Twitter
Search

Ysgol Gynradd

Gymraeg Pontybrenin

Ysgol Gynradd Gymraeg Pontybrenin

Pont Gadarn – Addysg Euraidd

Get in touch

Contact Details

Diweddariad Dysgu Gartref (e-bost 31.5.20) / Home Learning Update (e-mail 31.5.20)

*English version below

 

Mawr obeithiaf eich bod chi gyd dal i gadw’n ffit ac yn iach ac yn mwynhau’r tywydd bendigedig.

 

Gydag 'ysgol' yn ail gychwyn yfory, hoffwn dynnu eich sylw chi at gwpwl o bethau:

  • Mae'r gwaith sydd wedi cael ei ddarparu i'ch plentyn hyd yn hyn, yn bennaf wedi bod yn seiliedig ar atgyfnerthu sgiliau sydd eisioes wedi cael eu cyflwyno i'r plant. Fodd bynnag, bydd ychydig o newid i'r drefn wythnos nesaf, gydag athro/awes eich plentyn yn dechrau cyflwyno sgiliau a chysyniadau newydd, yn ogystal â pharhau i adeiladu ar eu sgiliau blaenorol. Er mwyn gwneud hyn, byddwn yn danfon cyflwyniadau byr, fesul fideos, ar adegau, er mwyn hwyluso'r dysgu.
  • Bydd athro/awes eich plentyn yn eich ffonio chi unwaith eto yr wythnos hon, gyda chyfle i ofyn cwestiynau, rhannu pryderon, ayyb. Efallai bydd y galwadau hyn yn ymddangos ar eich ffôn fel 'No Caller ID’ neu 'Number Withheld'.
  • Diolch yn fawr iawn i chi sydd wedi ymateb i’r holiadur diweddar ar Ddysgu Gartref / Ar-lein. Derbyniwyd 207 o ymatebion a rhennir y canlyniadau gyda chi wythnos nesaf.
  • Er bod nifer o ysgolion yn Lloegr yn ailddechrau yfory, does dim penderfyniad wedi cael ei wneud ynglŷn ag ysgolion Cymru hyd yn hyn. Cyn gynted ag y bydd newyddion sy'n berthnasol i ni yn cael ei gyhoeddi, byddaf yn eich hysbysu chi yn syth.

 

Gan ddymuno'r gorau i chi gyd,

 

Mr Ceri Scourfield

Pennaeth

 

 

I hope this e-mail find you all fit and healthy and enjoying the glorious weather.

 

With ‘school’ re-starting tomorrow, I’d like to draw your attention to a few things:

  • The work that has been shared with your child so far has mainly been reinforcing the skills that have already been introduced to the children in class. However, there will be a slight change from next week, with your child’s class teacher beginning to introduce new skills and concepts, in addition to building on previous skills. In order to do this, he/she may occasionally receive a short lesson introduction, via video, in order to facilitate the learning.
  • Your child’s class teacher will be contacting you be telephone once again this week, providing you with an opportunity to ask questions, share concerns etc. These calls may appear on your telephone as 'No Caller ID’ or 'Number Withheld'.
  • Thank you very much to everyone who responded to the recent questionnaire on Home/Online Learning. We received 207 responses and the results will be shared with you next week.
  • Although many schools in England will be reopening tomorrow, no decision has yet been made on schools in Wales. As soon as a decision is made that is relevant to YGG Pontybrenin, you will be informed immediately.

 

Wishing you all the very best,

 

Mr Ceri Scourfield

Headteacher

Top