Blas ar Bontybrenin / A Taste of Pontybrenin
Ar ran holl ddisgyblion, staff a llywodraethwyr Ysgol Gymraeg Pontybrenin, hoffwn groesawu chi i wefan ein hysgol.
Mae pawb yn Ysgol Gymraeg Pontybrenin yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd hapus, gofalgar a chyfeillgar, achos mae plant hapus yn datblygu’n ddysgwyr cysylltiol sydd â’r sgiliau angenrheidiol i lwyddo mewn bywyd. Cyflawnir hyn mewn amgylchedd symbylol a dwyieithog, lle mae’r iaith Gymraeg , ein hetifeddiaeth a’n diwylliant, yn flaenllaw i bob agwedd o fywyd yr ysgol. Hyrwyddir y safonau cyrhaeddiad uchaf ym mhob disgybl, beth bynnag eu gallu, crefydd, ethnigedd neu genedl.
Mae brwdfrydedd ein disgyblion at eu dysgu yn cael ei fagu ohyd, fel y mae eu balchder yn eu cyflawniadau a chymuned yr ysgol. Gwerthfawrogir a dethlir ymdrechion unigolion mewn amgylchedd sy’n annog hunanbarch a chyd-barch.
Mae hyder mewn ysgol yn deillio o wybod a deall yr hyn sydd yn digwydd o fewn y sefydliad. Gobeithiaf y byddwch yn manteisio ar y cyfleoedd i ymweld â’r ysgol eleni ar achlysuron megis cyngherddau, gwasanaethau dosbarth a digwyddiadau CRA, yn ogystal â nosweithi rieni. Fodd bynnag, gobeithiaf yn fawr y byddwch chi hefyd yn ymweld â’r wefan hon yn rheolaidd gan y byddwn ni’n rhannu cryn dipyn o wybodaeth gyda chi drwy ei thudalennau, gan gynnwys dyddiadau allweddol, newyddion, hysbysiadau pwysig a gwybodaeth i rieni ar sut i gefnogi eu plant adref.
Diolch i chi am ddangos diddordeb yn ein hysgol - rydym yn ymfalchïo ynddi. Pe bai unrhyw bryder neu ymholiad gennych, cysylltwch ag athro/athrawes eich plentyn ar y cychwyn cyntaf, neu fi yn bersonol, trwy gysylltu â’r ysgol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt sydd i’w cael ar y dudalen 'Manylion Cysylltu'. Ag eithrio hynny, os hoffech chi ymweld â'r ysgol, cysylltwch â ni i wneud apwyntiad.
Diolch yn fawr.
Mr Ceri Scourfield - Prifathro
On behalf of all the pupils, staff and governors at Ysgol Gymraeg Pontybrenin, can I welcome you to our website.
Everyone at Ysgol Gymraeg Pontybrenin is committed to providing a happy, caring and friendly environment, because happy children make engaged learners who will become fully equipped with the skills to achieve in life. This happiness is accomplished within a stimulating, bilingual environment, where the Welsh language, our heritage and culture, are at the forefront of everything we do as a school. We promote the highest standards of achievement by all pupils regardless of ability, religion, ethnicity or gender.
Our pupils’ enthusiasm for learning is continually nurtured, as is their pride in their achievements and in our school community. Individual efforts are valued and celebrated in an atmosphere that encourages self and mutual respect.
Confidence in a school comes from knowing and understanding what is happening within it. We hope you will take advantage of the various opportunities throughout the year to visit the school on occasions such as concerts, class assemblies and PTA functions, as well as the parent/teacher consultation evenings. However, I do hope that this website also becomes a regular point of contact for you, as we will be sharing a great deal of information with you through its pages, including upcoming dates, news, important notices and parental support tools.
Thank you for your interest in our school, of which we are very proud. If you have any queries or concerns, please don’t hesitate to contact your child's class teacher in the first instance, or myself, using the contact details on the 'Contact Details' page on the website. Alternatively, if you would like to visit the school, please contact us to make an appointment. Thank you.
Mr Ceri Scourfield
Headteacher