Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Bore Coffi Macmillan / Macmillan Coffee Morning

    Fri 27 Sep 2019

    Diolch yn fawr iawn i bawb am gefnogi ein Bore Coffi Macmillan heddiw. O ganlyniad i’r ymateb gwych a'ch rhoddion hael o arian a chacennau, codwyd £509 i’r elusen arbennig hon. Diolch yn fawr iawn i chi gyd!

     

    A big thank you to everyone who supported our Macmillan Coffee Morning today. The event was very well attended and thanks to everyone's generosity, we succeeded in raising £509 for this wonderful charity. Diolch yn fawr iawn!  (27/9/19)

  • Llwyddiant Her Ddarllen yr Haf / Summer Reading Challenge success

    Fri 20 Sep 2019

    Llongyfarchiadau mawr i Ysgol Gymraeg Pontybrenin ar ennill 'Her Ddarllen yr Haf' yn Llyfrgell Gorseinon. Gyda 6 ysgol lleol yn cystadlu, bwriad yr her oedd annog cymaint o blant a phosib i ddarllen o leiaf 6 llyfr dros gwyliau'r haf. O'r 84 disgybl ymrwymodd â'r her i gychwyn, llwyddodd 33 ohonynt i gwblhau'r her, dwbl ein gwrthwynebwyr agosaf felly da iawn chi! 

     

    Congratulations to Ysgol Gymraeg Pontybrenin on winning Gorseinon Library's 'Summer Reading Challenge'. With 6 local schools competing, the aim of the challenge was to encourage as many children as possible to read at least 6 books over the summer holiday. Of the 84 pupils who signed up, 33 completed the challenge which was twice as much as our nearest challengers. Da iawn chi! (20/9/19) 

  • Blwyddyn 3 yn ymaelodi a Llyfrgell Gorseinon / Year 3 registering with Gorseinon Library

    Tue 17 Sep 2019

    Mae pob disgybl yng CA2 yn cael y cyfle i ymweld â Llyfrgell Gorseinon yn fisol er mwyn manteisio ar yr amrywiaeth hyfryd o lyfrau sydd ar gynnig iddynt. Heddiw, tro disgyblion Blwyddyn 3 oedd hi i gerdded i'r llyfrgell ac ymaelodi, gyda phawb yn edrych ymlaen at benthyg eu hoff lyfrau am y tro cyntaf. Gyda phob blwyddyn ysgol yng CA2 yn cerdded i'r llyfrgell pob 4 wythnos, yr unig amod ar y plant yw eu bod nhw'n gofalu am y llyfrau ac yn eu dychwelyd nhw i'r llyfrgell ar ôl eu darllen.  

     

    Every pupil in KS2 has the opportunity to visit Gorseinon Library on a monthly basis and can take full advantage of the wonderful selection of books they have on offer. Today it was the turn of our Year 3 pupils to walk to the library and enrol as new members, with everyone looking forward to borrowing their favourite books for the first time. Every year group in KS2 walks to the library once every 4 weeks and all we ask is that pupils keep the library's books safe and in good condition and that they're returned promptly after reading. (17/9/19).

Top