Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • GoTri Triathlon

    Thu 28 Jun 2018

    Llongyfarchiadau mawr i'r disgyblion hynny o Bl 4 a fu'n cystadlu yn y GoTri Triathlon yng Nghanolfan Hamdden Penlan heddiw. Hyfryd oedd gweld cymaint o blant gyda gwên ar eu hwynebau tra'n nofio, seiclo a rhedeg gyda'u ffrindiau.

     

    Congratulations to all those Year 4 pupils who competed at today's GoTri Triathlon at Penlan Leisure Centre. It was wonderful to see so many children with a smile on their faces whilst swimming, cycling and running with their friends.  (29/6/18)  

  • Llangrannog - Diwrnodau 3&4 / Llangrannog - Days 3&4

    Fri 22 Jun 2018

    Roedd ein trydydd a phedwerydd diwrnod yr un mor brysur â'r cyntaf gydag amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys disgo egniol ar y nos Iau. Joiodd pawb yr wythnos yn fawr. Diolch yn fawr iawn i staff y Gwersyll am y croeso cynnes unwaith eto eleni a diolch hefyd i Mrs Parkhouse, Miss Gwenter a Mrs Davies am roi mor hael o'u hamser i'n harwain ni.  

     

    Our third and fourth days in Llangrannog were just as busy as the first with a wide variety of activities, complete with an energetic disco on the Thursday night. A big thank you to the staff at the Centre for the warm welcome once again this year and to Mrs Parkhouse, Miss Gwenter and Mrs Davies for giving so generously of their time to lead us. (27/6/18)

  • Llangrannog - Diwrnod 2 / Llangrannog - Day 2

    Thu 21 Jun 2018

    Disgyblion Blwyddyn 6 yn mwynhau Diwrnod 2 yng Ngwersyll yr Urdd yn Llangrannog, gyda bwydlen eang o weithgareddau yn cynnwys dringo'r rhaffau uchel, trampolînio a gyrru'r beiciau cwad. Gyda'r haul yn gwenu a chwmni ffrindiau da, mae bywyd yn braf. Joio!

     

    Our Year 6 pupils enjoying Day 2 at the Urdd Centre in Llangrannog, with a variety of activities including climbing the high ropes, trampolining and riding the quad bikes. With the sun shining and good friends for company, life doesn't get any better. We're having a great time! (21/6/18)

  • Llangrannog - Diwrnod 1 / Llangrannog - Day 1

    Wed 20 Jun 2018

    Ar ôl cyrraedd Llangrannog yn ddiogel ddoe, dechreuodd ein disgyblion ar y gweithgareddau yn syth, gyda sgio, gwib-gartio, y rhaffau uchel a gemau yn esiamplau o'r gweithgareddau buon nhw'n gwneud. Yn dilyn noson dda o gwsg (rhai yn cysgu mwy nag eraill!) a brecwast blasus bore 'ma, mae'r plant allan ar safle'r Ganolfan ar hyn o bryd yn ymgymryd ag ystod o weithgareddau eraill.

     

    Having safely arrived in Llangrannog yesterday, our pupils got stuck into the activities immediately, with skiing, go-karting, high ropes and multi-games being just some of the activities enjoyed. Following a good night's sleep (some slept more than others!) and a hearty breakfast this morning, the children are currently out around the Centre taking part in various activities. (20/6/18) 

  • Dawnsio Indiaidd / Indian Dancing

    Tue 12 Jun 2018

    Cafwyd diwrnod egniol iawn o ddawnsio Indiaidd heddiw, gyda holl disgyblion Blwyddyn 5 & 6 yn dysgu am ddiwylliant India, cerddoriaeth a'r dawnsfeydd amrywiol sy'n cael eu haddysgu. Mwynheon ni mas draw!

     

    A very energetic day of Indian dancing was had by our Year 5 & 6 pupils today as they learnt all about Indian culture, music and the various dances that are taught. We had a great time!  (12/6/18)    

  • Hyfforddiant Hyfedredd Seiclo Bl 6 / Year 6 Cycling Proficiency Training

    Tue 12 Jun 2018

    O ganlyniad i hyfforddiant gan Cycle Training Wales, bydd disgyblion Blwyddyn 6 llawer fwy hyfedr yn seiclo yn eu milltir sgwâr dros yr haf yn dilyn rhaglen o hyfforddiant dwys, yn yr ysgol ac ar yr heolydd lleol. Fodd bynnag, dim ond dechrau'r hyfforddiant yw hwn a bydd rhaid i'r disgyblion hynny defnyddio'u holl sgiliau a'u gwybodaeth tra'n defnyddio'u beiciau. 

     

    Thanks to Cycle Training Wales, our Year 6 pupils will be far more proficient whilst cycling in their locality over the summer holidays, following an extensive training course, both at the school and on the local roads. However, all the pupils were reminded that this is only the beginning of their training and that they must use all their skills and knowledge whilst on their bikes.  (12/6/18)

  • Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd / Urdd National Eisteddfod

    Mon 04 Jun 2018

    Bu nifer o ddisgyblion ein hysgol yn cynrychioli Gorllewin Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd dros y Sulgwyn yn Llanelwedd. Manteisiodd bob plentyn ar y cyfle i berfformio o flaen cynulleidfa fawr, gyda phawb yn rhoi o’u gorau glas. Mae’r ysgol yn ymfalchïo yn eu cyflawniadau, nid yn unig ar gyrraedd yr Eisteddfod Genedlaethol ond am y ffordd gwnaethon nhw gynrychioli’r ysgol gydag anrhydedd. Rhaid diolch hefyd i’r holl staff a fu’n ymrwymedig â pharatoi’r disgyblion mor dda dros y misoedd diwethaf. Rydym yn ffodus iawn i gael cymaint o ddisgyblion a staff talentog yn ein plith. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!

     

    Whitsun week saw a number of our pupils representing West Glamorgan at the Urdd National Eisteddfod in Builth Wells. Everyone enjoyed the opportunity of performing in front of a large audience and each pupil gave of his / her very best. The school is extremely proud of their achievements, not only in reaching the National Eisteddfod but also for the way in which they represented the school with such distinction. A great deal of thanks must also go to those members of staff who have shown so much commitment in preparing these pupils over the past few months. We’re extremely fortunate to have so many talented pupils at staff at our school. Diolch yn fawr iawn i chi gyd! (4/6/18)

Top