Mae plant yr ysgol wedi llenwi y bocs syniadau! Nawr mae hi’n amser i ddarllen nhw i gyd😀😅🤨
Aelodau Cyngor Ysgol 2018/19
O ganlyniad i'r etholiadau diweddar, dyma'r disgyblion a gafodd eu hethol i'r Cyngor Ysgol:
Dosbarth Mrs Parkhouse- Owain Jenkins, Gwenan Howells
Dosbarth Miss Gwenter- Ava Calo-Ferro, Evan Jones
Dosbarth Miss Williams- Keeley Bracken
Dosbarth Miss Jones / Mrs Davies- Sam Cross
Dosbarth Mr Sterl- Ashton Whitby
Dosbarth Miss Walker- Oliver Ross
Dosbarth Miss Dark- Chloe Rees
Dosbarth Miss Beynon- Katie Gale a William Rouge
Dosbarth Miss Richards - Evie Wong
Dyma ni! Here we are!













Ein Maniffesto am y flwyddyn/Our manifesto for the year ahead:
Rydym yn gobeithio:
Cyfarfod gyda ysgolion eraill i ganfod syniadau i hybu’r Gymraeg gyda plant yr ysgol.
Gofyn am fwy o offer chwaraeon ar gyfer amser egwyl.
Gosod bocs syniadau yn y neuadd.
Diwrnod Plant Mewn Angen 2017
Dewisodd y Cyngor Ysgol diwrnod pyjamas i godi arian i Blant Mewn Angen to eleni. Dyma luniau o'r diwrnod ac o aelodau'r cyngor wrth eu gwaith yn cyfri'r arian:
Aelodau Cyngor Ysgol 2016/17
O ganlyniad i'r etholiadau diweddar, dyma'r disgyblion a gafodd eu hethol i'r Cyngor Ysgol:
Dosbarth Mrs Parkhouse- Owen Lewis, Lola Wigley, Lola Burrow
Dosbarth Miss Beynon- Sophie Ryder-Rees, Luke Davies, Harri Cross
Dosbarth Miss Gwenter- Sofia Holmes
Dosbarth Miss Davies- Mari Carins-Johnson
Dosbarth Mr Sterl- Samuel Walters
Dosbarth Miss Walker- Gruffydd Evans
Dosbarth Miss Dark- Evie Cofield
Dosbarth Miss Williams- Sam Cross
Cystadleuaeth Masgot Gwrth-Fwlio
Cofiwch fod y gystadleuaeth ar gyfer llunio ein masgot newydd yn cau Dydd Gwener yma, 19eg o Fai. Bydd aelodau'r cyngor yn dod at ei gilydd ar Ddydd Gwener er mwyn beirniadu a dewis yr enillydd. Cofiwch mai Gorila yw'r masgot- Geraint y Gorila Gwrth-Fwlio ac yn ddelfrydol hoffwn gael yr enw ar y daflen rhywle hefyd. Pob lwc!
Diwrnod Ymwybyddiaeth Syndrom Down
Dyma luniau o’n disgyblion yn dathlu Diwrnod Ymwaybyddiaeth Syndrom Down eleni. Roedd Olivia wrth ei bodd yn ymweld â holl ddosbarthiadau’r ysgol i weld pawb yn cefnogi’r diwrnod. Diolch i Mrs Southgate am baratoi cyflwyniad diddorol iawn ar Syndrom Down er mwyn codi ymwybyddiaeth drwy’r ysgol.
Gan fod Diwrnod Trwynau Coch a Diwrnod Syndrom Down yn cwympo yn yr un wythnos eleni, penderfynom y byddwn yn gwahodd un cyfraniad am yr wythnos a rhannu’r cyfanswm rhwng y ddwy elusen teilwng iawn. Cyfanswm yr wythnos oedd £1012 - felly £506 yr un. Diolch i bawb am eu haelioni!
Diwrnod Trwynau Coch
Roedd y plant wrth eu boddau yn dathlu Diwrnod Trwynau Coch eleni gyda’u gwallt gwirion. Dewisodd y cyngor diwrnod gwallt gwirion i godi arian ar gyfer Comic Relief ar ôl iddynt gasglu syniadau o’u dosbarthiadau. Roedd holl blant yr ysgol wrth eu boddau, yn enwedig wrth weld yr athrawon yn ymuno hefyd.
Gan fod Diwrnod Trwynau Coch a Diwrnod Syndrom Down yn cwympo yn yr un wythnos eleni, penderfynom y byddwn yn gwahodd un cyfraniad am yr wythnos a rhannu’r cyfanswm rhwng y ddwy elusen teilwng iawn. Cyfanswm yr wythnos oedd £1012 - felly £506 yr un. Diolch i bawb am eu haelioni!
Ailwampiad Toiledau'r Merched
Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd hon, roedd nifer fawr o’r ymatebion i’n blychau syniadau yn gofyn i ni wella safon toiledau’r merched. Wrth gasglu syniadau o’r disgyblion gan weithio’n agos gyda Mr Scourfield, heb anghofio cyfraniad hael Ffrindiau YGG Pontybrenin mae’r prosiect erbyn hyn wedi gael ei chwblhau.
Dyma luniau o’r toiledau erbyn hyn ac ymatebion rhai o’n disgyblion...
Gwella'r Iard
Ar ddechrau’r flwyddyn academaidd hon, death nifer fawr o gwynion aton ni trwy ein blychau syniadau am yr iard. Dywedodd y disgyblion eu bod nhw wedi diflasu gyda’r iard. Dywedon nhw ei fod yn ddiflas, yn ddi-liw a bod diffyg gemau ar gael.
Yn unol â gofynion y disgyblion, gweithiodd y cyngor ysgol gyda Mr Scourfield er mwyn gwella ansawdd yr iard.
Erbyn hyn, mae yna amrywiaeth o gemau ar gael ar gyfer amser chwarae, cerddoriaeth yn chwarae ar draws yr iard a llawer mwy o liw!
Rhown ddiolch iFfrindiau YGG Pontybrenin unwaith eto am eu cefnogaeth wrth ariannu’r prosiectau ac i’r staff a rhieni a helpodd yn ystod y diwrnod cynnal a chadw.
Diwrnod Plant Mewn Angen 2016
Er mwyn codi arian ar gyfer Plant Mewn Angen eleni, trefnodd Cyngor Ysgol Pontybrenin diwrnod pajamas. Bu’r diwrnod yn llwyddiant wrth i ni godi £565 at yr achos.
Isod gwelwch luniau o’r diwrnod...
Ymweliad i'r senedd
Ar Ddydd Iau 3ydd o Dachwedd, teithiodd aelodau'r Cyngor Ysgol, swyddogion o'r Pwyllgor Eco a'r Llysgenhadon Gwych i'r Senedd ym Mae Caerdydd i ddysgu am ddemocratiaeth a sut mae ein cynrychiolwyr etholedig yn gwneud penderfyniadau pwysig ar ein rhan. Cafodd pawb ddiwrnod i'r brenin ac i goroni'r diwrnod, cafon nhw gyfle i gwrdd â Shane Williams yng nghoridorau pwer y Senedd. Joio!
Aelodau cyngor ysgol 2015/16




Hysbysfwrdd
Amserlen siop ffrwyth