Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Buddugoliaeth Cystadleuaeth Minecraft / Minecraft Competition Success

    Thu 21 Mar 2024

    Llongyfarchiadau mawr i Thomas, Jack, Mabon ac Evan ar ennill cystadleuaeth #How Green Was My Valley Minecraft. Diolch i Ryan ⁦o Aspire2Be⁩ am wobrwyo'r tîm buddugol gyda'u hanrhegion heddiw. Joion nhw mas draw!

     

    Congratulations to Thomas, Jack, Mabon and Evan on winning the Minecraft #HowGreenWasMyValley competition. Thanks to Ryan ⁦from Aspire2Be for rewarding the winning team with their prizes. They had a blast competing! (21/3/24)

  • Diwrnod Syndrom Down / Down Syndrome Day

    Thu 21 Mar 2024

    Mae'n Ddiwrnod Syndrom Down Rhyngwladol heddiw felly codon ni ymwybyddiaeth o'r syndrom gyda diwrnod 'Sanau Sbesial'.

     

    Today is World Down Syndrome Day and we helped raise awareness of the syndrome with a 'Special Socks' day. (21/3/24)

  • Noson Sinema / Cinema Night

    Tue 12 Mar 2024

    Hyfryd oedd gweld cymaint o gefnogaeth i'r Noson Sinema heno, gyda'r neuadd dan ei sang â phlant yn mwynhau popcorn a danteithion eraill tra'n gwylio ffilm gyda'u ffrindiau. O ganlyniad i ymdrechion aelodau y 'Ffrindiau', a diolch i haelioni a chefnogaeth cymuned yr ysgol, codwyd swm arbennig o £684.

     

    It was wonderful seeing so much support for this evening's Cinema Night, with the school hall packed with pupils munching on popcorn and other sweet treats, whilst watching a film with their friends. Thanks to the efforts of the 'Friends' and the generosity and support of the school community, we raised a fantastic £684. (12/3/24)

  • Diwrnod y Llyfr / World Book Day

    Thu 07 Mar 2024

    Yn ogystal a gwisgo lan fel ein hoff gymeriadau llenyddol, hyfryd oedd gallu croesawu cymaint o ffrindiau cymuned ein hysgol i ddarllen i’r plant, gan gynnwys enwogion y byd chwaraeon a’r arwyr sy’n ein helpu pob dydd. Diolch yn fawr iawn!

     

    In addition to dressing up as our favourite literary characters for World Book Day, it was wonderful to welcome so many friends of the school community to read to our pupils, including a number of sporting celebrities and the heroes who help us everyday. Diolch yn fawr iawn! (7/3/24)

  • Eisteddfod Gŵyl Ddewi / St David’s Day Eisteddfod

    Fri 01 Mar 2024

    In dilyn Eisteddfod Gwyl Ddewi lwyddiannus arall, lle cystadlodd pob disgybl mewn cystadleuaeth o ryw fath, boed hynny'n llefaru, canu neu celf, pleser oedd cyhoeddu mai Seren oedd enillydd cystadleuaeth y gadair eleni. Llongyfarchiadau mawr i ti Seren! 

     

    Following another very successful St David's Day Eisteddfod, where all our pupils competed in various singing, reciting and art competitions, it was a pleasure to announce Seren as the winner of this year's chair competition. Congratulations Seren! (1/3/24) 

Top