Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Llwyddiant Pel fasged! / Basketball Success!
Fri 22 Nov 2024Llongyfarchiadau mawr i dimau pêl fasged merched a bechgyn yr ysgol ar eu llwyddiant yn rownd gyntaf twrnamaint pel fasged ysgolion Abertawe heddiw. Enillon nhw yn dilyn chwarae campus gan bob aelod o'r garfan ac edrychwn ymlaen yn awr at y rownd derfynol yn y flwyddyn newydd. Ymlaen YGG Pontybrenin!
Congratulations to both our girls and boys basketball teams on their success in the first round of the Swansea schools basketball tournament today. They won following some dazzling play by every member of the squad and we now look forward to the finals in the new year. Ymlaen YGG Pontybrenin! (22/11/24)
-
Cyflwyno Siec i Ganolfan Gancr Maggie's / Presenting a Cheque to Maggie's Cancer Centre
Mon 18 Nov 2024Hyfryd oedd croesawu Lucia o Ganolfan Gancr Maggie's yn Abertawe i’r ysgol heddiw er mwyn cyflwyno siec o £2532.50 i’r elusen arbennig hon yn dilyn ein taith gerdded noddedig, ac i glywed mwy am eu gwaith pwysig nhw. Diolch unwaith eto i deulu YGG Pontybrenin am eich haelioni.
It was wonderful welcoming Lucia from Maggie's Cancer Centre in Swansea to school today where we presented this amazing charity with a cheque for £2532.50 following our sponsored walk, and to hear all about the vital work they do. Thank you once again to the entire YGG Pontybrenin family for your incredible generosity. Diolch! (18/11/24)
-
Diwrnod y Cadoediad / Armistice Day
Thu 07 Nov 2024I goffáu Diwrnod y Cadoediad ac aberth y dynion a'r menywod hynny a gollodd eu bywydau mewn gwrthdaro, mae disgyblion yr Ysgol Uwch wedi creu pabïau cerameg unigol sydd nawr yn cael eu harddangos wrth fynedfa'r ysgol. Wedi eu gwneud o glai, mae'r pabiau wedi cael eu gwydro gyda phaent coch, gyda gleiniau du yn y canol.
To commemorate Armistice Day and the sacrifices of the servicemen and women who have given their lives in conflict, our Upper School pupils have created individual ceramic poppies that are now on display at the entrance to the school. Made from clay, the poppies have been glazed in red with a black bead at the centre. (7/11/24)
