Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Prosiect Cyfeillio Ysgolion Amazon / Amazon Schools Twinning Project

    Fri 19 Dec 2025

    Mae Ysgol Gymraeg Pontybrenin wedi ymuno â Phrosiect Cyfeillio Ysgolion Amazon. Fel rhan o’r cydweithrediad, bydd yr ysgol yn derbyn £10,000 o gyllid i fuddsoddi mewn adnoddau addysgol. Yn ogystal, bydd disgyblion a staff yn elwa ar ystod o gyfleoedd hyfforddiant arbenigol, gan gynnwys gweithdai codio a sesiynau datblygu sgiliau digidol eraill. Sicrhawyd y cyfle gwych hwn drwy gefnogaeth Ben Inman, Datblygwr Busnes Veeqo, sef cwmni Amazon, ac mae ei ymdrechion wedi helpu i ddod â’r fenter hon i gymuned ein hysgol. 

     

    Ysgol Gymraeg Pontybrenin in Gorseinon has joined Amazon’s Schools Twinning Project. As part of the collaboration, the school will receive £10,000 in funding to invest in educational resources. In addition, pupils and staff will benefit from a range of specialist training opportunities, including coding workshops and other digital skills development sessions. This fantastic opportunity was secured through the support of Ben Inman, Business Developer at Veeqo, an Amazon company, whose efforts have helped bring this initiative to the school community. (19/12/25)

     

     

     

     

     

  • Disgos tymor yr Hydref / Autumn term discos

    Tue 16 Dec 2025

    Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein disgos dros y bythefnos ddiwethaf. Hoffwn ddiolch yn arbennig i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' a'r holl wirfoddolwyr, gan gynnwys y staff, am eu cymorth yn trefnu'r disgos o flaen llaw ac am eu cefnogaeth ar y nosweithiau. Codwyd cyfanswm arbennig o £1551! Ymlaen Pontybrenin!

     

    A big thank you to everyone for supporting our discos over the past fortnight. In particular I would like to thank the members of 'The Friends of YGG Pontybrenin' and all the volunteers, including the staff, for all their support in organising the discos and for their help on both evenings. We raised an amazing £1551! Ymlaen Pontybrenin! (10/11/25)

  • Carolau a Choeden / Carols & Christmas Tree

    Mon 08 Dec 2025

    Er gwaethaf cael ein gorfodi tu fewn gan y tywydd garw, braf oedd gweld cymaint o deulu YGG Pontybrenin allan yn ein cefnogi ni unwaith eto neithiwr gyda'n gwasanaeth Carolau a Choeden. Roedd awyrgylch arbennig i'r noson ac o ganlyniad i'ch haelioni neithiwr a dros yr wythnosau diwethaf yn prynu tocynnau raffl, codwyd £1348. Ga'i ddiolch yn fawr iawn unwaith eto i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu hymdrechion wrth baratoi am y noson yn ogystal â'u gwaith di-flino yn ystod y digwyddiad. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!

     

    Despite being forced indoors by the poor weather, the YGG Pontybrenin family were still out in force last night during our Carols & Christmas Tree Service. The event had a wonderful atmosphere and as a result of the raffle ticket sales, both last night and over the past month, we raised an amazing £1348. A big thank you as always to the members of 'The Friends of YGG Pontybrenin' for all their efforts leading up to the event and during the evening. Diolch yn fawr iawn i chi gyd! (8/12/25)

  • Cefnogi Kevin Sinfield a MND / Supporting Kevin Sinfield & MND

    Wed 03 Dec 2025

    Roedd bron i 300 o ddisgyblion yr Ysgol Uwch wrth eu boddau yn cefnogi Kevin Sinfield yn ei her diweddaraf heddiw yn codi arian ac ymwybyddiaeth o MND. Da iawn Kevin a phob lwc gyda gweddill yr heriau. Rwyt ti'n ysbrydoliaeth i ni gyd! 

     

    Almost 300 of our Upper School pupils were thrilled to cheer on the great Kevin Sinfield in his latest challenge to raise money and awareness of MND. Well done Kevin and best of luck with the remaining challenges. You're an inspiration to us all! (3/12/25)

  • Jambori Cadi a'r Coblyn / Cadi & the Coblin Jamboree

    Wed 03 Dec 2025

    Hyfryd oedd croesawu criw Cadi a'r Coblyn i'r ysgol heddiw ar gyfer Jambori Nadolig Blwyddyn 1&2.Joiodd y plant mas draw wrth ganu, dawnsio a chwerthin i ganeuon yr Ŵyl.

     

    What a joy it was to welcome the Cadi & the Coblin crew to school today for the Year 1&2 Christmas Jamboree. The children had a fantastic time singing, dancing and laughing to festive songs. (3/12/25)

Top