Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Gorymdaith Bonedau Pasg / Easter Bonnet Parade

    Thu 11 Apr 2019

    Am ddisgyblion creadigol! Hyfryd oedd gweld cymaint o blant yn gwisgo'u bonedau Pasg yn ein gorymdaith heddiw. Roedd ystod arbennig o fonedau rhyfeddol i'w gweld. Llongyfarchiadau i bawb am gymryd rhan.   

     

    What creative pupils we have! It was wonderful to see so many children wearing their Easter bonnets in our parade today. The creativity on display was amazing, with a wide variety of weird and wonderful creations. Congratulations to everyone who took part. (11/4/19) 

  • Sboncio Noddedig / Sponsored Bounce

    Tue 09 Apr 2019

    Cafwyd diwrnod hyfryd yn yr ysgol heddiw wrth i ddisgyblion sboncio ar drampolinau er mwyn codi arian i'r ysgol ac i Ganolfan Gancr Maggie's yn Abertawe. Diolch yn fawr iawn i William a Simone Holmes am eu haelioni yn benthyca eu trampolinau unwaith eto eleni ac i holl aelodau Teulu YGG Pontybrenin am roddi mor hael i gefnogi eu plant a'u wyrion. Er bod yr arian dal i ddod mewn, mae'r cyfanswm a godwyd hyd yn hyn yn £3700. Diolch yn fawr iawn!  

    .

    A wonderful day was had by everyone today as our pupils bounced for charity, with all the money being shared between the school and Maggie's Cancer Centre in Swansea.  A huge thank you to William and Simone Holmes for their generosity in donating their trampolines once again this year - we couldn't do it without you! Thank you also to the entire YGG Pontybrenin family who have given so generously in sponsoring their children and grandchildren. Although the sponsor money is still being collected, as of this afternoon, we've collected a fantastic £3700. Diolch yn fawr iawn! (9/4/19)  

  • Llwyddiant Eisteddfod yr Urdd / Urdd Eisteddfod Success

    Wed 03 Apr 2019

    Ar ol misoedd o waith caled ac ymroddiad gan ddisgyblion a staff yr ysgol, hyfryd oedd blasu cymaint o lwyddiant yn Eisteddfodau Rhanbarthol yr Urdd dros y diwrnodau diwethaf. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bob un o'r disgyblion am eu perfformiadau arbennig  a charwn ddiolch hefyd i'r staff sydd wedi rhoi mor hael o'u hamser dros y misoedd diwethaf i baratoi y plant. Mae pob un ohonyn nhw yn haeddu pob canmoliaeth. Dyma i chi grynodeb o'r canlyniadau sydd yn cynnwys YGG Pontybrenin:

     

    • Llefaru Unigol Bl 3&4 - Elin Owen - 1af
    • Grwp Llefaru Bl 6 & Iau - 1af
    • Unawd Telyn Bl 6 & Iau - Rhianwen Hopkin - 1af
    • Unawd Bl 3&4 - Katie Gale - 2il
    • Unawd Llinynnol Bl 6 & Iau - Owain Jenkins - 2il
    • Parti Recorders - 2il
    • Parti Unsain Bl 6 & Iau - 2il
    • Ymgom Bl 6 & Iau - 3ydd
    • Parti Deulais Bl 6 & Iau - 3ydd
    • Grwp Dawnsio Gwerin - 3ydd
    • Unawd Piano Bl 6 & Iau, Grace Humphreys - 3ydd

     

    Edrychwn ymlaen yn awr at Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yng Nghaerdydd ym mis Mai - Ymlaen YGG Pontybrenin!

     

    Months of hard work and application on the part of both pupils and staff has paid dividends over the past few days with very successful Urdd Regional Eisteddfods. I'd like to take this opportunity to thank every one of our pupils who gave great performances and are a credit to our school and to their parents. I'd also like to thank all the staff who have given so freely of their time of the past few months in preparing our pupils. They deserve all the success in the world. A brief summary of the results featuring YGG Pontybrenin:

     

    • Yr 3&4 Individual Recitation - Elin Owen - 1st
    • Yr 6 & Jnr Recitation Group - 1st
    • Yr 6 & Jnr Harp Solo - Rhianwen Hopkin - 1st
    • Yr 3&4 Solo - Katie Gale - 2nd
    • Yr 6 & Jnr Strings Solo - Owain Jenkins - 2nd
    • Yr 6 & Jnr Recorder Party - 2nd
    • Yr 6 & Jnr Unison Party - 2nd
    • Yr 6 & Jnr Drama Sketch - 3rd
    • Yr 6 & Jnr Two Voice Party - 3rd
    • Yr 6 & Jnr Folk Dancing Group - 3rd
    • Yr 6 & Jnr Piano Solo - Grace Humphreys - 3rd

     

    We now look forward to the Urdd National Eisteddfod in Cardiff in May - Ymlaen YGG Pontybrenin!  (3/4/19)

  • Diwrnod Ymwybyddiaeth Awtistiaeth / Autism Awareness Day

    Tue 02 Apr 2019

    Er mwyn codi ymwybyddiaeth awtistiaeth fel rhan o Wythnos Ymwybyddiaeth Awtistiaeth, cynhelir nifer o weithgareddau yn yr ysgol, gan gynnwys gwisgo dillad amryliw, cystadlu yng nghwis Ann Hegerty a chynllunio a chreu enfysau ein hunain. Mwynheodd pawb mas draw a dysgon ni lawer am yr anabledd datblygiadol hyn a sut mae'n effeithio ar gymaint o bobl.

     

    In order to raise awareness of autism as part of Autism Awareness Week, we organised a number of activities in school, including dressing up in all the colours of the spectrum, competing against each other in Ann Hegerty's Quiz and designing our very own rainbows. We had a great time and learnt a lot about this developmental disability and how it affects people. (2/4/19) 

Top