Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Carolau a Choeden / Carols & Christmas Tree

    Mon 17 Dec 2018

    Braf oedd gweld cymaint o deulu YGG Pontybrenin allan yn ein cefnogi ni unwaith eto neithiwr gyda'n gwasanaeth Carolau a Choeden. Roedd awyrgylch arbennig i'r noson ac o ganlyniad i'ch haelioni neithiwr a dros yr wythnosau diwethaf yn prynu tocynnau raffl, yn ogystal â'r ocsiwn ar y noson, codwyd £1370. Gydag £1620 wedi ei godi eisioes yn ein Ffair Nadolig, mae'n gyfanswm anhygoel o £2990. Gai ddiolch yn fawr iawn unwaith eto i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu hymdrechion wrth baratoi am y noson yn ogystal â'u gwaith di-flino yn ystod y digwyddiad. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!

     

    The YGG Pontybrenin family were out in force once again last night during our Carols & Christmas Tree Service. The event had a wonderful atmosphere and as a result of the raffle ticket sales, both last night and over the past month, along with last night's auction, we raised an amazing £1370. Added to the £1620 we raised with the Christmas Fair, that's an incredible £2990. A big thank you as always to the members of 'The Friends of YGG Pontybrenin' for all their efforts leading up to the event and during the evening. Diolch yn fawr iawn i chi gyd! (17/12/18)

  • Carolau Nadolig yn y gymuned / Christmas carols in the community

    Mon 10 Dec 2018
    Bu côr talentog yr ysgol - 58 o ddisgyblion i gyd, yn diddanu cynulleidfa gwerthfawrogol yn Asda Gorseinon heddiw gydag amrywiaeth o garolau Nadolig Cymraeg, o dan arweiniad arbennig Mrs Parkhouse a Mrs Dando. Am ddisgyblion talentog!

     

    The school’s fantastic choir - 58 pupils in all, entertained an appreciative audience at Asda Gorseinon today with a variety of Welsh Christmas carols, under the expert leadership of Mrs Parkhouse & Mrs Dando. What talented pupils we have! (10/12/18)

  • Ymweliad Mr Urdd / Mr Urdd's visit

    Fri 07 Dec 2018

    Braf oedd croesawu Mr Urdd i'r ysgol heddiw a chael y cyfle i drafod yr holl weithgareddau hwylus sydd wedi eu trefnu ar gyfer aelodau'r Urdd. Mae Mr Urdd yn edrych ymlaen yn fawr at weld a chlywed am lwyddiannau disgyblion YGG Pontybrenin eto eleni.  

     

    It was great welcoming Mr Urdd to school today and having the opportunity to discuss all the exciting opportunities that have been planned for members of the Urdd this year. He is very much looking forward to seeing and hearing YGG Pontybrenin's pupils succeeding in various field once again. (7/12/18)    

Top