Cân 1 - Nadolig!
Nadolig, Nadolig,
Ymunwch - canwch yn llon
Nadolig, Nadolig,
‘Sdim adeg arall fel hon
Nadolig, Nadolig,
Yr Iesu yn ei grud
Nadolig, Nadolig,
Fe ddaeth y baban i’r byd
Hei - mae’r Nadolig yn dod
Amser i ddathlu , fe ganwn ei glod
Hei - mae’r nadolig yn dod
Hud a rhyfeddod
Nadolig, Nadolig,
Ymunwch - canwch yn llon
Nadolig, Nadolig,
‘Sdim adeg arall fel hon
Nadolig, Nadolig,
Yr Iesu yn ei grud
Nadolig, Nadolig,
Fe ddaeth y baban i’r byd
1 - Nadolig - Guide.mp3
Cân 2 - Dim WIFI!
Be wnawn ni heb Alexa?
Dim gwgl - dim Siri
Dim Asda siop na Tesco
Dim SKY - dim Teledu!
Dim Disney plus, dim Netflix
Dim Prime - Dim Apple TV
Dim Playstation nac XBOX
O mam bach, be wnawn ni?
Bydd angen canslo Dolig
Sdim pwynt heb Nintendo
Bydd popeth nawr mor boring
Dim pwynt i’r Ho! Ho! Ho!
Be wnawn ni heb Alexa?
Dim gwgl - dim Siri
Dim Asda siop na Tesco
Dim SKY - dim Teledu!
Bydd angen canslo Dolig
Sdim pwynt heb Nintendo
Bydd popeth nawr mor boring
Dim pwynt i’r Ho! Ho! Ho!
Dim pwynt i’r Ho! Ho! Ho!
2 - Dim WiFi - Guide.mp3
Cân 3 - Pwy sy’n dwad…
Pwy sy'n dwad dros y bryn,
yn ddistaw, ddistaw bach?
Ei farf yn llaes, a'i wallt yn wyn,
â rhywbeth yn ei sach.
A phwy sy'n eistedd ar y tô,
ar bwys y simdde fawr?
Siôn Corn, Siôn Corn…Helo, helo.
Tyrd yma, tyrd i lawr!
3 - Pwy Sy'n Dwad - Guide.mp3
Cân 4 - Yr Anrheg Orau
Gofynnon am lety - roedd pob man yn llawn
‘Rôl taith didrugaredd
Yr asyn a gerddodd - ymlaen ac ymlaen
Yn cario ein brenin - ymlaen ac ymlaen
Gofynnon am lety - roedd pob man yn llawn.
Cytgan
Fe oedd yr anrheg - y gorau erioed
Brenin bach llwm yn y preseb
Gwrth a rhyfeddod - ein babi bach clud
Yr anrheg orau a ddaeth i’r byd
Fe ddaeth y bugeiliaid i weled ei wên
A’r doethion yn dilyn Dilynon y seren at Fethlehem dref
R’ol derbyn y neges - at Fethlehem dref
Fe ddaeth y bugeiliaid i weled ei wên
Cytgan
Fe oedd yr anrheg - y gorau erioed
Brenin bach llwm yn y preseb
Gwrth a rhyfeddod - ein babi bach clud
Yr anrheg orau a ddaeth i’r byd
4 - Yr Anrheg Orau - Guide.mp3
Cân 5 - Dim
Jyst chwarae gyda’n gilydd
Dim Mario, dim FIFA
Treulio amser gyda’n gilydd
Dim uploadio chwaith
Cytgan
O mae’n braf cael bod ‘da’r teulu
Troi y swits off ar bob dim
Dim WIFI ‘i hangen heno
Mae’r nosweithiau hyn mor brin
S’dim angen chargio batris
Na llwytho na back ups
Does dim angen aros oriau -
’r cylch fynd rownd a rownd
Cytgan
O mae’n braf cael bod ‘da’r teulu
Troi y swits off ar bob dim
Dim WIFI ‘i hangen heno
Mae’r nosweithiau hyn mor brin
5 - Dim - Guide.mp3
Cân 6 - Dim ond un peth
Agorwn y drws i’r Nadolig
Adeg llawn hwyl a sbri
Bydd yr eira yn disgyn?
Daw Sion Corn atom ni?
Cyffro yn cydio ynof fi ac ynot ti
Y Nadolig sy’n aros nawr.
Cytgan
Dim ond un peth sy’n well na Nadolig
Dim ond un peth sy’n well na gwyrth y byd
Dim ond un peth sy’n well na’r anrhegion
Treulio amser da phawb ynghyd
Amser i osod hosannau
‘n ddel ar y silff ben tân
‘fydd carolwyr yn galw?
A diddanu gyda’u cân?
Cyffro yn cydio ynof fi ac ynot ti,
Y nadolig sy’n aros nawr.
Dim ond un peth sy’n well na Nadolig
Dim ond un peth sy’n well na gwyrth y byd
Dim ond un peth sy’n well na’r anrhegion
Treulio amser da phawb ynghyd
Bydd y ceirw yn hedfan heno?
A fydd seren yn t’wynnu fry yn y nen?
Neges Nadolig ar draws y byd -
Neges sy’n tynnu pawb ynghyd
Dim ond un peth sy’n well na Nadolig
Dim ond un peth sy’n well na gwyrth y byd
Dim ond un peth sy’n well na’r holl anrhegion
Treulio amser da phawb ynghyd
Dim ond un peth sy’n well na
Nadolig
Dim ond un peth sy’n well na gwyrth y byd
Dim ond un peth sy’n well na’r holl anrhegion
Treulio amser da phawb ynghyd