FFOSFELEN
Arglwydd, wele ni yn dod
Ger dy fron i ganu clod;
Cawsom, wedi cysgu’n iawn,
Eistedd oll wrth fyrddau llawn
Cytgan:
Gwna ni’n driw i’n gwlad a’n hiaith
Yn ein chwarae, yn ein gwaith.
Maddau inni’n beiau lu
Er mwyn haeddiant Iesu cu,
Er mwyn haeddiant Iesu cu
Diolch wnawn i Ti, ein Tad,
Am roi i bob heuwr had,
A rhoi popeth yn ei bryd
I aeddfedu’r gwair a’r ŷd.
Cytgan:
Gwna ni’n driw i’n gwlad a’n hiaith
Yn ein chwarae, yn ein gwaith.
Maddau inni’n beiau lu
Er mwyn haeddiant Iesu cu,
Er mwyn haeddiant Iesu cu
Diolch am y dorf ddi-ri’
Sydd yn rhannu d’olud Di,
Ac yn cofio anfon rhan
I’r anghenus ym mhob man.
Gwna ni’n driw i’n gwlad a’n hiaith
Yn ein chwarae, yn ein gwaith.
Maddau inni’n beiau lu
Er mwyn haeddiant Iesu cu,
Er mwyn haeddiant Iesu cu
Diolch am yr haul a’i wres
Ac am dân, a’r gaea’n nes,
Am rieni, a phawb sydd
Yn ein helpu ni bob dydd.
Gwna ni’n driw i’n gwlad a’n hiaith
Yn ein chwarae, yn ein gwaith.
Maddau inni’n beiau lu
Er mwyn haeddiant Iesu cu,
Er mwyn haeddiant Iesu cu
DIOLCH AM GERDDORIAETH
Diolch am gerddoriaeth,
Alaw dda a harmonïau:
Curiad da I ddawnsio – Bywyd sydd yn gân.
Diolch am gerddoriaeth,
Llawn o hwyl a chyfle i ni symud gyda'r rhythm,
Wrth i'n ganu gân.
Canu gyda'n gilydd , dathlu wnawn.
Mae cerddoriaeth yn ein gwneud yn llon!
Rhoddodd Duw ganeuon, Melodi a lliw a rhythm
I bob un o'r gwledydd, Drwy y byd i gyd.
Rhoddodd Duw i Gymru
Lawer rheswm da i ddathlu,
A mwynhau ein bywyd – Dewch I ganu'n llon.
Canu gyda'n gilydd , dathlu wnawn.
Mae cerddoriaeth yn ein gwneud yn llon!
Canu gyda'n gilydd , dathlu wnawn.
Mae cerddoriaeth yn ein gwneud yn llon!
DIOLCH AM GERDDORIAETH
ALAW DDA A HARMONIAU
CURIAD DA I DDAWNSIO – BYWYD SYDD YN GÂN
DIOLCH AM GERDDORIAETH
LLAWN O HWYL A CHYFLE I NI SYMUD GYDA'R RHYTHM,
WRTH I'N GANU'R GÂN
DWY LAW YN ERFYN
Dwy law yn erfyn sydd yn y darlun
Wrth ymyl fy ngwely i:
Bob bore a nos mae'u gweddi'n un dlos
Mi wn er na chlywaf hi.
Pan af I gysgu, mae'r ddwy law hynny
Wrth ymyl fy ngwely i
Mewn gweddi ar Dduw i'm cadw I'n fyw,
Mi wn er na chlywaf hi.
A phan ddaw'r bore, a'r wawr yn ole
Wrth ymyl fy ngwely i,
Mae'r weddi o hyd yn fiwsig i gyd,
Mi wn er na chlywaf hi.
Rhyw nos fach dawel fe ddwg yr awel
O ymyl fy ngwely i
Y weddi i'r sêr, fel eos o bêr,
A minnau'n ei chlywed hi.
PAN DDIHUNAF YN Y BORE
Pan ddihunaf yn y bore
Gwelaf berllan lawn:
Ffrwythau aeddfed a dyf ynddi,
Moli Duw a wnawn.
Beth all roddi mwy o bleser
I Blant bach fel ni,
Na chael gweled gwaith dy ddwylo,
A'th ddaioni di?
Diolch i ti am rieni
Sy'n ein helpu ni:
Atynt hwy y trown am gymorth
Pan ddaw cwmwl du.
Felly, Arglwydd, diolch i ti
Am bob rhodd a gawn
Dyro fendith ar ein llwybr
Fore a phrynhawn.
Ffa La La
Nawr ffarwel i dir Na Nóg a Nia ar y traeth,
Gwelaf risial ddagrau ar ei grudd.
Teimlaf bridd Iwerddon yn fy ngalw i yn ôl,
A’r hiraeth am yr holl lawenydd fu,
Ffa la la la la la la la cana’r adar mân,
Y swn yn siffrwd draw o’r ynys fâd.
Ffa la la la la la la ymunaf yn y gân,
Rwy’n myned adref nôl i’m hannwyl wlad.
Meddyliaf am gyfeillion mwyn a’r gainc a’r delyn aur,
Mawl y beirdd a gwledda gynt a fu.
Chwedlau’r arwyr sŵn y gân yn atsain drwy y tŷ,
A’r merched glân yn dawnsio yno’n ffri.
Ffa la la la la la la la cana’r adar mân,
Y swn yn siffrwd draw o’r ynys fâd.
Ffa la la la la la la ymunaf yn y gân,
Rwy’n myned adref nôl i’m hannwyl wlad.
ANFONAF ANGEL
Anfonaf angel, i dy warchod heno
Anfonaf angel i'th gysuro di,
Mae swn dy lais yn ddigon -
I chwalu'r holl amheuon,
Anfonaf angel atat ti.
SGORIO GÔL
Mae ‘na gyffro ar y teras,
Mae ‘na floeddio yn y dorf
Mae y gêm bel-droed ymlaen.
Mae ‘na gicio ac anelu
Mae ‘na saethu am y gôl,
Mae y gêm bel-droed ymlaen.
Dan ni ‘di sgorio gôl , Dan ni ‘di ennill y gêm,
Ni ‘di’r gorau yn y byd.
Dan ni ‘di sgorio gôl , Dan ni ‘di ennill y gêm,
Ni ‘di’r gorau yn y byd.
Mae ‘na reffari a chwiban,
Mae ‘na benalti a chosb
Mae y gêm bel-droed ymlaen.
Mae ‘na daro’r post a methu
Mae ‘na sgorio ambell gôl,
Mae y gêm bel-droed ymlaen.
Dan ni ‘di sgorio gôl , Dan ni ‘di ennill y gêm,
Ni ‘di’r gorau yn y byd.
Dan ni ‘di sgorio gôl , Dan ni ‘di ennill y gêm,
Ni ‘di’r gorau yn y byd.