Cyfrifoldebau Trawsgwricwlaidd
Cross-curricular Responsibilities
Yn ogystal â'r 6 MDaPh newydd (Meysydd Dysgu a Phrofiad) mae 3 chyfrifoldeb trawsgwricwlaidd – Llythrennedd, Rhifedd a Chymhwysedd Digidol.
As well as the 6 new AOLE’s (Areas of Learning and Experience) there are 3 cross curricular responsibilities – Literacy, Numeracy & Digital Competence.
Cyfrifoldeb yr holl athrawon, ar draws holl feysydd y cwricwlwm, fydd datblygu a sicrhau dilyniant yn y medrau hyn. Penderfynir ar sut y caiff sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol eu datblygu yn y cwricwlwm ac ar ei draws ar lefel leol a bydd yn cyd-fynd â dulliau ysgolion unigol.
It will be the responsibility of all teachers, across all curriculum areas, to develop and ensure progression in these skills. How literacy, numeracy and digital competence skills are developed in and across the curriculum will be decided at a local level and will fit with individual schools’ approaches.
Er mwyn sicrhau bod dysgwyr yn datblygu lefelau uchel o gymhwysedd yn y medrau hyn ac yn cael cyfleoedd mynych i'w datblygu, eu hymestyn a'u cymhwyso ar draws pob maes, bydd athrawon yn parhau i ddilyn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol a'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol.
To ensure that learners develop high levels of competence in these skills and have frequent opportunities to develop, extend and apply them across all areas, teachers will continue to follow the the National Literacy and Numeracy Framework and the Digital Competence Framework.