Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Digwyddiadau - Events

Blas o'r Body Zorbes!

Still image for this video

Rownd terfynol/Final Bl.3 (Bechgyn)

Still image for this video

Rownd terfynol/Final Bl.3 (Merched)

Still image for this video

Ras Cyfnewid/Relay Race Bl.3

Naid hir/Long jump Bl.3

Gwaywffon/Javelin Bl.3

Mae'r dosbarth wrth eu boddau yn ymweliad â'r llyfrgell. O ran yr hoff fenthyciadau yn bresennol mae...llyfrau jôcs, cyfres lyfrau Lego/Star Wars a Goosebumps fyny yn y brig.

The class always look forward to the library visits. In terms of favourites...joke books and the Lego/Star Wars and Goosebumps are flourishing as favourites.

Image result for trampoline clipart

Dyma ni ar ôl gorffen y naid noddedig. Da iawn bawb am y sboncio syfrdanol!

Here we are after finishing the sponsored bounce. Well done everyone for some brilliant bouncing!

 

Er mwyn codi ymwybyddiaeth ar gyfer y bythefnos Masnach Deg rydym wedi bod wrthi'n cyflawni prawf ddal. Gwnaethom brofi cynnyrch Masnach Deg a chynnyrch arferol. Dyma luniau ohonom wrthi'n blasu cynnyrch fel bananas a siocled poeth.

In order to raise awareness for Fairtrade fortnight we completed a blind taste test. We tested some Fairtrade products against non-Fairtrade products. Here are some photos of us tasting products such as bananas and hot chocolate.

   

 

 

Dyma luniau o'r dosbarth yn mwynhau trwco llyfrau. Diolch i MD am dynnu'r lluniau. 

Here are some photos of the class books swap. Thanks to MD for taking the photos.

Ymhlith yr holl weithgareddau daeth disgyblion o chweched ddosbarth Ysgol Gyfun Gŵyr i ddarllen stori i'r dosbarth. Diolch iddyn nhw am eu darllen afieithus!

Amidst all the fun activities, students from Ysgol Gyfun  Gŵyr sixth form came to read a story or two to the class. Thanks to them for their exuberant reading!

Yn ystod y diwrnod mawr fuodd y dosbarth yn brysur yn creu cofnod o'r rhesymau pam maent yn falch i fod yn Gymry.

During the big day the class were busy creating a record of why they are proud to be Welsh.

Yn ystod Eisteddfod yr ysgol cynhaliwyd cystadleuaeth y genhinen fwyaf. Da iawn i MP (cenhinen go iawn) ac i AM (cenhinen wedi ei greu) am fod yn fuddugol. Dyma'r cystadleuwyr:

During the school Eisteddfod the largest leek competition was held. Congratulations to MP (real leek) and AM (created leek) for winning the competitions. Here are the competitors from the class:

Yn ogystal â chystadleuaeth y genhinen fwyaf roedd yna gystadleuaeth dylunio llwy garu. Da iawn i EC am greu llwy ddeniadol iawn ac ennill y gystadleuaeth. Dyma'r cystadleuwyr:

In addition to the largest leek competition there was also a competition to design a love spoon. Congratulations to EC for winning the competition. Here are the competitors from the class with their delightful creations:

Dyma lun o gystadleuwyr y darn o farddoniaeth rydd ar y testun 'Ein hiaith'. Hyfryd i weld 3 aelod o'r dosbarth yn cystadlu. Ymdrech aruthrol gan bawb!

Here are the poetry competitors from year 3 and 4 . It was fantastic to see three members of the class compete. A wonderful effort by all!

 

Roeddem yn gyffrous iawn wrth ymweld  â'r llyfrgell am y tro cyntaf!

We were very excited to visit the library for the first time!

 

 

 

 

Daeth y Frenhines Keviana i'r ysgol i gael sgwrs gyda'r Iau am Bantomime eleni yn Theatr y Grand, Abertawe. Roedden ni'n gyffro i gyd!

 

Queen Keviana came to visit and had a fantastic chat about this years Pantomime at Swansea's Grand Theatre; Sleeping Beauty. The air was filled with excitement!

Yn rhan o ymgyrch Shoctober, daeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i’r ysgol i gael sgwrs wych am fater pwysig - achub bywyd. Dysgom sut i wahaniaethu rhwng argyfwng bach a mawr, beth i wneud mewn argyfwng difrifol, sut i ddefnyddio diffibriliad a beth i wneud os mae rhywun yn tagu. Cafwyd cyfle hyd yn oed i ymarfer cywasgiadau CPR ar Anne, y ddol ac ymweld â’r ambiwlans. Prynhawn bach cyffrous!

As part of the Shoctober campaign, The Welsh Ambulance Service came in to chat to us about a very important matter - saving lives. We learnt how to differentiate between a small and big emergency, what to do in an emergency, how to use a defibrillator and what to do if someone chokes. We even got the chance to practice CPR compressions on Anne, the doll and have a look inside an ambulance. An useful and exciting afternoon had by all!

 

Top