Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Twrnamaint pel-rwyd / Netball tournament

    Thu 26 Mar 2026

    Llongyfarchiadau i dimau pêl-rwyd merched yr ysgol ar chwarae mor dda yn nhwrnamaint ysgolion Abertawe heddiw. Enillodd Tîm 1 drwodd i'r rownd gynderfynol a Tîm 2 i'r rownd gogynderfynol, gyda'r ddau yn colli i Ysgol Llandeilo-Ferwallt. O dan arweiniad eu hyfforddwraig Abi Hobson, mae'r ddau dîm wedi datblygu yn aruthrol dros y misoedd diwethaf ac edrychwn ymlaen at eu gweld nhw'n cynrychioli'r ysgol eto yn nhymor yr haf.

     

    Congratulations to the school's girls' netball teams on playing so well at today's Swansea schools netball tournament. Team 1 won through to the semi-finals and Team 2 progressed to the quarter finals, both losing to Bishopston Primary. Under the expert tutelage of Abi Hobson, the teams have developed immensely over the past few months and we look forward to seeing them represent the school again in the summer term. (26/3/26). 

  • Eisteddfod yr Urdd Gorllewin Morgannwg / West Glamorgan Urdd Eisteddfod

    Thu 19 Mar 2026

    Llongyfarchiadau hefyd i’r holl ddisgyblion a gynrychiolodd yr ysgol gydag anrhydedd yn Eisteddfod Ranbarthol yr Urdd heddiw. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld y disgyblion / eitemau canlynol yn cynrychioli’r ysgol a Gorllewin Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar Ynys Môn ym mis Mai:
    - Anya Perry (Unawd Piano Bl 6 & Iau)

    - Ffion Nabialek (Alaw Werin Bl 6 & Iau)
    - Gwennan Lewis a Ffion Nabialek (Deuawd Bl. 6 & Iau)
    - Gwennan Lewis a Ffion Nabialek (Deuawd Cerdd Dant Bl. 6 ac Iau)
    - Parti Unsain Bl 6 & Iau

     

    Congratulations also to all those pupils who represented the school with distinction at yesterday’s Urdd regional Eisteddfod. We look forward to seeing the following pupils / items representing both the school and West Glamorgan at the Urdd National Eisteddfod in Anglesey in May:

    - Anya Perry (Yr 6 & Under Piano Solo)

    - Ffion Nabialek (Yr 6 & Under Folk Song)

    - Gwennan Lewis & Ffion Nabialek (Yr 6 & Under Duet)

    - Gwennan Lewis & Ffion Nabialek (Yr 6 & Under Cerdd Dant Duet)

    - Year 6 & Under Unison Party (18/3/26)

  • Pencampwriaeth Rygbi D11 Ysgolion Cymru / Welsh Schools U11s Rugby Championship

    Thu 19 Mar 2026

    Llongyfarchiadau i dîm rygbi Blwyddyn 5 a 6 yr ysgol ar ennill Cwpan y Cadeirydd ym Mhencampwriaeth Rygbi D11 Ysgolion Cymru yn Llanymddyfri heddiw. Er cafon nhw eu rhoi yn y grŵp anoddaf gyda rhai o gewri rygbi ysgolion Cymru, chwaraeodd y bechgyn yn wych ac fe wnaethon nhw fwynhau’r profiad a’r cystadlu yn fawr iawn. Da iawn chi!

     

    Congratulations to the school’s Year 5&6 rugby team on winning the Chairman’s Cup at today’s Welsh Schools U11s Rugby Championship in Llandovery. Despite being in the ‘group of death’ with some of the heavyweights of Welsh schools’ rugby, the boys played really well and thoroughly enjoyed the experience and the high level competition. Llongyfarchiadau bois! (19/3/26)

  • Eisteddfod yr Urdd - Cylch Llwchwr / Urdd Eisteddfod - Loughor Area

    Fri 06 Mar 2026

    Llongyfarchiadau mawr i holl ddisgyblion yr ysgol a fu’n cystadlu yn Eisteddfod Gylch yr Urdd heddiw. Mae’r ysgol yn ymfalchϊo yn eu perfformaidau ac mae pob un ohonynt yn haeddu canmoliaeth am eu hymdrechion dros yr wythnosau diwethaf. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld 17 o eitemau (unigolion a grwpiau) yn cynrychioli Cylch Llwchwr yn yr Eisteddfod Rhanbarthol yn Neuadd y Brangwyn ar Ddydd Iau, Mawrth 19eg.

    Llongyfarchiadau yn arbennig i Ffion Nabialek ar ennill Tlws Coffa Myra Rees, sy'n cael ei gyflwyno yn flynyddol i'r perfformiwr mwyaf addawol, am yr ail flwyddyn yn olynnol. Da iawn ti Ffion!

     

    Congratulations to all those pupils who competed at today’s Urdd Loughor Area Eisteddfod. As a school, we’re extremely proud of their performances and they deserve every praise for the time and effort they’ve given over the past few weeks. The standard was excellent as always and everyone gave of their very best. We look forward to seeing 17 items (individuals and groups) representing the Loughor District at the Regional Eisteddfod in the Brangwyn Hall on Thursday, March 19th.

    Congratulations in particular to Ffion Nabialek who won the Myra Rees Memorial Shield, awarded annually to the most promising performer, for the second year in succession. Llongyfarchiadau Ffion! (6/3/26)

  • Diwrnod y Llyfr / World Book Day

    Thu 05 Mar 2026

    Yn ogystal a gwisgo lan fel ein hoff gymeriadau llenyddol, hyfryd oedd gallu croesawu cymaint o ffrindiau cymuned ein hysgol i ddarllen i’r plant, gan gynnwys enwogion y byd chwaraeon a’r arwyr sy’n ein helpu pob dydd. Diolch yn fawr iawn!

     

    In addition to dressing up as our favourite literary characters for World Book Day, it was wonderful to welcome so many friends of the school community to read to our pupils, including a number of sporting celebrities and the heroes who help us everyday. Diolch yn fawr iawn! (5/3/26)

  • Eisteddfod Gwyl Ddewi / St David's Day Eisteddfod

    Tue 03 Mar 2026

    In dilyn Eisteddfod Gwyl Ddewi lwyddiannus arall, lle cystadlodd pob disgybl mewn cystadleuaeth o ryw fath, boed hynny'n llefaru, canu neu celf, pleser oedd cyhoeddu mai Summer oedd enillydd cystadleuaeth y gadair eleni. Llongyfarchiadau mawr i ti Summer! 

     

    Following another very successful St David's Day Eisteddfod, where all our pupils competed in various singing, reciting and art competitions, it was a pleasure to announce Summer as the winner of this year's chair competition. Congratulations Summer! (3/3/26) 

Top