Am y newyddion diweddaraf o beth sy'n mynd ymlaen yn yr ysgol - cliciwch ar y penawd.
For the latest school news click on the headline.
-
Chwaraeon cystadleuol yn ail-ddechrau! Competitive sports resume!
Fri 22 Oct 2021Yn dilyn ooediad o bron i 2 flynedd, hyfryd oedd cael ail-ddechrau chwaraeon cystadleuol heddiw, gyda disgyblion yn cystadlu yn erbyn ein cymdogion yn Ysgol Pontybrenin ym mhêl droed a phêl rwyd. Gwelwyd disgyblion cyffrous ac egniol yn cystadlu yn frwdfrydig, gyda sgiliau arbennig gan y ddwy ochr. Gobeithiwn mai y cyntaf mewn cyfres o gemau rhwng yr ysgolion yw hwn.
After an almost 2 year hiatus due to the pandemic, today saw the return of competitive sports to the school, with pupils taking on our old neighbours, Pontybrenin Primary in football and netball. Both games saw some very excited and energetic pupils competing enthusiastically, with a high level of skill on both sides. This will hopefully be the first of many meeting between the schools this year. (22/10/21)
-
Ymweliad Aneirin Karadog / Aneirin Karadog's visit
Tue 19 Oct 2021Diolch yn fawr iawn i Aneirin Karadog, cyn Fardd Plant Cymru, am ysbrydoli disgyblion Blwyddyn 3&4 i ddarllen gyda’i ddarlleniad o ‘Y Lloches’ heddiw. Am angerdd ac egni!
A big thank you to Aneirin Karadog, formerly the Welsh Children's Poet Laureate, for inspiring our Year 3&4 pupils to read with his reading of ‘Y Lloches’ today. That’s what you call passion & energy! (19/10/21)
-
Taith Gerdded Noddedig / Sponsored Walk
Thu 07 Oct 2021Er gwaethaf y tywydd diflas, cafwyd diwrnod i'r brenin heddiw wrth i ddisgyblion yr ysgol gerdded hyd at 5km o gwmpas ein cymuned er mwyn codi arian i'r ysgol ac i Ganolfan Gancr Maggie's yn Abertawe. Diolch yn fawr iawn i holl aelodau teulu YGG Pontybrenin am roddi mor hael i gefnogi'r ysgol a'r elusen arbennig hon. Er bod yr arian dal i ddod mewn, mae'r cyfanswm a godwyd hyd yn hyn yn agosau at £9600 - swm anhygoel! Diolch yn fawr iawn i chi gyd.
Despite the miserable weather, a wonderful day was had by everyone today as our pupils walked up to 5km within our local community for charity, with the money raised being shared equally between the school and Maggie's Cancer Centre in Swansea. A huge thank you to the entire YGG Pontybrenin family who have given so generously in support of the school and this fantastic charity. Although the sponsor money is still being collected, the total raised so far is approaching £9600 - an incredible sum of money! Diolch yn fawr iawn! (7/11/21)
-
Dydd Gwyl Dewi
Mon 01 Mar 2021Er nad oedd modd dathlu Dydd Gwyl Dewi yn y modd arferol ac heb eisteddfod ysgol eleni, mwynheodd disgyblion y Cyfnod Sylfaen eu diwrnod wrth ddathlu ein gwladgarwch o fewn eu swigod dosbarth - tra'n edrych yn hyfryd!
Despite not been able to celebrate St David's Day with the usual fanfare and our traditional school eisteddfod this year, our Foundation Phase pupils still had a great day celebrating our patriotism within their class bubbles - and looked fabulous in the process! (1/3/21)
-
Diweddariad Dysgu Gartref (e-bost 31.5.20) / Home Learning Update (e-mail 31.5.20)
Sun 31 May 2020*English version below
Mawr obeithiaf eich bod chi gyd dal i gadw’n ffit ac yn iach ac yn mwynhau’r tywydd bendigedig.
Gydag 'ysgol' yn ail gychwyn yfory, hoffwn dynnu eich sylw chi at gwpwl o bethau:
- Mae'r gwaith sydd wedi cael ei ddarparu i'ch plentyn hyd yn hyn, yn bennaf wedi bod yn seiliedig ar atgyfnerthu sgiliau sydd eisioes wedi cael eu cyflwyno i'r plant. Fodd bynnag, bydd ychydig o newid i'r drefn wythnos nesaf, gydag athro/awes eich plentyn yn dechrau cyflwyno sgiliau a chysyniadau newydd, yn ogystal â pharhau i adeiladu ar eu sgiliau blaenorol. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn danfon cyflwyniadau byr, fesul fideos, ar adegau, er mwyn hwyluso'r dysgu.
- Bydd athro/awes eich plentyn yn eich ffonio chi unwaith eto yr wythnos hon, gyda chyfle i ofyn cwestiynau, rhannu pryderon, ayyb. Efallai bydd y galwadau hyn yn ymddangos ar eich ffôn fel 'No Caller ID’ neu 'Number Withheld'.
- Diolch yn fawr iawn i chi sydd wedi ymateb i’r holiadur diweddar ar Ddysgu Gartref / Ar-lein. Derbyniwyd 207 o ymatebion a rhennir y canlyniadau gyda chi wythnos nesaf.
- Er bod nifer o ysgolion yn Lloegr yn ailddechrau yfory, does dim penderfyniad wedi cael ei wneud ynglŷn ag ysgolion Cymru hyd yn hyn. Cyn gynted ag y bydd newyddion sy'n berthnasol i ni yn cael ei gyhoeddi, byddaf yn eich hysbysu chi yn syth.
Gan ddymuno'r gorau i chi gyd,
Mr Ceri Scourfield
Pennaeth
I hope this e-mail find you all fit and healthy and enjoying the glorious weather.
With ‘school’ re-starting tomorrow, I’d like to draw your attention to a few things:
- The work that has been shared with your child so far has mainly been reinforcing the skills that have already been introduced to the children in class. However, there will be a slight change from next week, with your child’s class teacher beginning to introduce new skills and concepts, in addition to building on previous skills. In order to do this, he/she may occasionally receive a short lesson introduction, via video, in order to facilitate the learning.
- Your child’s class teacher will be contacting you be telephone once again this week, providing you with an opportunity to ask questions, share concerns etc. These calls may appear on your telephone as 'No Caller ID’ or 'Number Withheld'.
- Thank you very much to everyone who responded to the recent questionnaire on Home/Online Learning. We received 207 responses and the results will be shared with you next week.
- Although many schools in England will be reopening tomorrow, no decision has yet been made on schools in Wales. As soon as a decision is made that is relevant to YGG Pontybrenin, you will be informed immediately.
Wishing you all the very best,
Mr Ceri Scourfield
Headteacher
-
Newidiadau i Addysg Gartref (e-bost 28.4.20) / Changes to Home Learning (e-mail 28.4.20)
Tue 28 Apr 2020*English version below
Mawr obeithiaf eich bod chi dal i gadw’n iach ac yn ddiogel yn ystod y cyfnod heriol hwn.
Ers i’r ysgol gau ar Ddydd Gwener, Mawrth 20fed , mae eich plant (dwi’n gobeithio!) wedi bod wrthi’n brysur yn cwblhau’r tasgau a’r gweithgareddau amrywiol a baratowyd iddynt gan eu hathrawon. Lluniwyd y ‘Pecynnau Gwaith’ hyn i bara 6 wythnos (yn cynnwys gwyliau’r Pasg), gyda nifer o rieni yn eu canmol nhw am fod mor gynhwysfawr a manwl.
Fodd bynnag, mae o hyd lle i wella, ac yn dilyn adolygiad o’r ddarpariaeth ‘Addysg Gartref’, mae newidiadau wedi cael eu gwneud i’r gwaith bydd eich plentyn yn derbyn o Ddydd Llun, Mai 4ydd .
Bydd gofyn i holl ddisgyblion Blynyddoedd 1 – 6 agor eu gwaith nhw ar Microsoft Teams, rhaglen sydd gan eich plentyn eisioes ar ei gyfrif Hwb. Pennir 1 tasg ffurfiol y dydd i ddisgyblion Blwyddyn 1&2, gyda disgyblion Blynyddoedd 3 – 6 yn derbyn 2 dasg ffurfiol y dydd. Asesir y gwaith hwn gan athro/awes eich plentyn, gydag adborth yn cael ei rhoi i’r dasg. Bydd gweithgareddau amrywiol eraill a chysylltiadau i adnoddau a gwefannau addysgiadol dal i gael eu darparu ar wefan yr ysgol.
Bydd disgyblion y Meithrin a’r Derbyn yn parhau i gael at eu ‘Pecynnau Gwaith’ nhw o’u tudalennau dosbarth ar wefan yr ysgol.
Gofynnir i rieni gysylltu â’r ysgol ar unwaith petai unrhyw broblem yn codi gyda chael at y ddarpariaeth ‘Addysg Gartref’.
Bydd athro/awes eich plentyn hefyd yn rhannu fideo wythnosol gyda chi, fel modd o gadw mewn cysylltiad gyda disgyblion ac i grynhoi’r tasgau sydd wedi cael eu paratoi ar eu cyfer nhw am yr wythnos honno.
I gloi, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl staff am y gwaith arbennig maen nhw’n parhau i wneud o bell. Mae’r cyfnod hwn yn anodd i bawb, ac mae cyfarwyddo gyda dysgu o bell yn her i ni gyd. Unwaith eto, maen nhw wedi ymateb i’r her honno yn wych ac ni allaf eu cymeradwyo nhw digon am yr ymroddiad maen nhw’n parhau i ddangos wrth ddarparu yr addysg orau posib i’ch plant chi.
Gan ddymuno pob iechyd i chi gyd,
Mr Ceri Scourfield
Pennaeth
I hope this message finds you all safe and well.
Since the school’s closure on March 20th, your children have (hopefully!) been busy completing various tasks and activities that were prepared for them by their class teachers. These ‘Work Packs’ were designed to last for 6 weeks (inclusive of the Easter holiday) and have been commended by a number of parents for being comprehensive and well prepared.
However, there is always room for improvement, and having reviewed the current ‘Home Education’ provision, we have made some changes to the work your children will be receiving from Monday, May 4th .
All pupils in Years 1 – 6 will be required to access their work in Microsoft Teams, a programme your children already have in their Hwb accounts. Pupils in Years 1&2 will be set 1 formal task a day, with pupils in Years 3 – 6 completing 2 formal tasks a day. This work will be assessed by your child’s class teacher and feedback provided. Various other activities and links to educational resources and websites will continue to be provided on the school’s website.
Nursery & Reception pupils will continue to access their ‘Work Packs’ from within their class pages on the school’s website.
Parents / Guardians are asked to contact the school immediately if you have any issues accessing the ‘Home Education’ provision.
Your child’s class teacher will also be sharing a weekly video message with you, as a form of keeping in touch with pupils and summarising the tasks that have been prepared for them for the coming week.
In closing, I’d like to take this opportunity to thank all the staff for the fantastic work they continue to do remotely. These are difficult times for everyone, and getting used to remote learning is a challenge for us all. As they always do, they’ve risen to that challenge and I cannot commend them enough for the dedication they continue to show in providing your children with the best possible education.
Wishing you the best of health,
Mr Ceri Scourfield
Headteacher
-
Pecynnau gwaith i ddisgyblion / Work packs for pupils
Fri 20 Mar 2020Mae’r staff addysgu wedi bod yn brysur dros y pythefnos diwethaf yn cynhyrchu pecynnau dysgu i’ch plant, yn cynnwys amrywiaeth o weithgareddau, megis iaith, mathemateg, thema / prosiectau, datrys problemau, gweithgareddau corfforol a llawer mwy. Mae pecynnau y Cyfnod Sylfaen i'w cael ar wefan yr ysgol (www.yggpontybrenin.com) gyda disgyblion Cyfnod Allweddol 2 yn medru agor eu pecynnau nhw trwy eu cyfrifon Hwb.
Mae tua 4 wythnos o waith eisioes wedi ei baratoi yn y pecynnau hyn. Heb gynnwys pythefnos gwyliau Pasg, bydd y pecynnau hyn yn sicrhau gwaith dyddiol hyd at Mai 1af. Os, fel y disgwylir, bydd yr ysgol yn parhau ar gau ar ôl y dyddiad hwn, bydd pecynnau ychwanegol yn cael eu huwchlwytho a’u rhannu gyda chi. Bydd y ddarpariaeth hon yn parhau nes ein bod yn dychwelyd i’r ysgol. Byddwn yn eich hysbysebu o unrhyw becynnau gwaith ychwanegol trwy Parentmail o flaen llaw.
Mae cyfeiriadau e-bost Hwb pob aelod o staff eisioes wedi cael eu rhannu gyda chi. A bod achos yn codi lle mae angen cysylltu ag athro/awes eich plentyn, gallwch wneud hynny trwy eu e-bost Hwb nhw. Ond eu bod nhw’n iach, byddant yn anelu i ymateb o fewn y diwrnod.
Derbyniodd bob plentyn a oedd yn bresennol yn yr ysgol heddiw, nifer helaeth o lyfrau darllen i fynd adref (mae pob llyfr darllen / cyfres ddarllen yn yr ysgol wedi eu dosbarthu). Mae’r staff wedi cofnodi manylion yr holl lyfrau a anfonwyd adref gyda phob plentyn, a rydym yn disgwyl i’r llyfrau ddychwelyd i’r ysgol yn yr un cyflwr os gwelwch yn dda. Diolch.
The teaching staff have been busy for the past fortnight preparing comprehensive work packs for our pupils, with a wide range of activities, including language work, maths, thematic/project work, problem solving, physical activities and much, much more. The Foundation Phase packs have been uploaded to the school’s website (www.yggpontybrenin.com) and our Key Stage 2 pupils can access their packs via their Hwb online accounts.
Approximately 4 weeks of work has been prepared in these packs in the first instance. Notwithstanding the 2 week Easter break, this will take us to May 1st. If as expected, the school remains closed at this point, an additional 4 week work pack will be uploaded and shared with you. This will continue until such point as we return to school. You will be informed of any additional work packs, via Parentmail, in advance.
A copy of every staff member’s hwb e–mail addresses has been shared with you. Should the need arise, your child can contact his/her teacher via this e-mail address. As long as they are healthy, they will aim to get back to you on the same day.
All children who were present in school today were given as many reading books as possible to bring home with them (every reading scheme book and story book we have in school is being distributed). The staff have made a note of all books being sent home and we do expect all these to be returned once the school re-opens. Please make every effort to look after our books and return them in good condition. Diolch. (20/3/20)
-
Cau'r ysgol / School closure
Fri 20 Mar 2020O ganlyniad i'r pandemig coronafeirws, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi heddiw y bydd ysgolion ledled Cymru yn cau am ddarpariaeth addysg statudol ar Ddydd Gwener, Mawrth 20fed, am gyfnod anhysbys. Mae hwn yn gyfnod heriol i ni gyd, ond bydd yr ysgol yn parhau i ddiweddaru holl aelodau cymuned YGG Pontybrenin o'r newyddion a'r datblygiadau diweddaraf trwy eich cyfrifon Parentmail. Petai angen cysylltu â'r ysgol dros yr wythnosau / misoedd nesaf, gofynnir i chi e-bostio ygg.pontybrenin@swansea-edunet.gov.uk neu ffoniwch 01792 894210. Gwnawn ein gorau i ymateb i chi o fewn 24 awr. Diolch
As a result of the coronavirus pandemic, the Welsh Government has today announced that all schools in Wales will close for statutory provision of education on Friday, March 20th, until further notice. These are clearly challenging times for us all, but the school will keep all members of the YGG Pontybrenin community updated as to the latest news and developments through your Parentmail accounts. Should you need to contact the school in the coming weeks / months, then please feel free to e-mail us on ygg.pontybrenin@swansea-edunet.gov.uk or telephone on 01792 894210. We will make every effort to respond to you within 24 hours. Diolch. (20/3/20)
-
Llwyddiant pêl droed / Football success
Mon 09 Mar 2020Llongyfarchiadau mawr i dîm pêl droed merched yr ysgol ar eu buddugoliaeth yn nhwrnamaint pêl droed ysgolion Abertawe heddiw yn dilyn cystadleuaeth ciciau cosb cyffrous. Bydd y merched yn cynrychioli'r ysgol a'r rhanbarth yn y rownd derfynol yng Nghaerdydd ar Fawrth 26ain. Da iawn chi!
Congratulations to our girls football team on winning today's Swansea schools football tournament following a dramatic penalty shootout. The girls will now go on to represent the school and region at the finals in Cardiff on March 26th. Da iawn chi! (9/3/20)
-
Diwrnod y Llyfr / World Book Day
Thu 05 Mar 2020Cafwyd diwrnod i'r brenin heddiw wrth i'r ysgol gyfan ddathlu Diwrnod y Llyfr gydag amrywiaeth o weithgareddau hwylus, gan gynnwys gwisgo fel ein hoff gymeriadau llenyddol a mwynhau sesiynau stori tra'n gwledda ar fisgedi a llaeth blasus. Hyfryd hefyd oedd croesawu nifer o westeion gwadd i'r ysgol i ddarllen i'r disgyblion, gan gynnwys Heddlu De Cymru, Gwasanaeth Ambiwlans Cymru, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a disgyblion Blwyddyn 12 YG Gŵyr. Hoffwn ddiolch yn fawr iddyn nhw i gyd am roi mor hael o'u hamser.
Diolch yn fawr iawn hefyd i Asda Gorseinon a Tesco Fforestfach am eu haelioni nhw yn rhoddi'r llaeth a'r bisgedi. Blasus iawn!
Everyone had a great time today as we celebrated World Book Day with a variety of activities, including dressing up as our favourite literary characters and enjoying some wonderful story sessions, complete with milk and cookies. We also welcomed a number of guest readers to school, including South Wales Police, Wales Ambulance Service, Swansea Bay University Health Board and Year 12 pupils from YG Gwyr. A big thank you to them all for giving so generously of their time.
Thank you also to Asda Gorseinon and Tesco Fforestfach for generously donating the milk and cookies. They were delicious! (5/3/20)
