Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Diwrnodau Sgiliau y Derbyn / Reception Class Skills Days

    Tue 28 Feb 2017

    Bu'r diwrnodau 'Datblygu Sgiliau' Derbyn diweddar yn lwyddiant ysgubol, gyda nifer fawr o rieni a rhieni-cu yn mynychu'r sesiynau. Hyfryd oedd gweld disgyblion yn arddangos eu datblygiad sgiliau tra bod eu rhieni a'u rhieni-cu yn derbyn mewnwelediad i'r strategaethau sydd ar waith ar lawr y dosbarth.

     

    Our Reception 'Developing Skills' days proved very successful recently, with a large number of parents and grandparents attending. It was wonderful to see the pupils showcasing their skills development whilst parents / grandparents got an insight into some of the strategies used in class. (28/2/17)

  • Trwco Llyfrau / Book Swap

    Tue 28 Feb 2017

    Hyfryd oedd gweld cymaint o hen lyfrau a llyfrau di-angen yn cael eu trwco gan ddisgyblion fel rhan o'n Wythnos y Llyfr. Diolch i'r rhieni hynny a fodlonodd i'w plant ddod â chymaint o lyfrau i'r ysgol. Maen nhw nawr yn cael eu trysori a'u darllen gan blant eraill. 

     

    It was wonderful to see so many used and unwanted books being swapped by pupils as part of our Book Week. Thank you to all those parents who allowed their children to bring in so many books. They are now being treasured and re-read by other children. (28/2/17)

  • Lawnsio ein 'Wythnos y Llyfr' / Launching our 'Book Week'

    Mon 27 Feb 2017

    Lawnsion ni ein 'Wythnos y Llyfr' trwy wahodd disgyblion a staff i wisgo fel cymeriadau llenyddol. Gwelwyd nifer o Spidermen, Mary Poppins, Wallys ac ambell i Sali Mali i enwi ond ychydig o gymeriadau. Hyfryd oedd gweld cymaint o blant wedi gwneud yr ymdrech i wisgo lan a chafwyd llawer o hwyl a sbri. 

     

    We launched our 'Book Week' by inviting both pupils and staff to dress up as a literary character. We had lots of Spidermen, Mary Poppins, Wallys and quite a few Sali Malis to name but a few characters. Everyone made a great effort and we had lots of fun. (27/2/17)

  • Ailwampiad Toiledau Merched CA2 / KS2 Girls' Toilet Refurbishment

    Mon 27 Feb 2017

    Mae'r gwaith o ailwampio toiledau merched CA2 wedi dod i ben, gyda'r toiledau newydd yn plesio yn fawr iawn. Diolch i'r Cyngor Ysgol am eu syniadau creadigol nhw ac yn arbennig i 'Ffrindiau Ysgol Gymraeg Pontybrenin' am eu haelioni yn ariannu'r gwaith.

     

    The work of refurbishing the KS2 girls' toilets has been completed, with the new toilets being a big hit. Thank you to the School Council for their creative ideas and particularly to the 'Friends of Ysgol Gymraeg Pontybrenin' for the generosity in funding the work.  (27/2/17)

  • Diwrnod Mentergarwch Bl 2 / Year 2's Enterprise Day

    Thu 16 Feb 2017

    Roedd llond y lle o gwsmeriaid eiddgar ym Mlwyddyn 2 heddiw wrth i rieni llwglyg chwilio am luniaeth. Gyda bara brith blasus a smwddis iachus ar werth, cafodd y cyfan eu gwerthu ym mhen chwinciad. Entrepreneuriaid y dyfodol! 

     

    The classrooms were packed out this afternoon with hungry parents looking for tasty refreshments. Our Year 2 pupils duly obliged with homemade fruitcake and smoothies that were sold out in a flash. Our future entrepreneurs!

  • Hyfforddiant Hyfedredd Seiclo / Cycling Proficiency Training

    Wed 15 Feb 2017

    Gobeithio bydd Blwyddyn 6 ychydig yn fwy hyderus ar eu beiciau yn dilyn hyfforddiant seiclo yr wythnos hon. Datblygodd pawb eu sgiliau a'u hyder tra'n dysgu gwybodaeth sylfaenol am reolau'r ffordd.

     

    Hopefully Year 6 will be far more confident on their bikes following this week's cycling training course. Everyone developed their skills and confidence whilst learning he basics of the highway code. (15/2/17) 

  • Wythnos Dathlu Gwaith / Celebrating My Work Week

    Fri 03 Feb 2017

    Braf oedd gweld cymaint o rieni yn mynychu'r diwrnodau 'Dathlu fy Ngwaith' yr wythnos hon. Mwynheoedd y plant y cyfle i arddangos eu gwaith gorau ac i ddathlu eu llwyddiannau. 

     

    It was great to see so many parents at this week's 'Celebrating My Work' days. The children thoroughly enjoyed the opportunity to show their parents/guardians their best work and to celebrate their achievements. (3/2/17) 

Top