Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Pêl droed Blwyddyn 6 v Staff / Year 6 v Staff Football
Wed 17 Jul 2024Yn dilyn cystadlu brwd ac egniol gan chwaraewyr ar y ddwy ochr, gorffenodd y gem bêl droed diwedd y flwyddyn rhwng Blwyddyn 6 a'r staff yn gyfartal, gyda sgôr o 6 - 6. Er eu bod nhw ar ei hol hi o 3 - 0 ar un adeg, daeth tîm y staff nol mewn iddi a llwyddon nhw ddal mlaen am gêm gyfartal yn diwedd.
Following some really passionate and energetic competition from both sides, today's end of year football match between Year 6 and the staff 'all stars' finished 6 - 6. Despite being 3 - 0 down at one point, the staff gradually got back into the match and despite being under the cosh toward the end, managed to hold on for a deserved draw. (17/7/24)
-
Taith Breswyl Blwyddyn 5 i Gaerdydd / Year 5’s Residential visit to Cardiff
Thu 11 Jul 2024Cafodd disgyblion Blwyddyn 5 amser anhygoel yng Nghanolfan yr Urdd yng Nghaerdydd, gydag ymweliad â Gerddi Soffia a stadiwm chriced Swalec, Castell Caerdydd, yr Amgueddfa Genedlaethol, y Senedd, y Bathdy Brenhinol a thaith o’r bae mewn tacsi dŵr. Dychwelodd pawb i’r ysgol wedi blino'n lan ond gydag atgofion bythgofiadwy o’u hantur.
Our Year 5 pupils had an amazing time at the Urdd Centre in Cardiff, with visits to Sophia Gardens and the Swalec cricket stadium, Cardiff Castle, the National Museum of Wales, the Senedd, the Royal Mint and a tour of the bay in a water taxi. Everyone was absolutely shattered on their return to school but with memories that will last a lifetime. (11/7/24)
-
Parti Do Re Mi Canu yr Ysgol Waelod / Lower School Do Re Mi Canu Party
Wed 03 Jul 2024Hyfryd oedd croesawu Do Re Mi Canu i'r ysgol heddiw ar gyfer Jambori yr Haf y Derbyn a Blwyddyn 1&2. Joiodd y plant mas draw wrth ganu, dawnsio a chwerthin i ganeuon cyfarwydd ac anghyfarwydd.
What a joy it was to welcome Do Re Mi Canu to school today for the Reception and Years 1&2's Summer Jamboree. The children had a fantastic time singing, dancing and laughing to familiar and unfamiliar songs. (3/7/24)
