Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Dur a Môr / Urdd National Eisteddfod
Wed 28 May 2025Llongyfarchiadau i'r holl ddisgyblion hynny a gynrychiolodd yr ysgol a Gorllewin Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ym Mharc Margam yr wythnos diwethaf. Ceir perfformiadau arbennig gan bawb ac hyfryd oedd gweld cymaint o blant yn ffynnu ar lwyfan ac yn serennu wrth berfformio ar lwyfan cenedlaethol. Mae'r ysgol yn browd iawn ohonyn nhw i gyd.
Llongyfarchiadau i Ffion Nabialek yn arbennig ar ennill y fedal arian yn yr Eisteddfod, gyda’i pherfformaid swynol o ‘Hufen Iâ’ yn yr Unawd Bl 3&4. Roedd hi’n berfformiad hyderus ac aeddfed ac edrychwn ymlaen at ei gweld hi’n serennu ar lwyfannau di-ri dros y blynyddoedd nesaf. Da iawn Ffion!
Llongyfarchiadau mawr hefyd i Theo Ruddle ar ddod yn drydydd yng nghystadleuaeth Ffotograffiaeth Lliw Bl 3&4 yn Eisteddfod yr Urdd. Canmolodd y beirniaid ei ffotograff hyfryd o’i ddadcu yn tyfu llysiau yn yr ardd ac edrychwn ymlaen at arddangos y ddelwedd yn yr ysgol yn fuan yn y gobaith o danio creadigrwydd eraill. Da iawn Theo!Congratulations to all those pupils who represented the school and West Glamorgan at last week’s Urdd National Eisteddfod in Margam Park. The talent on display was exceptional and it was wonderful to see so many children thriving in the spotlight and having an opportunity to perform on a national stage. The school is extremely proud of them all.
Congratulations to Ffion Nabialek in particular on winning the silver medal at the Urdd Eisteddfod, with her wonderful performance of ‘Hufen Iâ’ in the Year 3&4 Solo. It was a very confident and polished performance and we look forward to seeing her accomplish great things on the stage over the coming years. Da iawn Ffion!
Congratulations also to Theo Ruddle on placing 3rd in the Year 3&4 Colour Photography competition at the Eisteddfod. His beautiful photograph of his grandfather growing vegetables in the garden really caught the eye of the judges and will soon be on display in school to inspire creativity in others. Llongyfarchiadau mawr Theo! (28/6/25) -
Diwrnodau Dathlu Darllen y Derbyn
Wed 21 May 2025Gyda'r haul yn gwenu a thorf o rieni a rhieni-cu yn bresennol i gefnogi, buodd disgyblion y Derbyn yn mwynhau arddangos eu sgiliau darllen a'r gweithgareddau ac adnoddau rydym yn defnyddio i ddysgu sut i ddarllen yn hyderus.
With the sun shining and a crowd of parents and grandparents in attendance, our Reception pupils thoroughly enjoyed showcasing their reading skills and the activities and resources they use in learning to read confidently. (21/5/25)
-
Cyngerdd Dathlu yr Urdd / Urdd Celebration Concert
Tue 20 May 2025Hyfryd oedd cael ymuno gyda'n ffrindiau o Ysgol Penllegaer yn Eglwys Santes Catherine heno mewn cyngerdd i ddathlu llwyddiannau'r ddwy ysgol yn Eisteddfod Rhanbarthol yr Urdd ac i godi arian i Bwyllgor Apêl yr Eisteddfod.
It was wonderful joining our friends from Ysgol Penllegaer in St Catherine's Church this evening for a concert to celebrate the successes of both schools at the Regional Urdd Eisteddfod and to raise much needed funds for the Eisteddfod Appeals Committee. (20/5/25)
-
Blwyddyn 5 yn Llanion Cove / Year 5 in Llanion Cove
Fri 16 May 2025Cafodd Blwyddyn 5 brofiad arbennig yng Nghanolfan antur preswyl Llanion Cove yn Sir Benfro yr wythnos hon. Gyda thywydd bendigedig, buon nhw ar y dŵr yn kayaks, canoes a paddle boards, yn dringo ac yn gweithio fel tîm i ddatrys problemau. Yn bwysiacach na hynny, cysgon nhw drwy’r nos fel bod y staff yn gallu cael ychydig o orffwys. Roedd ymddygiad y plant yn arbennig ac maen nhw’n edrych ymlaen yn fawr yn awr at eu profiad preswyl nesaf yn Llangrannog ym Mlwyddyn 6.
What am amazing experience Year 5 had this week at Llanion Cove residential adventure centre in Pembrokshire. In glorious sunshine, they kayaked, canoed, paddle boarded, climbed rock walls, worked together as a team to solve problems and more importantly, slep all night so that the staff could catch up on their beauty sleep. The children were a credit to the school and are now looking forward to next year’s residential visit to Llangrannog. (16/5/25)
-
Ffair Wanwyn / Spring Fair
Sat 10 May 2025Yn dilyn diwrnod bendigedig, diolch i bawb am gefnogi’r Ffair Wanwyn heddi - plant, rhieni, staff ac yn arbennig aelodau’r 'Ffrindiau' am eu gwaith di-flino yn paratoi o flaen llaw, ar y diwrnod ac am dacluso ar ddiwedd y dydd. O ganlyniad i ymdrechion ac haelioni cymuned ein hysgol, codwyd swm arbennig o arian - cyfanswm i ddilyn yn fuan!
Following a fantastic day, thank you to everyone who supported today’s Spring Fair - pupils, parents, staff and particularly the members of the 'Friends' for their tireless work before, during and after the event. As a result of the efforts and generosity of the school community, we raised a fantastic sum of money - total to be announced soon! (10/5/25)
