Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Latest News

Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.

For the latest school news click on the headline.

  • Twrnamaint pel-rwyd / Netball tournament

    Thu 26 Mar 2026

    Llongyfarchiadau i dimau pêl-rwyd merched yr ysgol ar chwarae mor dda yn nhwrnamaint ysgolion Abertawe heddiw. Enillodd Tîm 1 drwodd i'r rownd gynderfynol a Tîm 2 i'r rownd gogynderfynol, gyda'r ddau yn colli i Ysgol Llandeilo-Ferwallt. O dan arweiniad eu hyfforddwraig Abi Hobson, mae'r ddau dîm wedi datblygu yn aruthrol dros y misoedd diwethaf ac edrychwn ymlaen at eu gweld nhw'n cynrychioli'r ysgol eto yn nhymor yr haf.

     

    Congratulations to the school's girls' netball teams on playing so well at today's Swansea schools netball tournament. Team 1 won through to the semi-finals and Team 2 progressed to the quarter finals, both losing to Bishopston Primary. Under the expert tutelage of Abi Hobson, the teams have developed immensely over the past few months and we look forward to seeing them represent the school again in the summer term. (26/3/26). 

  • Eisteddfod yr Urdd Gorllewin Morgannwg / West Glamorgan Urdd Eisteddfod

    Thu 19 Mar 2026

    Llongyfarchiadau hefyd i’r holl ddisgyblion a gynrychiolodd yr ysgol gydag anrhydedd yn Eisteddfod Ranbarthol yr Urdd heddiw. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld y disgyblion / eitemau canlynol yn cynrychioli’r ysgol a Gorllewin Morgannwg yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar Ynys Môn ym mis Mai:
    - Anya Perry (Unawd Piano Bl 6 & Iau)

    - Ffion Nabialek (Alaw Werin Bl 6 & Iau)
    - Gwennan Lewis a Ffion Nabialek (Deuawd Bl. 6 & Iau)
    - Gwennan Lewis a Ffion Nabialek (Deuawd Cerdd Dant Bl. 6 ac Iau)
    - Parti Unsain Bl 6 & Iau

     

    Congratulations also to all those pupils who represented the school with distinction at yesterday’s Urdd regional Eisteddfod. We look forward to seeing the following pupils / items representing both the school and West Glamorgan at the Urdd National Eisteddfod in Anglesey in May:

    - Anya Perry (Yr 6 & Under Piano Solo)

    - Ffion Nabialek (Yr 6 & Under Folk Song)

    - Gwennan Lewis & Ffion Nabialek (Yr 6 & Under Duet)

    - Gwennan Lewis & Ffion Nabialek (Yr 6 & Under Cerdd Dant Duet)

    - Year 6 & Under Unison Party (18/3/26)

  • Pencampwriaeth Rygbi D11 Ysgolion Cymru / Welsh Schools U11s Rugby Championship

    Thu 19 Mar 2026

    Llongyfarchiadau i dîm rygbi Blwyddyn 5 a 6 yr ysgol ar ennill Cwpan y Cadeirydd ym Mhencampwriaeth Rygbi D11 Ysgolion Cymru yn Llanymddyfri heddiw. Er cafon nhw eu rhoi yn y grŵp anoddaf gyda rhai o gewri rygbi ysgolion Cymru, chwaraeodd y bechgyn yn wych ac fe wnaethon nhw fwynhau’r profiad a’r cystadlu yn fawr iawn. Da iawn chi!

     

    Congratulations to the school’s Year 5&6 rugby team on winning the Chairman’s Cup at today’s Welsh Schools U11s Rugby Championship in Llandovery. Despite being in the ‘group of death’ with some of the heavyweights of Welsh schools’ rugby, the boys played really well and thoroughly enjoyed the experience and the high level competition. Llongyfarchiadau bois! (19/3/26)

  • Eisteddfod yr Urdd - Cylch Llwchwr / Urdd Eisteddfod - Loughor Area

    Fri 06 Mar 2026

    Llongyfarchiadau mawr i holl ddisgyblion yr ysgol a fu’n cystadlu yn Eisteddfod Gylch yr Urdd heddiw. Mae’r ysgol yn ymfalchϊo yn eu perfformaidau ac mae pob un ohonynt yn haeddu canmoliaeth am eu hymdrechion dros yr wythnosau diwethaf. Edrychwn ymlaen yn fawr at weld 17 o eitemau (unigolion a grwpiau) yn cynrychioli Cylch Llwchwr yn yr Eisteddfod Rhanbarthol yn Neuadd y Brangwyn ar Ddydd Iau, Mawrth 19eg.

    Llongyfarchiadau yn arbennig i Ffion Nabialek ar ennill Tlws Coffa Myra Rees, sy'n cael ei gyflwyno yn flynyddol i'r perfformiwr mwyaf addawol, am yr ail flwyddyn yn olynnol. Da iawn ti Ffion!

     

    Congratulations to all those pupils who competed at today’s Urdd Loughor Area Eisteddfod. As a school, we’re extremely proud of their performances and they deserve every praise for the time and effort they’ve given over the past few weeks. The standard was excellent as always and everyone gave of their very best. We look forward to seeing 17 items (individuals and groups) representing the Loughor District at the Regional Eisteddfod in the Brangwyn Hall on Thursday, March 19th.

    Congratulations in particular to Ffion Nabialek who won the Myra Rees Memorial Shield, awarded annually to the most promising performer, for the second year in succession. Llongyfarchiadau Ffion! (6/3/26)

  • Diwrnod y Llyfr / World Book Day

    Thu 05 Mar 2026

    Yn ogystal a gwisgo lan fel ein hoff gymeriadau llenyddol, hyfryd oedd gallu croesawu cymaint o ffrindiau cymuned ein hysgol i ddarllen i’r plant, gan gynnwys enwogion y byd chwaraeon a’r arwyr sy’n ein helpu pob dydd. Diolch yn fawr iawn!

     

    In addition to dressing up as our favourite literary characters for World Book Day, it was wonderful to welcome so many friends of the school community to read to our pupils, including a number of sporting celebrities and the heroes who help us everyday. Diolch yn fawr iawn! (5/3/26)

  • Eisteddfod Gwyl Ddewi / St David's Day Eisteddfod

    Tue 03 Mar 2026

    In dilyn Eisteddfod Gwyl Ddewi lwyddiannus arall, lle cystadlodd pob disgybl mewn cystadleuaeth o ryw fath, boed hynny'n llefaru, canu neu celf, pleser oedd cyhoeddu mai Summer oedd enillydd cystadleuaeth y gadair eleni. Llongyfarchiadau mawr i ti Summer! 

     

    Following another very successful St David's Day Eisteddfod, where all our pupils competed in various singing, reciting and art competitions, it was a pleasure to announce Summer as the winner of this year's chair competition. Congratulations Summer! (3/3/26) 

  • Blwyddyn 5 yng Nghanolfan yr Urdd, Caerdydd / Year 5 at the Urdd Centre, Cardiff

    Fri 06 Feb 2026

    Dros 3 diwrnod llawn antur, joiodd disgyblion Blwyddyn 5 mas draw tra'n mynychu Canolfan yr Urdd ym Mae Caerdydd. Buon nhw'n ymweld ag Amgueddfa Cymru, Stadiwm y Principality, Bathdy Brenhinol Llantrisant a'r Senedd i enwi ond rhai o'r uchafbwyntiau. Diolch yn fawr iawn i staff y gwersyll am y croeso cynnes unwaith eto eleni a diolch hefyd i staff yr ysgol am roi mor hael o'u hamser i arwain a goruchwylio'r plant.  

     

    Over 3 action packed days, our Year 5 pupils had a great time this week at the Urdd Centre in Cardiff Bay, visiting the National Museum of Wales, the Principality Stadium, the Royal Mint in Llantrisant and the Senedd to name a few points of interest.  A big thank you to the staff at the centre for the warm welcome once again this year and to all the school staff who gave so generously of their time to lead the pupils. (6/2/26)

  • Llwyddiant Gymnasteg / Gymnastics Success

    Thu 29 Jan 2026

    Llongyfarchiadau i dîm gymnasteg yr ysgol ar eu llwyddiant yng Nghystadleuaeth Gymnasteg Acro Ysgolion Cymru heddiw. Diolch i’r hyfforddiant elît y maen nhw’n ei dderbyn yn West Street Gymnastics, disgleiriodd pob aelod o’r tîm ac mae’r ysgol yn browd iawn ohonynt. Enillwyd y gystadleuaeth grŵp, gyda’r tîm sy’n cynnwys Amelia, Anais, Annest, Poppy, Carys ac Alis, yn cipo’r fedal aur ac yn symud ymlaen i gynrychioli’r ysgol ym Mhencampwriaeth Ysgolion Prydain yn Stoke ym mis Ebrill. Cafwyd llwyddiant pellach, gyda Megan a Savannah yn cipio’r fedal arian yn y gystadleuaeth parau a Gwennan a Caitlin yn ennill efydd yn y gystadleuaeth pâr. Am ddisgyblion talentog! Da iawn chi.

     

    Congratulations to the school’s gymnastics team on their success at today’s Welsh Schools Acro Gymnastics Championships. Thanks to the elite training they receive at West Street Gymnastics, every member of the team shone and made the school extremely proud. The group competition, with a team comprised of Amelia, Anais, Annest, Poppy, Carys and Alis, won gold and they will now go on to represent the school at the British Schools Championships in Stoke in April. Further success was achieved by Megan and Savannah, who won silver in the pairs competition and with Gwennan and Caitlin, who won bronze in the pairs. What talented pupils we have. Da iawn chi! (29/1/26)  

  • Disgos Santes Dwynwen / St Dwynwen's Discos

    Wed 28 Jan 2026

    Diolch i bawb am gefnogi ein disgos Santes Dwynwen dros yr wythefnos ddiwethaf (5 ohonyn nhw i gyd!), yn enwedig aelodau' Ffrindiau YGG Pontybrenin' am eu gwaith caled o flaen llaw ac ar y nosweithiau. Rydym yn ddiolchgar iawn! Codwyd cyfanswm arbennig o £723 a fydd yn cael ei ddefnyddio i brynu adnoddau gwerthfawr i'r ysgol.

     

    Thank you to everyone who supported the St Dwynwen’s discos over the past week (5 discos in total!), especially the members of the 'Friends of YGG Pontybrenin' who worked so hard beforehand and on both evenings. We’re incredibly grateful! A fantastic £723 was raised which will be used to purchase valuable resources for the school. (28/1/26)

  • Pythefnos Dathlu Sgiliau a Gwaith / Celebrating Skills and Work Fortnight

    Thu 22 Jan 2026

    Bu diwrnodau 'Dathlu fy Sgiliau' a 'Dathlu fy Ngwaith' yn lwyddiant ysgubol unwaith eto eleni, gyda nifer fawr o rieni a rhieni-cu yn mynychu'r sesiynau ac yn ymfalchio yng nghynnydd eu plant a'u wyrion . Hyfryd oedd gweld disgyblion yn arddangos eu datblygiad sgiliau tra bod eu rhieni a'u rhieni-cu yn derbyn mewnwelediad i'r strategaethau sydd ar waith ar lawr y dosbarth.

     

    Our 'Celebrating my Skills' days and 'Celebrating my Work' days proved very successful yet again this year, with a large number of parents and grandparents attending and marvelling at the progress of their children and grandchildren. It was wonderful to see the pupils showcasing their skills development whilst parents and grandparents got an insight into some of the strategies used in class. (22/1/26)

Top