Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Carolau a Choeden / Carols & Christmas Tree

    Mon 16 Dec 2024

    Braf oedd gweld cymaint o deulu YGG Pontybrenin allan yn ein cefnogi ni unwaith eto neithiwr gyda'n gwasanaeth Carolau a Choeden. Roedd awyrgylch arbennig i'r noson ac o ganlyniad i'ch haelioni neithiwr a dros yr wythnosau diwethaf yn prynu tocynnau raffl, codwyd £1661. Ga'i ddiolch yn fawr iawn unwaith eto i aelodau 'Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu hymdrechion wrth baratoi am y noson yn ogystal â'u gwaith di-flino yn ystod y digwyddiad. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!

     

    The YGG Pontybrenin family were out in force once again last night during our Carols & Christmas Tree Service. The event had a wonderful atmosphere and as a result of the raffle ticket sales, both last night and over the past month, we raised an amazing £1661. A big thank you as always to the members of 'The Friends of YGG Pontybrenin' for all their efforts leading up to the event and during the evening. Diolch yn fawr iawn i chi gyd! (16/12/24)

  • Cyngerdd Nadolig Tenovus / Tenovus Christmas Concert

    Tue 10 Dec 2024

    Eglwys y Santes Fair yn Abertawe oedd lleoliad cyngerdd Nadolig hyfryd heno, gyda chôr yr ysgol, o dan arweiniad Mrs Sartori a gyda chyfeiliad Mrs Dando, yn perfformio i gynulleidfa fawr, a'r cyfan i gefnogi elusen gancr Tenovus. Mwynheodd pawb mas draw a phleser oedd gweld cymaint o ddisgyblion yn cynrychioli'r ysgol gydag anrhydedd a gyda gwen mawr ar eu hwynebau. Da iawn chi!  

     

    St Mary's church in Swansea was the setting for a wonderful Christmas concert this evening, with the school choir, under the direction of Mrs Sartori and with the accompaniment of Mrs Dando, performing to a large audience, all in support of Tenovus cancer charity. Everyone thoroughly enjoyed and it was a pleasure seeing so many of our pupils representing the school with distinction and with beaming smiles on their faces. Da iawn chi! (10/12/24) 

Top