Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Cystadleuaeth Coginio yr Urdd / Urdd Cooking Competition

    Wed 15 Oct 2025

    Hyfryd oedd gweld 'Masterchefs' y dyfodol ar waith heddiw wrth i nifer o ddisgyblion gystadlu yng nghystadleuaeth CogUrdd a PhobUrdd yr Urdd eleni, gyda wraps oer a chacennau ar y fwydlen. Roedd y creadigrwydd a safon y paratoi a'r coginio yn wych a gallai'r bwydydd hyn fod wedi eu gwerthu mewn caffi neu archfarchnad lleol. Llongyfarchiadau mawr i Felicity ar ennill y gystadleuaeth CogUrdd gyda'i wrap oer ac i Maggie ar ennill y gystadleuaeth PobUrdd gyda'i chacen. Da iawn chi a phob lwc yn y rownd nesaf.  

     

    It was wonderful seeing the next generation of 'Masterchefs' at work today as a number of our pupils competed in this year's Urdd CogUrdd and PobUrdd competitions, with cold wraps and cakes on the menu. The creativity and standard of food preparation and cooking was outstanding and would not have looked out of place in a cafe or on sale in a local supermarket. Congratulations to Felicity on winning the CogUrdd competition with her cold wrap and to Maggie on her victorious cake. Da iawn chi! Best of luck to them both in the next round. (15/10/25)  

  • Taith Gerdded Noddedig / Sponsored Walk

    Wed 08 Oct 2025

    Cafwyd diwrnod i'r brenin heddiw wrth i ddisgyblion yr ysgol gerdded hyd at 5km o gwmpas ein cymuned er mwyn codi arian i'r ysgol ac i elusen Morgan's Army. Diolch yn fawr iawn i holl aelodau teulu YGG Pontybrenin am roddi mor hael i gefnogi'r ysgol a'r elusen arbennig hon. O ganlyniad i'ch caredigrwydd, codwyd swm arbennig o £6738! Diolch yn fawr iawn i chi gyd! 

     

    A wonderful day was had by everyone today as our pupils walked up to 5km within our local community for charity, with the money raised being shared equally between the school and Morgan's Army. A huge thank you to the entire YGG Pontybrenin family who have given so generously in support of the school and this fantastic charity. Thanks to your generosity, we raised an amazing £6738! Diolch yn fawr iawn! (8/10/25)  

  • sdfsdf

    Fri 03 Oct 2025

    Llongyfarchiadau i dîm pêl-droed cymysg Blwyddyn 4 ar ennill twrnamaint pêl-droed Urdd Gorllewin Morgannwg heddiw. Enillodd y tîm pob gêm, heb ildio yr un gôl yn yn ystod y gemau grŵp. Dan arweiniad medrus Seb, a enwyd yn chwaraewr y twrnamaint, curwyd Ysgol Gymraeg Y Login Fach yn y rownd derfynol ac edrychwn ymlaen yn awr i’w gweld nhw yn cystadlu yn y rownd derfynol yn Aberystwyth ym mis Mehefin. Da iawn chi!

     

    Congratulations to our Year 4 boys and girls mixed football team on winning today's West Glamorgan Urdd football tournament. They were unbeaten on the day and didn’t concede a single goal throughout the group stages. Led skilfully by Seb, who was named player of the tournament, they beat Ysgol Gymraeg Y Login Fach in the final and will now go on to play in the finals in Aberystwyth in June. Da iawn chi! (3.10.25)

Top