Mae 'Ffrindiau Ysgol Gymraeg Pontybrenin' yn griw gweithgar o bobl sydd yn angerddol am addysg eu plant ac am sicrhau eu bod nhw'n derbyn y cyfleoedd gorau posib yn ystod eu cyfnod yn yr ysgol. Er mwyn cynorthwyo'r ysgol yn y nod hwnnw, mae'r 'Ffrindiau' yn trefnu ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau yn gyson er mwyn codi arian i fuddsoddi mewn adnoddau sydd yn cael effaith uniongyrchol ar lawr y dosbarth. Mae'r 'Ffrindiau' yn cwrdd yn fisol, a braf byddai croesawu aelodau newydd felly dewch yn llu i'n cefnogi ni!
The 'Friends of Ysgol Gymraeg Pontybrenin' are an energetic and hard working group of people who are passionate about their children's education and in giving them the best possible opportunities during their time at the school. In order to support the school in this aim, the 'Friends' regularly organise a range of activities and events to raise much needed funds to purchase resources that have a direct impact in the classroom. The 'Friends' meet on a monthly basis and are always on the lookout for new members so come along and support us!
Cyfarfod nesaf 'Y Ffrindiau' - 15/10/19 yn Nhafarn y Trap, 7.00yh
Next 'Friends' Meeting - 15/10/19 at Tafarn y Trap, 7.00pm.
Digwyddiadau ar y gweill gan y 'Ffrindiau': (manylion ar y calendr)
22/10/19 - Disgo yr Hydref - CA2, 5.30yh - 7.00yh
24/10/19 - Disgo yr Hydref - Derbyn, 5.00yh - 5.45yh & Blwyddyn 1&2, 6.00yh - 6.45yh
26/11/19 - Ffair Nadolig, 5.30yh - 7.00yh
Upcoming events organised by the 'Friends': (details on the calendar)
22/10/19 - Autumn Disco - KS2, 5.30pm - 7.00pm
24/10/19 - Autumn Disco - Reception, 5.00pm - 5.45pm & Years 1&2, 6.00pm - 6.45pm
26/11/19 - Christmas Fair, 5.30pm - 7.00pm
Diolch i'r 'Ffrindiau' am eu haelioni unwaith eto eleni. / Thanks to the 'Friends' for their generosity yet again this year (19/7/19).
Ffair Nadolig / Christmas Fair
Codwyd £1620 yn ein Ffair Nadolig neithiwr, gyda chyfanswm y raffl heb ei gyfrif eto (raffl i'w dynnu ar noson y 'Coeden a Charolau'). Ar ran holl ddisgyblion yr ysgol, carwn ddiolch i holl deulu YGG Pontybrenin am eich cefnogaeth a'ch haelioni unwaith eto. Gai hefyd ddiolch i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu gwaith diflino yn trefnu a pharatoi y Ffair - mae eich ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr iawn. Bydd yr arian hwn yn galluogi'r ysgol i fuddsoddi mewn adnoddau newydd i bob dosbarth. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!
We raised a fantastic £1620 with last night's Christmas Fair, with the raffle total yet to be counted (raffle to be drawn on the evening of the 'Christmas Tree & Carols' event). On behalf of all the school's pupils, can I thank the entire YGG Pontybrenin family for your support and generosity once again. Can I also say a great big thank you to the members of the 'Friends of YGG Pontybrenin' who worked so hard in preparing and organising the Fair - your efforts are very much appreciated. This money will allow the school to purchase new resources for every class. Diolch yn fawr iawn! (23/11/18)
Yn dilyn cefnogaeth hael teulu Ysgol Gymraeg Pontybrenin, llwyddodd y CRA godi £1177 gyda disgos yr wythnos hon. Hoffwn ddiolch o galon i'r holl wirfoddolwyr hynny a fu'n helpu am roi mor hael o'u hamser a'u hymdrechion i sicrhau llwyddiant y disgos. Diolch i chi gyd unwaith eto! / Following generous support from the Ysgol Gymraeg Pontybrenin family once again, the PTA raised an amazing £1177 following this week's discos. Can I thank all those volunteers who gave so freely of their time and effort to make the discos such a success. (18/10/18)
Diolch i 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am ariannu cymaint o adnoddau newydd i'r ysgol yn ddiweddar (ffotograffau isod). / Thank you to 'The Friends of YGG Pontybrenin' for financing so many new resources recently (photographs below). (8/6/18)
Carolau a Choeden / Carols & Christmas Tree
Braf oedd gweld cymaint o deulu YGG Pontybrenin allan yn ein cefnogi ni unwaith eto neithiwr gyda'n gwasanaeth Carolau a Choeden. Roedd awyrgylch arbennig i'r noson ac o ganlyniad i'ch haelioni neithiwr a dros yr wythnosau diwethaf yn prynu tocynnau raffl, yn ogystal â'r ocsiwn ar y noson, codwyd £1563. Gydag £1800 wedi ei godi eisioes yn ein Ffair Nadolig, mae'n gyfanswm anhygoel o £3363. Gai ddiolch yn fawr iawn unwaith eto i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu hymdrechion wrth baratoi am y noson yn ogystal â'u gwaith di-flino yn ystod y digwyddiad. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!
The YGG Pontybrenin family were out in force once again last night during our Carols & Christmas Tree Service. The event had a wonderful atmosphere and as a result of the raffle ticket sales, both last night and over the past month, along with last night's auction, we raised an amazing £1563. Added to the £1800 we raised with the Christmas Fair, that's an incredible £3363. A big thank you as always to the members of 'The Friends of YGG Pontybrenin' for all their efforts leading up to the event and during the evening. Diolch yn fawr iawn i chi gyd! (19/12/17)
Ffair Nadolig / Christmas Fair
Codwyd £1800 yn ein Ffair Nadolig, gyda chyfanswm y raffl heb ei gyfrif eto (raffl i'w dynnu ar noson y 'Coeden a Charolau'). Ar ran holl ddisgyblion yr ysgol, carwn ddiolch i holl deulu YGG Pontybrenin am eich cefnogaeth a'ch haelioni unwaith eto. Gai hefyd ddiolch i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu gwaith diflino yn trefnu a pharatoi y Ffair - mae eich ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr iawn. Bydd yr arian hwn yn galluogi'r ysgol i fuddsoddi mewn offer TGCh newydd i'r ysgol yn ogystal â phrynu citiau chwaraeon newydd. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!
We raised a fantastic £1800 with our Christmas Fair, with the raffle total yet to be counted (raffle to be drawn on the evening of the 'Christmas Tree & Carols' event). On behalf of all the school's pupils, can I thank the entire YGG Pontybrenin family for your support and generosity once again. Can I also say a great big thank you to the members of the 'Friends of YGG Pontybrenin' who worked so hard in preparing and organising the Fair - your efforts are very much appreciated. This money will allow the school to invest in new ICT equipment as well as new sports kit. Diolch yn fawr iawn! (30/11/17)
Diolch i 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am ariannu ein rhestlau beiciau newydd - yn barod i her y 'Big Pedal'. / Thank you to 'The Friends of YGG Pontybrenin' for financing our new bicycle racks - just in time for the 'Big Pedal' challenge. (21/3/17)
Diolch i'r' Ffrindiau' am doiledau newydd merched CA2 - maen nhw'n ffab! / Thank you to the 'Friends' for the KS2 girls' new toilets - they're fab! (27/2/17)


Carolau & Choeden / Carols & Christmas Tree
Hyfryd oedd gweld cymaint o deulu YGG Pontybrenin yn mwynhau eu hunain yn ein Gwasanaeth Carolau neithiwr. Roedd awyrgylch arbennig i'r noson ac yn seiliedig ar yr adborth cynnar, byddwn yn ei chynnal hi yn flynyddol o hyn ymlaen. Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i Miss Carys Williams am gyfeilio mor arbennig ar y piano ac i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am drefnu arwerthiant y tocynnau raffl a'r gwobrau. O ganlyniad i'ch haelioni chi, cododd y Raffl Nadolig swm arbennig o £1420. Gyda'r Ffair Nadolig yn codi £1800 yn ddiweddar hefyd, bydd yr ysgol mewn sefyllfa i fwrw mlaen yn syth gyda'r blaenoriaethau a dargedwyd gan y Cyngor Ysgol. Diolch yn fawr i chi gyd!
It was great to see so many members of the YGG Pontybrenin family enjoying themselves at last night's Carol Service which was very well attended. The event had a wonderful atmosphere and from the feedback we've received, it will certainly be an annual event from now on. Miss Carys Williams deserves a big thank you for her wonderful piano accompaniment and our thanks also go to the members of the 'Friends of YGG Pontybrenin' who arranged the raffle ticket sales and prize hampers. Thanks to the generous support of everyone, our Christmas Raffle raised an amazing £1420. Added to the £1800 that was raised with the recent Christmas Fair, the school will be in a position to push ahead immediately with the priorities that the School Council have targeted. Diolch yn fawr iawn! (12/12/16)
Diolch i'r 'Ffrindiau' am ein gemau iard newydd! / Thanks to the 'Friends' for our new yard games! (7/12/16)
Ffair Nadolig / Christmas Fair
Codwyd swm arbennig o £1800 yn ein Ffair Nadolig, gyda chyfanswm y raffl heb ei gyfrif eto (raffl i'w dynnu ar noson y 'Coeden a Charolau'). Ar ran holl ddisgyblion yr ysgol, carwn ddiolch i holl deulu YGG Pontybrenin am eich cefnogaeth a'ch haelioni unwaith eto. Gai hefyd ddiolch i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu gwaith diflino yn trefnu a pharatoi y Ffair - mae eich ymdrechion yn cael eu gwerthfawrogi yn fawr iawn. Bydd yr arian hwn yn galluogi'r ysgol i fuddsoddi yn nhoiledau yr Iau, iard yr ysgol ac offer TGCh ychwanegol i bob dosbarth. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!
An amazing £1800 was raised by our Christmas Fair, with the raffle total yet to be counted (raffle to be drawn on the evening of the 'Christmas Tree & Carols' event). On behalf of all the school's pupils, can I thank the entire YGG Pontybrenin family for your support and generosity once again. Can I also say a great big thank you to the members of the 'Friends of YGG Pontybrenin' who worked so hard in preparing and organising the Fair - your efforts are very much appreciated. This money will allow the school to invest in the Junior's toilets, the school yard and additional ICT equipment for all classes. Diolch yn fawr iawn! (30/11/16)
Disgo yr Hydref / Autumn Disgo
Waw! Yn dilyn cefnogaeth hael teulu Ysgol Gymraeg Pontybrenin, llwyddodd y CRA godi £1249 gyda disgos yr wythnos hon. Hoffwn ddiolch o galon i'r holl wirfoddolwyr hynny a fu'n helpu am roddi mor hael o'u hamser a'u hymdrechion i sicrhau llwyddiant y disgos. Bydd yr arian a godwyd yn cael ei ddefnyddio i ariannu prosiectau sydd wedi cael eu clustnodi gan y Cyngor Ysgol, megis adnewyddu toiledau'r Adran Iau, marcio'r iard ac adnoddau chwarae newydd i'w defnyddio amser egwyl. Diolch i chi gyd unwaith eto!
Waw! Following generous support from the Ysgol Gymraeg Pontybrenin family once again, the PTA raised an amazing £1249 following this week's discos. Can I thank all those volunteers who gave so freely of their time and effort to make the discos such a success. The money raised will be put towards projects earmarked by the School Council, particularly the refurbishment of the Junior's toilets, yard markings and new play equipment for break times. Thank you all once again! (11/11/16)