members of the School Council, officers from the Eco Committee and our Super Ambassadors, visited the Senedd in Cardiff Bay today to learn all about democracy and how our elected representatives make important decision on our behalf. They all had a great day and even bumped into the great Shane Williams in the corridors of power! Joio! (3/11/16)

Top