Croeso i ddosbarth Blwyddyn 6 Miss Walker
Welcome to Miss Walker’s Year 6 Class
Thema/ Theme
Mae ein thema yr hanner tymor hwn wedi’i seilio ar; ‘Ein Hardal Leol’; astudiaeth o beth sydd yn arbennig am Gorseinon. Byddwn yn astudio ‘thema fach’ yn achlysurol yn ystod y flwyddyn er mwyn dathlu digwyddiadau amrywiol.
Our theme this term is based on ‘Our Local Area’; a study of what is special about Gorseinon. We will also be studying a ‘mini theme’ at various times throughout the year to celebrate different events.
Addysg Gorfforol/ Physical Education
Bydd gwersi addysg gorfforol eich plentyn yn cymryd lle bob bydd Mawrth. Bydd y dosbarth yn parhau i dderbyn gwersi nofio am y tair wythnos nesaf, yna, ar y 18fed o Hydref byddwn yn symud at wersi ffitrwydd yn yr ysgol. Bydd angen i’r plant i wisgo’u gwisg addysg gorfforol i’r ysgol – e.e crys-t, byrion/trowsus addas, siaced ar gyfer tu fas ac esgidiau addysg gorfforol.
Your child’s P.E lesson will take place every every Tuesday. The class will continue to receive swimming lessons for the next three weeks, then, on the 18thof October we will move to fitness lessons in school. For these lessons, the children may wear their P.E kit to school – e.g shorts / tracksuit, trainers, t-shirt and a jacket for outside.
Cymorth Cartref/ Help at Home
Ar wefan y dosbarth mae yna adran arbennig yn cynnig llawer o wybodaeth ddefnyddiol i’ch helpu chi i gynorthwyo’ch plentyn yn y cartref. Dyma ambell ffordd i gefnogi’r dysgu:
On our class’ webpage there is a specific area listing useful hints and tips that will help you to support your child at home. Here are some other ways to support their learning:
- Sillafu / Spelling- Geiriau sillafu i ymarfer ar wefan y dosbarth.
Spelling words to practice on the class’ webpage.
- Tablau/ Times Tables- Disgwylir i ddisgyblion Blwyddyn 6 ymarfer eu tablau yn rheolaidd.
Year 6 pupils are expected to practice their times tables regularly.
- Darllen/ Reading- Bydd eich plentyn yn derbyn llyfrau darllen (un Cymraeg ac un Saesneg) i ddarllen adref. Bydd yr athrawes ddosbarth yn gwrando ar eich plentyn yn darllen yn ystod ein sesiynau darllen. Cyfrifoldeb y disgybl yw i newid eu llyfrau pan fydd angen.
Your child will receive reading books (one Welsh and one English) to read at home. The class teacher will listen to your child read during our daily reading sessions. It is the pupils’ responsibility to change their books when necessary.
Dysgu yn yr awyr agored / Outdoor Learning
Bydd cyfle i ddisgyblion dysgu tu allan i'r ystafell ddosbarth, gyda chyfleoedd i ddysgu yn warchodfa natur yr ysgol. Bydd angen esgidiau glaw ar gyfer y gweithgareddau yma. Danfonwch eich plentyn i mewn gydag esgidiau glaw bob wythnos os gwelwch yn dda. Bydd amser penodol ar gyfer y dosbarth i ymweld â'r warchodfa pob dydd Mawrth.
The pupils will have the opportunity to learn outside of the classroom in the school nature reserve. The pupils will need wellington boots for these activities, and we ask that you send your child in with their wellies on the allocated day. There will be a specific time for the class to visit the reserve every Tuesday.
Byrbryd bore /Morning snack
Gallwch ddarparu byrbryd iachus i’ch plentyn gan ei bod hi’n fore hir iddynt heb fwyd. Bydd angen hefyd sicrhau fod ganddynt fotel o ddŵr i yfed yn ystod y dydd. Gellir eu llenwi yn ystod y dydd petai angen.
You may wish to send your child in with a healthy snack to eat during morning break. They will also need a water bottle each day which can be refilled in school as and when is needed.
Cerdded adref / Walking home
Os ydych yn dymuno i’ch plentyn gerdded adref yn annibynnol bydd angen i chi ddanfon nodyn i’r athrawes ddosbarth yn cadarnhau eich dymuniad a’r manylion. Bydd y nodyn yn cael ei gadw yn y dosbarth er mwyn i aelodau staff gyfeirio ato.
If you wish for your child to walk home independently you will need to put this in writing to the class teacher. Please specify on which days your child will be walking. The note will be kept in class for all staff members to refer to.
Ffonau Symudol / Mobile Phones
Mae’r hawl gan eich plentyn i ddod â ffon symudol i’r ysgol os oes angen cysylltu â’ch plentyn ar ôl ysgol. Ni chaniateir y disgyblion i ddefnyddio’r ffon yn yr ysgol nac i dderbyn unrhyw alwadau yn ystod y dydd. Cysylltwch â’r swyddfa gydag unrhyw negeseuon sydd gennych i’ch plentyn os gwelwch yn dda.
Your child can bring a mobile phone to school if it’s needed for you to have contact with them after school. Your child will not be allowed to make or receive calls during the school day. Please contact the school office with any messages you may have for your child.
Taith Bontio Llangrannog / Llangrannog Transitioning Trip
Rydym yn dal i aros am fwy o wybodaeth am y Cwrs Pontio yn Llangrannogeleni. Bydd mwy o fanylion i ddilyn.
We are still awaiting information regarding the Llangrannog Transition Course. Further details to follow.
Gwefan: www.yggpontybrenin.com
Trydar: PontybreninYGG
Edrychaf ymlaen at ddod i’ch hadnabod dros y flwyddyn sydd i ddod!
I look forward to getting to know you all throughout the year to come!
Diolch yn fawr,
Miss Walker